Ysgrifennu a gwerthuso theatrPropiau

Os byddi di’n ysgrifennu adolygiad neu werthusiad dydy ystyried yr actio a’r perfformio yn unig ddim yn ddigon. Rhaid talu sylw i’r set, gwisgoedd, golau a sain, gan gyfiawnhau dy farn bob tro.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Propiau

Meddylia sut roedd y propiau’n cael eu defnyddio yn y cynhyrchiad. Oedden nhw’n cael eu defnyddio’n naturiolaidd neu’n symbolaidd? Oedd ganddyn nhw ystyr arwyddocaol penodol? Efallai fod un prop arbennig yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd amrywiol.

Perfformiad o Rhwydo/Vangst, Theatr Genedlaethol Cymru a Roos van Geffen, 2013
Image caption,
Perfformiad o Rhwydo/Vangst, Theatr Genedlaethol Cymru a Roos van Geffen, 2013 LLUN: Theatr Genedlaethol Cymru

Roedd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Rhwydo/Vangst yn defnyddio teipiaduron mewn ffordd ddifyr drwy ofyn i’r gynulleidfa eu defnyddio nhw cyn y cynhyrchiad. Felly dylid nodi’r elfen ddiddorol hon yn yr adolygiad.

Dylunio golau

Sut wnaeth dyluniad y golau gyfoethogi’r cynhyrchiad? Meddylia am yr elfennau canlynol pan fyddi di’n ysgrifennu dy adolygiad.

  • A ddefnyddiwyd golau’n naturiolaidd neu mewn ffordd symbolaidd?
  • A oedd y defnydd o olau’n ychwanegu at y ddrama a phrofiad y gynulleidfa?
  • Sut roedd y goleuadau’n creu naws ac awyrgylch?
  • Oedden nhw’n cael eu defnyddio i awgrymu lleoliadau gwahanol neu dreigl amser?
  • A oedd unrhyw effeithiau goleuo allweddol yn y cynhyrchiad?
  • Sut roedden nhw’n effeithio ar gyflymder symud o un olygfa i’r nesaf? Cofia fod newid cyflym yn creu tempo cyflym, stacato, ond bod yn fwy esmwyth ac yn arafach.

Darllena Dylunio theatr i ddysgu mwy.