Ysgrifennu a gwerthuso theatrYsgrifennu gwerthusiad neu adolygiad da

Os byddi di’n ysgrifennu adolygiad neu werthusiad dydy ystyried yr actio a’r perfformio yn unig ddim yn ddigon. Rhaid talu sylw i’r set, gwisgoedd, golau a sain, gan gyfiawnhau dy farn bob tro.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Ysgrifennu gwerthusiad neu adolygiad da

Mae adolygiad yn edrych ar y cynhyrchiad cyfan ac yn ystyried sut mae’r elfennau canlynol yn effeithio ar y gynulleidfa.

Map-meddwl i gynrychioli cloriannu theatr

Gwna’n siŵr dy fod yn cyfeirio at bersonél y cynhyrchiad yn dy adolygiad. Rho enwau’r actorion, y cyfarwyddwr, y dylunwyr ayyb wrth gyfeirio at eu gwaith. Os na fyddi di’n gwneud hyn, bydd yn ymddangos yn aneglur ac yn ddiog i’r darllenydd. Ystyria naratif a themâu’r ddrama a rho fanylion ynglŷn â sut roedd y dewisiadau dylunio, cyfarwyddo neu actio’n eu hamlygu. Edrycha sut mae’r beirniad theatr Non Meleri Hughes yn cyflawni hyn yn ei hadolygiad o gynhyrchiad theatr Tandem a Bara Caws o ddrama Aled Jones Williams, Chwilys. Mae hi’n pwysleisio pwysigrwydd gwleidyddiaeth fel thema yn y ddrama:

Ond nid drama saff mo Chwilys. Fel yr awgryma ei theitl, mae’n ddrama sy’n procio ac yn pryfocio, gan dreiddio’n ddwfn i galon bwdr gwleidyddiaeth gyfoes.
Non Meleri Hughes, Tu Chwith, Mawrth 29 2010

Cofia ddewis un neu ddau ddarn allweddol yn y ddrama er mwyn canolbwyntio ar yr hyn roedd yr actorion yn ei wneud yn llwyddiannus drwy nodi’r sgiliau actio a ddefnyddiwyd. Er enghraifft:

Hanner ffordd trwy’r ddrama, cana cloch y tŷ. Yn gwbl annisgwyl, gadawa Dyn 2 i’r perchennog agor y drws gan ei adael yn rhydd. Ond ni all symud. Saif yn ei unfan gan adael i’r foment lithro oddi wrtho. Yma, amlygir thema bwysig arall sef goblygiadau rhyddid ac ewyllys rhydd.
Non Meleri Hughes, Tu Chwith, Mawrth 29 2010

Cofia hefyd wahaniaethu rhwng y ddrama a’r cynhyrchiad drwy enwi’r actor pan fyddi di’n cyfeirio at y perfformiad, ac nid y cymeriad yn unig, ee dylet ti ysgrifennu ‘Roedd yr actor Richard Elfyn yn portreadu Lloyd George yn llwyddiannus’ yn hytrach na ‘Roedd Lloyd George yn llwyddiannus yn y ddrama.’

Mae hefyd yn bwysig nodi nid yn unig yr effaith mae’r cynhyrchiad wedi ei chael arnat ti, ond ei effaith ar y gynulleidfa hefyd. Ydy’r ddrama’n cyffwrdd â’r gynulleidfa? Ydy pobl wedi diflasu? Ydyn nhw’n chwerthin?