Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd: Dyfed-Powys
- Cyhoeddwyd

Ar 5 Mai bydd etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr.
Tasg y Comisiynydd fydd craffu ar lu a sicrhau ei fod yn atebol.
Fe fydd Comisiynydd hefyd yn gallu penodi a diswyddo'r prif gwnstabl a gosod cyllideb ar gyfer y llu.
Y deiliad presennol yn ardal Dyfed-Powys yw'r Ceidwadwr Christopher Salmon, sy'n ceisio cael ei ailethol, ac mae'n cystadlu yn erbyn pump o bobl eraill.
Cliciwch yma am ein canllawiau i:
Ogledd Cymru
Gwent
De Cymru
Yr etholiadau

Pwy yw'r ymgeiswyr?
Richard Church, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
William Davies, Annibynnol
Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru
Kevin Madge, Llafur Cymru
Desmond Parkinson, UKIP Cymru
Christopher Salmon, Ceidwadwyr Cymreig

Beth yw Heddlu Dyfed-Powys?
Heddlu Dyfed-Powys yw'r heddlu mwyaf o ran daearyddiaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae 'na dros 350 milltir o arfordir.
Mae'n cwmpasu siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, gyda phoblogaeth o fwy na 488,000 ac yn plismona mwy na hanner tir Cymru.
Y prif gwnstabl yw Simon Prince, a'r dirprwy brif gwnstabl yw Carl Langley.
Y lluoedd cyfagos yw Heddlu De Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Gorllewin Mersia yn Lloegr.

Cyllid
Cyfanswm cyllid yr heddlu ar gyfer y flwyddyn 2016/17 yw £93.3m.
Bydd eiddo band D yn yr ardal yn talu praesept - arian sy'n mynd yn uniongyrchol i'r heddlu lleol - o £200.07.
Mae hynny'n cymharu â £240.12 yn y Gogledd, £220.06 yng Ngwent a £207.85 yn Ne Cymru.

Trosedd a pherfformiad
Roedd 20,021 o droseddau yn Nyfed-Powys yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi 2015.
Mae hynny wedi cynyddu o 9% ers y flwyddyn flaenorol.
Roedd achosion o drais yn erbyn y person wedi codi 28%, er bod yr holl heddluoedd ond un wedi gweld cynnydd.
Cododd nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd 53%, tra bod byrgleriaeth wedi codi 6%. Fe wnaeth troseddau'n ymwneud â cherbydau ostwng 24%, tra bod troseddau trefn gyhoeddus wedi gostwng 18%.
Dywedodd arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi bod Dyfed-Powys yn cydnabod bod angen gweithio gyda phartneriaid er mwyn atal troseddau a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Canfu'r adolygiad fod Dyfed-Powys yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau amgen i ddargyfeirio troseddwyr oddi wrth y system cyfiawnder troseddol, ac wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i sefydlu trefniadau partneriaeth gref ar gyfer rheoli'r troseddwyr mwyaf cyson.
Ond dywedodd bod angen gwelliannau i'r ffordd y mae'r heddlu yn nodi pobl sy'n agored i niwed a sut mae'n penderfynu pa droseddau i ymchwilio iddynt.