Disgrifio mynegiant yr wynebDehongli sgript

Mae mynegiant yr wyneb yn gallu dweud llawer wrthon ni am gymeriadau, sefyllfaoedd ac is-destun. Mae'n bwysig dy fod yn dysgu beth maen nhw'n ei ddatgelu am emosiynau a hwyliau, a sut i'w defnyddio.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Dehongli sgript

Dewisa senario a llinell o unrhyw ddrama, ee gallet ti ddefnyddio’r llinell hon o’r ddrama Diwedd Dyn Bach (Death of a Salesman) gan Arthur Miller.

Diwedd Dyn Bach
by Arthur Miller

Willy

Maen nhw wedi ein cau ni i mewn yn fa’ma. Brics a ffenestri, ffenestri a brics…

Gweithia gyda phartner. Dylai un ohonoch chi ysgrifennu cyfarwyddiadau manwl ar gyfer y mynegiant sydd ei angen ar yr wyneb i gyfleu’r llinell hon yn effeithiol. Rhaid i’r llall actio’r llinell gan ddilyn y cyfarwyddiadau. Os nad oedd y cyfarwyddiadau’n ddigon manwl, ysgrifennwch nhw eto gyda’ch gilydd i sicrhau disgrifiad manwl er mwyn i’r darllenydd allu ei ‘weld’ wrth ddarllen.

Mae’r llinell hon yn cyfeirio at deimlad y cymeriad o fod wedi ei ddal ac ar lefel ddyfnach ei rwystredigaeth gyda’i fywyd. Mae’n teimlo ei fod yn cael ei gyfyngu ac mae’n rhwystredig felly mae angen i ystumiau’r wyneb ddangos hyn. Ni fyddai’n gwenu, ond byddai’n dangos ei rwystredigaeth nhw anweledig ac amhoblogaidd a dylai fod yn fwy mynegiannol a blin na’r ail frawddeg.

Byddai amnaid swta gyda’r pen ar y gair nhw a llygaid yn fflachio’n dangos hyn yn effeithiol. Mae’r geiriau brics a ffenestri yn cael eu hailadrodd i bwysleisio emosiynau Willy sydd wedi ei gaethiwo. Maen nhw hefyd yn awgrymu undonedd ac oferedd fel pe bai mewn arch o ffenestri a briciau. Dylai’r wyneb felly ddangos yr oferedd hwn gyda llygaid ‘marw’ difynegiant i wrthbwyso’r dicter a welir ar y dechrau.

Arthur Miller, y dramodydd Americanaidd, 1956
Image caption,
Arthur Miller, y dramodydd Americanaidd, 1956 LLUN: Ronald Grant Archive

Defnyddio mynegiant yr wyneb mewn perfformiad

Mae’r fideo hwn gan Gwmni Da yn dangos golygfa o ddrama Aled Jones Williams, Ar Lan y Môr a gynhyrchwyd gan Gwmni’r Frân Wen. Yn y clip mae’r actores, Ffion Dafis yn portreadu gwraig sy’n dioddef o salwch meddwl. Sut mae’n defnyddio ei hwyneb i fynegi ei dicter?