Dechrau arni
Dylet ti fod wedi drafftio cynnwys dy adolygiad ar ffurf nodiadau cyn ei ysgrifennu’n llawn. Hefyd dylet ti wneud yn siŵr dy fod wedi strwythuro dy waith er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr. Er enghraifft, trafoda’r goleuo mewn un paragraff, paid â chynnwys sylwadau amdano drwy’r gwaith cyfan.
Mae’n bwysig ysgrifennu cyflwyniad da i dy adolygiad gan ei fod yn dangos i’r darllenydd a ydy dy waith yn werth ei ddarllen hyd y diwedd ai peidio. Felly mae angen i ti gynnwys manylion am y cynhyrchiad, ei genreSteil neu gategori o gerddoriaeth, celf neu lenyddiaeth., ei brif actorion ac unrhyw wybodaeth gefndir ddiddorol.
Dylet ti osgoi adrodd y stori fel rhan o dy adolygiad. Rwyt ti’n gwerthuso pa mor dda roedd yn gweithio, nid yn ei esbonio. Ond mae’n rhaid i ti roi dy werthusiad yn ei gyd-destun. Mae hyn yn golygu esboniad byr o sail y stori a’i themâu, y prif syniadau neu’r pynciau sy’n cael eu trafod. Darllena’r enghraifft hon o gyflwyniad i adolygiad theatr.
Mae drama gerdd Willy Russell, Blood Brothers sydd wedi ei lleoli yn Lerpwl, yn stori bwerus am frodyr sy’n efeilliaid, Edward a Mickey. Gwahanwyd y ddau frawd ar ôl cael eu geni am nad yw eu mam yn gallu fforddio cadw’r ddau. Mae’n ymchwilio i’r cyferbyniad rhwng natur a magwraeth yn fedrus a hefyd sut mae ffactorau economaidd yn effeithio ar ein cyfleoedd mewn bywyd. Mae sylwebaeth gymdeithasol Russell wedi’i gosod yn rhagorol mewn caneuon cofiadwy a sgript finiog wrth i’r gomedi droi’n drasiedi.
Felly yn y paragraff agoriadol hwn mae’r darllenydd eisoes yn gwybod:
- pwy ysgrifennodd y ddrama
- y genre, ee drama gerdd, trasiedi, ffars
- bod y ddrama o safon uchel drwy ddefnyddio ansoddeiriau megis
pwerus
aminiog
- themâu allweddol y darn fel
natur a magwraeth
- sut y cafodd y themâu eu mynegi yn y gerddoriaeth a’r sgript
Cofia ar ôl i ti enwi unigolyn proffesiynol sy’n gweithio ar y cynhyrchiad, megis dramodydd, actor neu gyfarwyddwr unwaith, byddi di’n gallu defnyddio eu cyfenwau’n unig wedyn.