Gwella dealltwriaeth o fynegiant yr wyneb
Meddylia am y cymeriadau a’r sefyllfaoedd hyn a dychmyga dy fod yn chwarae’r rhan. Ysgrifenna beth fyddet ti’n ei ddangos ar dy wyneb i gyfleu ymdeimlad y funud a chymhara dy atebion â’r atebion enghreifftiol.
Question
Sinderela wrth glywed y cloc yn taro 12.
Wrth i’r cloc ddechrau taro, newidiodd wyneb Sinderela o wên i gyfuniad o sioc ac ofn - llygaid ar agor led y pen, ceg ar agor ychydig bach a llonyddwch yn awgrymu ei phanig.
Question
Rwyt ti’n 16 oed. Rwyt ti allan am y dydd yng Nghaerdydd. Rwyt ti’n edrych yn dy fag ac yn gweld bod dy ffôn wedi cael ei ddwyn.
Gan chwerthin ar jôc ei gyfaill, tawelodd ei chwerthiniad wrth ymbalfalu yn ei fag am y ffôn. Dechreuodd anadlu’n gyflym ac agorodd ei lygaid mewn panig ac agorodd ei geg mewn siâp ‘O’ syn.
Question
Mae dy dîm newydd sgorio’r gôl sy’n ennill y gêm.
Wrth i’r tîm sgorio’r gôl, agorodd ei llygaid mewn anghrediniaeth a daliodd ei hanadl yn ddisgwylgar. Yna wrth iddi sylweddoli ei fod mewn gwirionedd yn gôl, gwenodd yn llydan. Disgleiriodd ei llygaid gyda phleser ac agorodd ei cheg led y pen i weiddi ei chymeradwyaeth.
Yn yr enghreifftiau hyn, gwelwn bedwar manylyn sy’n dangos y newid hwyliau: y newid, y llygaid llydan, y geg yn agor a llonyddwch. Mae’r panig neu’r pleser yn arwydd o’r hyn roedd y cymeriadau’n dymuno ei awgrymu.
Efallai na fydd dy ateb yn union yr un fath â’r rhain, ond gwna’n siŵr dy fod yn gallu adnabod y nodweddion sydd eu hangen arnat ti.