Agor cwest dau ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Porthmadog

Bu farw Mathew Hardy, 34, o Bwllheli wedi gwrthdrawiad ar ffordd osgoi PorthmadogFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mathew Hardy, 34, o Abererch wedi'r gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Porthmadog

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi ei agor i farwolaethau dau ddyn o Wynedd mewn gwrthdrawiad ffordd ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.

Bu farw Mathew James Hardy, 34 o Abererch ger Pwllheli, a Daniel Atkinson, 40 o Flaenau Ffestiniog, wedi'r digwyddiad ar yr A487, ffordd osgoi Porthmadog, ar 20 Rhagfyr, 2025.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fore Mercher fod Mathew Hardy yn gyrru lori casglu cerbydau i gyfeiriad Tremadog pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad gyda cherbyd Mr Atkinson.

Roedd y ddau ddyn yn gweithio fel mecanig.

Ffordd osgoi

Yn fuan wedi'r gwrthdrawiad, am tua 21:45, daeth parafeddygon i'r casgliad bod y ddau wedi marw yn y fan a'r lle.

Cafodd post mortem fforensig ei gynnal gan nodi achos marwolaeth cychwynnol Mr Atkinson fel "nifer o anafiadau".

Nodwyd hefyd bod "achos rhesymol nad oedd marwolaeth Mathew Hardy o achosion naturiol".

Penderfynodd y crwner, Kate Robertson, ohirio'r cwest wrth i ymchwiliadau barhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig