Cerddoriaeth a sain
Paid â chanolbwyntio ar y gweledol yn unig. Os ydy’r gerddoriaeth neu’r sain mewn cynhyrchiad yn tynnu sylw (yn gadarnhaol neu’n negyddol), yna dylet ti sôn amdanyn nhw yn dy adolygiad. Ystyria:
- Sut y cafodd cerddoriaeth ei defnyddio a phryd?
- Beth oedd effaith y gerddoriaeth ar y gynulleidfa, ee a oedd yn creu naws?
- A oedd defnydd symbolaidd o gerddoriaeth i adlewyrchu cymeriad neu thema’r ddrama?
- A oedd unrhyw effeithiau sain, a beth oedden nhw’n ei ychwanegu i’r cynhyrchiad?
- A oedd y gerddoriaeth yn gweithio gyda gweddill y cynhyrchiad?
Wrth iddo adolygu cynhyrchiad Theatr Bara Caws, Croesi’r Rubicon, ar wefan BBC Cymru ysgrifennodd y beirniad Alwyn Gruffudd am y dewisiadau cerddorol gan gynnig rheswm amdanyn nhw:
Yn wir fel comedi felodramatig y disgrifir hi gydag elfennau o ffars ac o ffilmiau arswyd HammerCwmni ffilmiau o'r DU sy'n enwog am gynhyrchu ffilmiau arswyd. Roedd y cwmni yn ei anterth o'r 1950au tan y 1970au. - yn enwedig y defnydd o gerddoriaeth mewn ymgais i greu'r awyrgylch o ofn ac ansicrwydd - yn britho'r cynhyrchiad.
Byddai’n bosib dweud mwy am arddull y gerddoriaeth, ee oedd hi’n glasurol, yn gyfoes neu oedd yna effeithiau sain brawychus yn y cynhyrchiad? Yn ei hadolygiad o ddrama Cwmni Theatr 3D, Wyneb dros Dro, mae Lowri Haf Cooke yn nodi arddull y gerddoriaeth sy’n helpu’r darllenydd i ddysgu mwy am y cynhyrchiad:
Sefydlir naws hynod ysgafn, yn null sit-com gan Ben Elton neu Victoria Wood, gydag arwyddgan Nadoligaidd bossa nova.
Theatr Gerdd
Os byddi di’n ysgrifennu am Theatr Gerdd bydd angen i ti roi mwy o sylw i’r gerddoriaeth gan ei bod yn elfen mor hanfodol o’r cynhyrchiad. Os byddi di’n adolygu darn adnabyddus megis Nia Ben Aur, gallet ti fod â rhai disgwyliadau ynglŷn â sut y dylid perfformio a dehongli’r cynhyrchiad yn gerddorol. Dylet ti sôn am hyn yn dy adolygiad i ddangos dy wybodaeth i’r darllenydd.

Adolygodd Manon Elin, disgybl yn Ysgol Bro Myrddin, ddrama gerdd Theatr Genedlaethol Cymru, Deffro’r Gwanwyn, sef addasiad o’r cynhyrchiad enwog, Spring Awakening, ar gyfer cylchgrawn Tu Chwith. Canolbwyntiodd ar y perfformiadau cerddorol ond gallai adolygydd hefyd ddisgrifio arddull y gerddoriaeth i ddarllenwyr nad ydyn nhw’n gyfarwydd â’r sioe.
Trwy gydol y sioe gerdd roedd dawn gerddorol naturiol y perfformwyr yn amlwg. O bosib, roedd safon y canu yn well na’r recordiad gwreiddiol. Er bod lleisiau anhygoel gan y ddau brif gymeriad, mi fyddai’r sioe wedi cael ei chyfoethogi petai gan weddill y cast fwy o ddarnau unawdol.