Dewisiadau cyfarwyddo
Y cyfarwyddwr sydd â rheolaeth gyffredinol o’r cynhyrchiad. Paid ag anghofio cyfeirio at sut rwyt ti’n meddwl yr effeithiodd cyfraniad y cyfarwyddwr ar y cynhyrchiad. Meddylia am y canlynol:
- A oedd gan y cyfarwyddwr gysyniad neu nod sefydlog ar gyfer y gwaith? Sut y cafodd hyn ei gyfleu?
- Pa ddewisiadau penodol wnaeth y cyfarwyddwr ynglŷn ag arddull?
- A oedd unrhyw newidiadau sylweddol neu doriadau yn y sgript ac os felly, beth oedd hyn yn ei gyflawni? A oedd hyn yn effeithio ar gyflymder neu strwythur y ddrama?
- Beth oedd y daith emosiynol i’r gynulleidfa? A oedd tyndra neu gyferbyniad yn cael ei greu a sut?
- Darllena nodiadau’r rhaglen a chwilia ar-lein am unrhyw wybodaeth gefndir am y cyfarwyddwr a allai dy helpu di. Efallai ei fod yn enwog am arddull neu ffurf arbennig.
Yn ei hadolygiad i National Theatre Wales o gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o Y Storm, mae Elin Williams yn canolbwyntio ar y dewisiadau cyfarwyddo:
Wrth gerdded i mewn roedd yr awyrgylch yn cael ei sefydlu’n syth, a gyda chyfarwyddwyr fel Elen Bowman, roeddwn i’n hyderus bod y perfformiad yn mynd i fod yn un a oedd yn mynd i godi syndod ar y gynulleidfa… Roedd darnau o ddefnydd gwyn yn hongian o’r nenfwd er mwyn gweithio fel sgrin, fel bod delweddau a fideos effeithiol yn cael eu taflunio arni. Trwy gydol y perfformiad roedd y naws yn gyson, gyda goleuadau diddorol ac, ambell waith, iasol.

Mae’r blogiwr Daflog yn feirniadol o gyfres dditectif S4C Y Gwyll:
Un o nodweddion y cyfresi Sgandinafaidd yw cynildeb y ddeialog, actio a’r golygfeydd. Dwi ddim yn credu fod hyn yn nodwedd yn y bennod gynta o’r Gwyll. Roeddwn i’n teimlo fel bod yna ruthr i symud rhwng golygfeydd ac roedd gormod o doriadau camera o fewn y golygfeydd hynny. Doedd gen i ddim teimlad o densiwn wrth wylio yr awr gynta.
Dyma enghraifft o feirniad yn datgan barn negyddol gydag enghreifftiau’n esbonio pam mae’n credu bod gweledigaeth y cyfarwyddwr yn ddiffygiol. Mae’r adolygydd yn gwneud hyn drwy restru problemau o ran cyflymder a thyndra yn y rhaglen. Cofia fod rhaid i ti gefnogi unrhyw bwyntiau negyddol y byddi di’n eu gwneud gydag enghreifftiau cryf i gyfiawnhau dy farn.