Ysgrifennu a gwerthuso theatrActio a pherfformiadau

Os byddi di’n ysgrifennu adolygiad neu werthusiad dydy ystyried yr actio a’r perfformio yn unig ddim yn ddigon. Rhaid talu sylw i’r set, gwisgoedd, golau a sain, gan gyfiawnhau dy farn bob tro.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Actio a pherfformiadau

Actorion yn perfformio yn Llwyth, Theatr Genedlaethol Cymru
Image caption,
Actorion yn perfformio yn Llwyth, Theatr Genedlaethol Cymru LLUN: Sherman Theatre

Mae’n hanfodol disgrifio perfformiadau’r actorion yn y cynhyrchiad gan nodi sut roedden nhw’n meddiannu’r rhan ac os oedd y perfformiadau’n dda neu’n wan. Cofia fod angen i ti roi rhesymau pendant ac nid cynnig barn ddi-sail yn unig.

Ceisia gynnwys yr elfennau canlynol:

  • Pwy wnaeth argraff arnat ti a pham?
  • Meddylia am y cymeriadu a sut y cafodd hyn ei gyflawni - llais, ystum, iaith y corff ayyb.
  • Bydd yn benodol am yr hyn roedd actor yn ei wneud ar adeg arbennig a sut cafodd effaith ar y gynulleidfa.
  • Dadansodda’r ffordd maen nhw’n symud o gwmpas y gofod a beth roedd hynny’n ei gyfleu ac ystyria’r defnydd o lonyddwch hefyd.
  • Gwerthusa’r dewisiadau lleisiol - seibiannau arwyddocaol, tôn y llais, newidiadau mewn traw neu uchder sy’n gweithio’n dda. Gwna sylwadau ar beth roedd hyn yn ei gyfleu i’r gynulleidfa.
  • Perthynas rhwng y cymeriadau ar y llwyfan: sut roedd hyn yn cael ei wneud ac oedden nhw’n datblygu neu’n newid? Canolbwyntia ar sut roedd hyn yn cael ei gyfleu yn yr actio, yn hytrach na stori’r ddrama.

Wrth adolygu cynhyrchiad Theatr y Sherman, Llwyth, i BBC Cymru ar-lein, mae Gwyn Griffiths yn esbonio pam mae’r perfformiadau yn y ddrama mor effeithiol yn ei farn e:

Hyfryd gweld cast mor arbennig o gryf, pob un yn ardderchog. Haedda Simon Watts glod arbennig fel Aneurin, baich oedd yn galw am amrywiaeth dawn gyda'r cymeriad weithiau yn cymryd arno'i hun rôl y "llais" oedd yn tywys y gynulleidfa i sefyllfaoedd newydd.
Gwyn Griffiths

Yn ei hadolygiad o Pridd gan y Theatr Genedlaethol mae Lowri Haf Cooke yn rhoi barn gytbwys am gryfderau a gwendidau’r actor, Owen Arwyn:

Yn bresenoldeb bygythiol trwy gydol y darn, mae Pridd yn cadarnhau ei statws fel perfformiwr peryglus ar lwyfan. Ond weithiau, crefais dawelwch, a rhagor o funudau mud yng nghanol y monolog - er mwyn adlewyrchu ar y geiriau dirdynnol, ac i gael gweld actor ac nid adroddwr…
Lowri Haf Cooke