Disgrifio gwisgLliw a ffabrig

Mae dewis y gwisgoedd cywir ar gyfer cymeriadau yn hollbwysig mewn dramâu cyfnod a rhai modern. Dylen nhw fod yn addas i gyfnod a diwylliant y ddrama ac i statws y cymeriadau.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Lliw a ffabrig

Roedd y deddfau cyfyngu, a oedd mewn grym yng Nghymru a Lloegr tan yr 17eg ganrif, yn dweud beth roedd pobl o wahanol statws cymdeithasol yn cael ei wisgo. Roedd hyn yn cynnwys y lliw. Pasiwyd deddf yn 1571 a oedd yn dweud bod rhaid i bawb dros chwech oed, ar wahân i uchelwyr, wisgo capan gwlân ar ddydd Sul a gwyliau. Diben y gyfraith oedd cefnogi’r fasnach wlân ond hefyd gwnaeth gapiau, ac yn y pen draw y cap stabl cyfarwydd, yn rhan o wisg bob dydd y dosbarth gweithiol.

Yn y 19eg ganrif roedd yna ddisgwyl i ferched y werin wisgo ffedogau wedi eu gwneud allan o frethyn fetal, sef cymysgedd o sidan, gwlân a chotwm. Ffedogau gorau ar gyfer dydd Sul oedd y rhain. Edrycha ar y gwisgoedd o’r ddrama Te yn y Grug gan gwmni theatr Bara Caws. Dylai fod yn amlwg mai gwisgoedd y werin ydy’r rhain o’r 19eg ganrif.

Actorion yn perfformio yn Te yn y Grug, Theatr Bara Caws, 2013
Image caption,
Actorion yn perfformio yn Te yn y Grug, Theatr Bara Caws, 2013 LLUN: Theatr Bara Caws

Felly un o’r pethau a allai fod o ddiddordeb wrth siarad am ddrama gan Shakespeare, er enghraifft, ydy pa mor gywir ydy’r wisg hanesyddol.

Mae’n bosib defnyddio lliwiau i awgrymu emosiynau neu themâu i’r gynulleidfa. Mae coch yn gallu cynrychioli perygl neu waed, felly byddai’n lliw da ar gyfer gwisg yr Arglwyddes Macbeth. Os ydy’r dylunydd golau’n defnyddio gels lliw, dylet ti dalu sylw i sut mae hyn yn effeithio ar y gwisgoedd. Er enghraifft mae coch dan oleuadau coch yn edrych yn ddi-liw ond dan oleuadau glas mae’n gallu edrych bron yn ddu.

Mae ansawdd neu olwg defnyddiau’n gallu dweud wrth y gynulleidfa a ydy’r cymeriad yn gyfoethog neu’n dlawd. Byddai disgwyl i uchelwr cyfoethog wisgo sidanau drud gydag addurniadau fel gemwaith tra bod cymeriad tlawd yn fwy tebygol o wisgo deunydd mwy cwrs a rhad.

Byddai cymeriadau’r ‘Mechanicals’ yn y ddrama Breuddwyd Noswyl Ifan (A Midsummer Night’s Dream) gan Shakespeare, sy’n cael eu disgrifio fel ‘criw o glytiau’ (‘a crew of patches’), yn gwisgo’n syml fel llafurwyr. Ond byddai cymeriadau mwy bonheddig megis Hermia a Lysander yn gwisgo dillad mwy coeth.