Datblygu sgiliau disgrifio gwisg
Edrycha ar y delweddau o wisgoedd o wahanol gyfnodau yn yr oriel luniau. Ateba’r cwestiynau yna cymhara dy atebion di â’r atebion enghreifftiol.

Image caption, Jonathan Rhys Meyers yn The Tudors, 2011 LLUN: © 2010 TM Productions Limited/PA Tudors Inc. An Ireland-Canada Co-Production

Image caption, John Cronin, Damola Adelaja a Kim McCafferty yn actio yn ffilm Y Syrcas, S4C, 2013 LLUN: Keith Morris/S4C

Image caption, Actorion ar Bont Trefechan, Aberystwyth yn Y Bont, Theatr Genedlaethol Cymru, 2013 LLUN: Keith Morris

Image caption, Llun o Ryan Davies a Ronnie Williams

Image caption, Yr actor Richard Harrington, sy'n portreadu Mathias yn Y Gwyll LLUN: Reuters

Image caption, Cyberman o raglen Doctor Who, 2005
1 of 6
Question
Fedri di esbonio pa oes neu gyfnod mae pob delwedd yn ei gynrychioli a pham?
Mae’r ddelwedd gyntaf yn cynrychioli oes y TuduriaidY cyfnod 1485-1603 pan oedd aelodau o deulu brenhinol y Tuduriaid yn frenin neu'n frenhines Lloegr.. Mae hyn yn amlwg gan fod y cymeriad mewn gwisg o oes ElisabethTeyrnasiad y Frenhines Elisabeth y Cyntaf (1558-1603). gyda dwbled neu siaced dynn. Mae’r gwddf hir hefyd yn arwydd o oes y Tuduriaid er y byddai ‘rwff’ yn fwy nodweddiadol o’r cyfnod.
Mae’r ail ddelwedd yn dangos cyfnod oes FictoriaTeyrnasiad y Frenhines Fictoria (1837-1901).. Mae’n amlwg nad ydy’r cymeriadau’n perthyn i ddosbarth cymdeithasol uchel gan fod defnydd siwt y dyn yn ddefnydd rhatach yr olwg nag y byddai uchelwr yn ei wisgo. Ond mae ei het a’i wasgod yn nodweddiadol o’r cyfnod. Mae’r fenyw yn gwisgo blows sy’n debyg i staes a oedd hefyd yn boblogaidd yn y cyfnod hwn.
Mae’r ddelwedd nesaf yn cynrychioli’r 1960au gan fod y wraig yn y blaen yn gwisgo ffasiwn nodweddiadol y cyfnod, gyda’r got wlân drom yn ddilledyn poblogaidd gan y dosbarth gweithiol ar y pryd. Roedd y sgarff pen hefyd yn ategolyn poblogaidd drwy gydol y 1960au. Mae hwn yn nodweddiadol o wisg o’r 1960au ac yn fwy tebyg i’r hyn y byddai pobl gyffredin yng Nghymru yn ei wisgo na grwpiau penodol o’r cyfnod fel ‘hippies’ neu ‘mods’.
Mae’r bedwaredd ddelwedd yn amlwg yn cynrychioli’r 1970au. Roedd dynion yn gwisgo teis ‘kipper’ llydan a chrysau gyda choleri pigfain yn y cyfnod hwn. Mae’r gwallt hefyd yn nodweddiadol o’r 1970au gyda gwallt hir a locsyn clust (‘sideburns’) yn boblogaidd.
Mae’r ddelwedd nesaf yn dangos cyfnod modern yr 21ain ganrif. Mae’r cymeriad yn gwisgo dillad anffurfiol hamddenol ac mae’r ffordd mae’r dillad wedi eu torri’n dangos nad ydyn nhw’n dod o gyfnod cynharach. Er enghraifft, byddai gan grys o’r 1970au goler bigfain hir. Mae gwallt y cymeriad hefyd yn fodern, a dim golwg o locsyn clust y saithdegau.
Cymeriad Cyberman o gyfres Doctor Who ydy’r ddelwedd olaf. Mae hon yn wisg gymhleth sy’n cuddio’r actor yn llwyr. Mae’n gymeriad ffantasi neu ffuglen wyddonol sydd ddim yn dod o gyfnod penodol er y gellid ei alw’n dyfodolaiddYn adlewyrchu adeg yn y dyfodol. Gellir dangos hyn drwy gyfrwng gwisg, set neu agwedd a gwerthoedd y cymeriadau..
Question
Edrycha unwaith eto ar y llun o Harri VIII. Sut bydd y wisg hon yn helpu’r actor i greu cymeriad Harri?
Defnydd aur addurnedig ydy’r wisg hon ac mae wedi ei dylunio i nodi statws a chyfoeth y cymeriad a byddai hyn yn helpu’r actor i fabwysiadu cymeriad Harri VIII. Mae’r dewis o liw yn arwyddocaol hefyd gan fod coch yn arwydd o berygl a grym yn yr achos hwn. Roedd Harri’n frenin yr oedd pobl yn ei ofni ac nad oedd yn ofni lladd i gael ei ffordd ei hun, felly mae’r dewis hwn o liw yn arwydd effeithiol iawn o nodweddion personoliaeth y cymeriad. Mae hefyd yn wisg sy’n mynnu sylw a byddai o gymorth i’r actor gael ei weld yn amlwg ym mhob golygfa. Mae’r ffaith bod y wisg yn dynn hefyd yn helpu’r actor i sefyll yn syth fel brenin. Fyddai gwisg lac, lai tynn ddim yn addas i’r cymeriad hwn.