Ysgrifennu a gwerthuso theatrGwerthuso dy waith dy hun

Os byddi di’n ysgrifennu adolygiad neu werthusiad dydy ystyried yr actio a’r perfformio yn unig ddim yn ddigon. Rhaid talu sylw i’r set, gwisgoedd, golau a sain, gan gyfiawnhau dy farn bob tro.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Gwerthuso dy waith dy hun

Sut mae mynd ati i werthuso dy waith dy hun? Pan fyddi di’n creu drama mae’n bwysig iawn gwerthuso dy waith wrth fynd ymlaen er mwyn i ti allu rheoli ei safon ac addasu a newid pethau yn ôl yr angen. Bydd yn rhaid i ti fod yn onest am beth sy’n gweithio a beth y gallet ti ei wella. Bydd sicrhau bod gen ti amcan clir yn dy helpu i weld a wyt ti ar y trywydd cywir. Cofia ystyried yr hyn rwyt ti’n ceisio ei gyflawni bob tro. Os oes angen i ti ysgrifennu am y broses o greu’r ddrama, bydd yn fuddiol i ti gadw nodiadau fel bod gen ti gofnod o sut mae dy waith wedi datblygu yn ystod yr ymarferion. Wrth ysgrifennu am y broses o greu drama, fyddet ti ddim yn canolbwyntio ar yr hyn weithiodd yn dda yn y perfformiad terfynol.

Meddylia am unrhyw adegau allweddol yn y broses o ddatblygu’r gwaith a gyfrannodd at ei ffurfio neu a effeithiodd arno. Efallai dy fod wedi defnyddio technegau ymarfer penodol megis i ddatblygu cymeriadau. A ddefnyddiaist ti waith byrfyfyr i greu cynnwys? Gwna’n siŵr nad wyt ti’n rhestru’r hyn wnest ti’n unig - esbonia pam wnest ti unrhyw beth, a’i effaith ar gyfeiriad dy waith. Wrth ysgrifennu am ddatblygiad dy waith, mae’n syniad da ei werthuso yn erbyn nod clir ar gyfer y darn.

Er enghraifft:

Roedden ni am atgoffa’r gynulleidfa am effaith emosiynol y gwrthdrawiad ar y teulu felly fe benderfynom ni greu o symudiadau i’w gynrychioli, sef darn o theatr gorfforol sy’n digwydd dro ar ôl tro. Roeddwn i’n gallu gweld y byddai modd defnyddio hyn yn effeithiol wrth drosglwyddo rhwng y golygfeydd mwy . Felly aethon ni ati i arbrofi gyda’r motiff ar gyflymder gwahanol a chyda lefelau gwahanol o dyndra, er enghraifft yn araf neu’n robotaidd. Roedd hyn yn sicrhau nad oedd y gynulleidfa’n diflasu ac roedd yn cyfleu’n llwyddiannus sut mae atgof am y gwrthdrawiad yn bresennol am byth ym mywydau’r cymeriadau.

Darllena’r ddau werthusiad o ddatblygiad drama. Pa un ydy’r gorau yn dy farn di a pham?

Gwerthusiad un

Roedd natur episodig ein drama yn golygu bod y gynulleidfa’n gweld llawer o gymeriadau gwahanol ar y llwyfan. Wrth i gymeriadau newydd ymddangos roedd yn ddryslyd ambell waith felly awgrymais y gallen ni oresgyn hyn drwy ychwanegu rhywun yn adrodd y stori. Roedd ein monologau’n siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa am y cymeriadau gan gyhoeddi’r olygfa nesaf. Defnyddion ni arddull Theatr Epig drwy ddod allan o’r rhan yn fwriadol ac adrodd y stori. Roedd hyn yn golygu bod y gynulleidfa’n cysylltu llai yn emosiynol ac felly roedden nhw’n gallu cwestiynu pam mae’r cymeriadau’n ymddwyn mewn ffordd arbennig.

Gwerthusiad dau

Ychwanegon ni fonologau ar gyfer pob cymeriad a oedd yn gweithio fel dyfais i adrodd y stori. Roedd y rhain yn dweud wrth y gynulleidfa am ein cymeriadau ac yn cael eu defnyddio i gyhoeddi’r olygfa nesaf. Gwnaethon ni hyn am fod gennym ni lawer o gymeriadau felly roedd hyn yn helpu i’w gwneud yn amlwg pwy oedden ni drwy’r ddrama. Roedd dod allan o’r rhan yn gweithio’n dda.

Mae’r gwerthusiad cyntaf yn llawer gwell na’r ail. Mae’n nodi problem ac yna’n esbonio sut y cafodd ei goresgyn. Mae hefyd yn egluro effaith syniadau’r awdur ei hun ar ddatblygiad y ddrama. Mae nod clir o ran beth maen nhw am i’r gynulleidfa ei deimlo a chaiff hyn ei ddefnyddio i werthuso llwyddiant. Mae’r ail baragraff yn dweud beth gafodd ei wneud ond does dim llawer o esboniad pam neu beth oedden nhw’n gobeithio ei gyflawni. Dydy hi ddim yn ddigon dweud bod rhywbeth yn gweithio neu beidio; y peth pwysig ydy pam.