Ynyshir: 'Dim cywilydd' gan gogydd bwyty Michelin wedi sgôr hylendid o un

Mae gan fwyty Ynyshir yn Eglwys Fach ddwy seren Michelin - yr unig fwyty yng Nghymru i gael mwy nag un
- Cyhoeddwyd
Mae prif gogydd yr unig fwyty Cymreig sydd â dwy seren Michelin wedi dweud "nad yw'n teimlo cywilydd" ar ôl derbyn sgôr hylendid bwyd o un allan o bump.
Cafodd bwyty Ynyshir, ger Machynlleth, wybod bod angen "gwelliant mawr" ar ôl archwiliad gan swyddogion diogelwch bwyd ar 5 Tachwedd 2025.
Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd y cogydd, Gareth Ward, fod ei fwyty "yn gweithio ar y safon uchaf yn y byd ac rydym yn cymryd yr hyn yr ydym yn ei wneud o ddifrif".
"Mae gen i 27 mlynedd o brofiad yn fy maes. Mae'r gegin ar agor, gall pawb weld popeth, mae'r lle'n berffaith lan."

Gareth Ward ydy prif gogydd bwyty Ynyshir
Dywedodd adran diogelwch bwyd y cyngor fod angen "gwelliant mawr" yn y ffordd y mae'r bwyty'n rheoli diogelwch bwyd.
Mae angen gwella "glendid a chyflwr y cyfleusterau, a'r adeilad" hefyd, yn ôl yr adroddiad.
Cafodd y modd y mae bwyd yn cael ei drin ei raddio'n "foddhaol ar y cyfan".
Mae Ynyshir yn cynnig profiad bwyta yn dechrau am £468 y pen, gan gynnwys tua 30 o gyrsiau a DJ.
Dyma'r unig fwyty yng Nghymru gyda dwy seren Michelin, ar ôl derbyn y wobr fawreddog yn 2022.

Cafodd bwyty Ynyshir sgôr hylendid o un allan o bump wedi archwiliad ym mis Tachwedd
Mae sgôr hylendid bwyd yn cael ei roi i fusnesau lle mae bwyd yn cael ei ddarparu, ei storio, neu ei fwyta, a hynny bob tro y cawn nhw eu harchwilio gan swyddog diogelwch bwyd o'r awdurdod lleol.
Mae sefydliadau'n cael eu graddio o sero i bump, gyda phump yn cynrychioli "da iawn" a sgôr o un yn golygu bod "angen gwelliant mawr".
Mae'r sgoriau'n cael eu disgrifio fel "cipolwg" o'r safonau hylendid ar adeg yr arolygiad, sy'n edrych ar ffactorau fel sut mae bwyd yn cael ei storio, ei drin a'i baratoi, yn ogystal â glendid y cyfleusterau.
Hefyd mae'r ffordd mae diogelwch bwyd yn cael ei reoli'n ehangach yn cael ei farnu, gan gynnwys hyfforddiant, prosesau a systemau busnes.

Mae pryd o fwyd yn Ynyshir yn cynnwys degau o gyrsiau
Mae Canllaw Michelin yn disgrifio'r bwyty fel "profiad gwirioneddol unigryw", gan ddweud bod "y noson yn dechrau'n gynnar, sy'n rhoi pum awr i'r cogydd-berchennog Gareth Ward i fynd â bwytwyr ar daith goginio chwareus o amgylch y byd".
"Mae ganddo barch arbennig tuag at fwyd Japaneaidd, gyda sashimi a chig eidion Wagyu A5 yn debygol o ymddangos ar y fwydlen annisgwyl o tua 30 cwrs bywiog."
Ychwanegodd canllaw Michelin fod pob cwrs yn defnyddio "cynnyrch rhagorol wedi'i baratoi gyda chrefft ragorol".
'Cynhwysion gorau o bob cwr o'r byd'
Dywedodd Mr Ward wrth y BBC mai un o'r pethau yr oedd arolygwyr wedi cwestiynu oedd y defnydd o gynhwysion amrwd.
"Rydyn ni'n prynu'r cynhwysion gorau o bob cwr o'r byd a dwi'n gweini llawer ohonyn nhw'n amrwd," meddai.
"Dwi'n prynu pysgod gradd sashimi o Japan ac maen nhw'n cwestiynu, 'wel, dydyn ni ddim yn adnabod y dŵr, felly sut ydyn ni'n gwybod ei fod o radd sashimi?'."
"Mae'n safon sashimi, mae'n cael ei fwyta'n amrwd ledled y byd a dim ond oherwydd nad yw ein rheolau ni'n cyd-fynd â'u rheolau nhw, maen nhw'n ei gwestiynu."
Dywedodd fod rhai o'i gynhwysion sydd wedi'u haeddfedu hefyd wedi denu eu sylw, gan ddweud fod ganddo siambr halen ar gyfer aeddfedu pysgod.
"Ond yn amlwg, dydyn nhw ddim yn hoffi'r syniad o aeddfedu pethau," meddai Mr Ward.
Gareth Ward: Yr angerdd a'r aberth tu ôl fy nghoginio
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2023
Dywedodd Mr Ward ei fod wedi buddsoddi'n helaeth mewn offer a phrofion labordy i sicrhau diogelwch bwyd, gan gynnwys rhewgell gwerth £50,000 sy'n medru cyrraedd tymheredd o -80C.
Ers cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd ei fod hefyd wedi anfon ei bysgod i ffwrdd i'w profi mewn labordy a'u bod wedi "dod yn ôl yn hollol glir".
"Dydyn nhw ddim 100% yn anghywir," meddai, gan ychwanegu bod sinc golchi dwylo ychwanegol bellach wedi cael ei gosod yn yr ardal paratoi pysgod.
Esboniodd fod problemau gwaith papur hefyd wedi cyfrannu at y sgôr isel: "Doedd rhywfaint o'n gwaith papur ddim yn iawn ac ein bai ni oedd hynny."
"Weithiau rydych chi'n colli pethau neu'n ysgrifennu pethau i lawr yn anghywir, neu'n anghofio pethau.
"Byswn i angen gweithiwr swyddfa llawn amser i wneud y gwaith papur, i'w gael yn berffaith bob tro."
'Ddim yn teimlo cywilydd o gwbl'
Dywedodd y cogydd fod Ynyshir hefyd wedi cyflogi gwasanaethau cwmni arbenigol a oedd yn sicrhau bod y bwyty yn cydymffurfio â safonau bwyd.
Dywedodd fod y materion a gafodd eu codi wedi'u datrys ar unwaith a bod cais wedi'i gwneud am archwiliad arall, ond nad oedd dyddiad wedi'i bennu eto.
Er gwaethaf y sgôr, dywedodd ei fod yn parhau i fod yn hyderus: "Dwi ddim yn teimlo cywilydd amdano, dwi ddim yn flin amdano.
"Mae'n rhan annatod o'r ffaith y bydd y bobl mewn bywyd sy'n gweithio galetaf ac yn meddwl y tu allan i'r bocs ac yn gwneud rhywbeth gwahanol, bob amser yn gorfod delio â'r math yma o bethau.
"Nid yw fy safonau byth yn gostwng yn is na 100%. Dwi ddim yn teimlo cywilydd o gwbl ond dwi'n siomedig.
"Dwi ddim yn eistedd yma'n meddwl, 'o Dduw dwi'n teimlo cywilydd, dwi wedi gwneud rhywbeth o'i le', oherwydd dydyn ni ddim wedi gwneud hynny.
"Mae'r hyn rydyn ni wedi'i wneud yn rhywbeth gwahanol."
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Ceredigion ei fod yn "derbyn barn broffesiynol staff wrth weithredu safonau hylendid bwyd y DU" ac na fyddai'n gwneud sylw pellach.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.