Ysgrifennu a gwerthuso theatrRhoi a derbyn adborth
Os byddi di’n ysgrifennu adolygiad neu werthusiad dydy ystyried yr actio a’r perfformio yn unig ddim yn ddigon. Rhaid talu sylw i’r set, gwisgoedd, golau a sain, gan gyfiawnhau dy farn bob tro.
Mae’n bwysig dangos dy waith ar wahanol adegau yn ystod ei ddatblygiad. Efallai na fydd syniadau sy’n glir i ti mor amlwg i rywun o’r tu allan nad oedd yn bresennol pan gafodd y syniadau cyntaf eu trafod.
Mae adborth gan bobl eraill yn gallu bod yn ddefnyddiol i dy helpu di i werthuso dy gynnydd a nodi meysydd i’w gwella.
Os byddi di’n rhoi adborth i eraill mae’n bwysig fframio dy sylwadau’n gadarnhaol; mae hyn yn cael ei alw’n feirniadaeth adeiladol. Ceisia awgrymu ffyrdd y gallai’r perfformwyr a’r cyfarwyddwr wella’r cynhyrchiad yn hytrach na beirniadu’n unig.
Er enghraifft:
Roeddwn i wrth fy modd gyda’r egni ar y dechrau a thynnodd fy sylw ar unwaith. Ond mae’r olygfa nesaf ychydig yn statig. Rwy’n meddwl bod y llonyddwch yn gweithio ar gyfer y monolog. Ond efallai y gallech chi ystyried mwy o symud o gwmpas y llwyfan yn gyntaf i greu cyferbyniad ac ychwanegu diddordeb.
Neu
Rwy’n hoffi syniad y …. ond doeddwn i ddim wir yn deall …
Pan fydd pobl eraill wedi gweithio’n galed i greu drama mae’n bwysig bod yn sensitif, cynnig cymorth a bod yn ddiplomatig.