Disgrifio mynegiant yr wynebSut i ddisgrifio mynegiant yr wyneb

Mae mynegiant yr wyneb yn gallu dweud llawer wrthon ni am gymeriadau, sefyllfaoedd ac is-destun. Mae'n bwysig dy fod yn dysgu beth maen nhw'n ei ddatgelu am emosiynau a hwyliau, a sut i'w defnyddio.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Sut i ddisgrifio mynegiant yr wyneb

Mae dau reswm pam y byddai angen i ti ddisgrifio mynegiant yr wyneb mewn perfformiad. Gallet ti fod yn disgrifio’r hyn y byddi di wedi ceisio ei gyflawni a pham y gwnest ti ddefnyddio mynegiant penodol mewn perfformiad. Neu gallet ti fod yn disgrifio gwaith actor mewn perfformiad y byddi di wedi ei wylio.

Beth ydw i’n ei ddisgrifio?

Meddylia beth sydd ar wyneb:

  • llygaid
  • clustiau
  • trwyn
  • ceg/gwefus
  • aeliau
  • gên
  • bochau
  • talcen

Creu mynegiant yn yr wyneb

Sut gallet ti wneud i’r rhain weithio i ti wrth greu mynegiant? Mae rhai yn fwy symudol na’i gilydd, ond gall pob un gyfrannu at ddisgrifiad. Meddylia am godi dy aeliau, sy’n gallu mynegi sioc neu syndod. Mae codi dy ên neu dy drwyn yn yr awyr yn gallu awgrymu dy fod yn snobyddlyd. Meddylia hefyd am syllu’n wag neu ffromi, er enghraifft, a’r effaith y gallai’r gweithredoedd hyn ei chael. Er enghraifft:

Roedd gwefusau pletiog y fam yn cyfleu ei llid ar y pwynt hwn, er bod esboniad Jack yn golygu nad oedd ganddi gyfle i ddweud dim byd ar unwaith.

Neu

Pletiais fy ngwefusau pan glywais fod Jack wedi gwerthu’r fuwch am bum ffeuen, er mwyn cyfleu fy llid, gan fod rhaid i fi aros am fy llinell.

Cynnwys dy sylwadau yn dy ysgrifennu

Fyddi di ddim yn gallu gwneud sylw am bob ystum neu fynegiant ar wyneb mewn perfformiad. Ond mae’n bosib i ti ddethol pwyntiau allweddol mewn darn o waith a sôn amdanyn nhw er mwyn i ti gael sylwebaeth glir sy’n pwysleisio’r elfennau pwysicaf.

Cofia, wrth ysgrifennu am fynegiant yr wyneb, fod angen dwy elfen ar gyfer pob sylw:

  • manylion y mynegiant neu’r ystum
  • beth mae hyn yn ei gyfleu neu beth oedd yn bwriadu ei gyfleu

Er mwyn mynegi’r pwyntiau allweddol hyn yn effeithiol rhaid disgrifio pob un yn glir a’i gysylltu â’r effaith y bwriadwyd iddo ei chael. Mae hyn yn wir hyd yn oed os byddi di’n bod yn negyddol: ‘Roedd yn ceisio mynegi sioc gan agor ei llygaid yn llydan, ond roedd ei hwyneb yn edrych ychydig yn syn ar y gorau gan iddi fethu â thynnu’r wên fach oddi ar ei hwyneb.’ Yn yr enghraifft hon, mae’r mynegiant a’r effaith a fwriedir a’r hyn a gyflëwyd mewn gwirionedd yn cael eu mynegi’n . Manylder ydy’r gair allweddol wrth ddisgrifio mynegiant yr wyneb.

Cast drama SXTO, Arad Goch
Image caption,
Ydy dicter y ferch ar y dde yn nrama Cwmni Arad Goch, SXTO yn amlwg i ti? Pam? LLUN: Arad Goch/Keith Morris