Ysgrifennu a gwerthuso theatrLlwyfan a set

Os byddi di’n ysgrifennu adolygiad neu werthusiad dydy ystyried yr actio a’r perfformio yn unig ddim yn ddigon. Rhaid talu sylw i’r set, gwisgoedd, golau a sain, gan gyfiawnhau dy farn bob tro.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Llwyfan a set

Mae adolygiad da bob amser yn talu sylw i ddyluniad y cynhyrchiad oherwydd y llwyfan a’r set ydy’r pethau cyntaf y byddi di’n eu gweld fel arfer wrth wylio cynhyrchiad.

Dylet ti sôn am:

  • siâp y llwyfan a’r effaith mae’n ei gael ar y berthynas rhwng yr actorion a’r gynulleidfa, ee yr ymdeimlad agos-atoch a geir gyda theatr gylch
  • arddull, ee naturiolaidd neu finimalaidd
  • beth oedd ar y llwyfan a’r effaith a grëwyd
  • symbolaeth, sef defnyddio rhywbeth mewn modd cynrychioliadol i sefyll dros rywbeth neu i greu cyswllt â rhywbeth arall, ee dodrefn blêr yn cynrychioli perthynas flinedig
  • unrhyw nodweddion allweddol neu syniadau dyfeisgar, ee bwrdd yn agor i fod yn gar

Mae’r set yn sefydlu byd y ddrama ac arddull y darn, felly mae deall beth mae’n ei ddweud wrth y gynulleidfa’n bwysig. Gwna nodiadau o dy argraffiadau cyntaf. Pa ddisgwyliadau a gafodd eu creu gan ddyluniad y set? Os ydy’r set yn finimalaidd yna byddi di’n gwybod y bydd y cynhyrchiad yn dibynnu ar elfennau eraill i greu awyrgylch effeithiol. Gallai setiau hefyd fod yn syml am resymau eraill megis cost neu am fod gan y ddrama lawer o newidiadau golygfa a fyddai’n anodd eu cyflawni gyda set goeth sefydlog.

Actorion yn perfformio yn Llanast, Theatr Bara Caws, 2013.
Image caption,
Actorion yn perfformio yn Llanast, Theatr Bara Caws, 2013 LLUN: Theatr Bara Caws

Dy waith di fel adolygydd ydy nodi unrhyw elfennau diddorol o’r set sydd yn amlwg wedi eu cynnwys yn y cynhyrchiad gan y cyfarwyddwr a’r dylunydd am reswm. Er enghraifft, nododd beirniad Golwg, Mirain Jones, yn ei hadolygiad o gynhyrchiad Theatr Bara Caws, Llanast:

Roedd y set yn cyfleu’r dinistr wrth i’r ystafell fyw ar ddechrau’r ddrama edrych fel pin mewn papur ond erbyn y diwedd, ar ôl chwydu, taflu tiwlips a llawer o alcohol roedd y lle’n flêr ac anniben.
Golwg 360, Rhagfyr 2 2013

Gwisgoedd

Dylet ti hefyd ddisgrifio’r dewisiadau gwisgoedd yn enwedig os ydyn nhw’n drawiadol neu’n anarferol mewn unrhyw ffordd. Darllena Disgrifio gwisg i ddysgu mwy.