Tad i dri oedd yn paratoi at farathon wedi marw ar Grib Goch

Thomas Alan SmithFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Thomas Alan Smith wedi teithio i ogledd Cymru er mwyn dringo'r Wyddfa fel rhan o'i baratoadau ar gyfer marathon

  • Cyhoeddwyd

Bu farw rhedwr ar ôl disgyn wrth ymarfer at farathon ar Grib Goch yn Eryri, mae cwest wedi clywed.

Fe wnaeth Thomas Alan Smith, 36 oed o Bolton, ddioddef anafiadau "catastroffig" wedi iddo faglu wrth geisio gafael yn ei gi ar fore 16 Awst, 2025.

Mewn datganiad fe ddywedodd Shelly Price - sy'n fam i'w dri o blant - ei fod yn "byw bywyd i'r eithaf".

Daeth y crwner i'r casgliad fod Mr Smith wedi marw drwy ddamwain.

Crib GochFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y cwest bod Mr Smith wedi disgyn dros ymyl Crib Goch

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod Mr Smith wedi teithio i Eryri gyda'r bwriad o ddringo'r Wyddfa ddwywaith mewn diwrnod fel rhan o'i baratoadau ar gyfer marathon 'ultra' yr wythnos ganlynol.

Dywedodd Ms Price ei bod wedi siarad gyda'i phartner am tua 09:40 y bore hwnnw wedi iddo ddechrau dringo llwybr Watkin tua'r copa.

Yn ôl Stuart Alder, oedd yn cerdded ar hyd Crib Goch gyda'i ddau o blant am tua 11:30, gwelodd Mr Smith yn troedio'r grib gyda chi sbaniel.

"Fe estynnodd y dyn am y ci, ond fe lithrodd a disgynnodd dros yr ymyl," meddai Mr Alder.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar unwaith.

'Bu farw yn gwneud rhywbeth yr oedd yn ei garu'

Clywodd y gwrandawiad gan gerddwr arall a geisiodd roi cymorth cyntaf i Mr Smith wedi iddo ddisgyn.

Dywedodd Connor Holler - sydd â hyfforddiant sylweddol mewn cymorth cyntaf mewn sefyllfaoedd awyr agored - ei fod wedi darganfod Mr Smith yn gorwedd ar ei gefn.

"Roedd yn amlwg o'r dechrau ei fod o wedi dioddef anafiadau catastroffig," meddai.

Er i Mr Holler geisio trin ei anafiadau, bu farw Mr Smith yn y fan a'r lle.

Dywedodd aelodau'r tîm achub mynydd lleol fod yr amodau ar y mynydd y diwrnod hwnnw yn dda, ei bod hi'n ddiwrnod sych a chlir a bod gwelededd perffaith.

Yn ôl y crwner, Kate Robertson, dangosodd archwiliad post mortem fod Mr Smith wedi dioddef "anafiadau niferus ar ôl disgyn o uchder".

"Roedd marwolaeth Tom yn annisgwyl, doedd o ddim yn fwriadol... ac mae'n ymddangos ei fod wedi baglu a disgyn dros yr ymyl," meddai.

Fe gydymdeimlodd Ms Robertson gyda theulu Mr Smith hefyd: "Mae'n amlwg ei fod yn ddyn arbennig a oedd yn meddwl y byd i sawl un.

"Bu farw yn gwneud rhywbeth yr oedd yn ei garu, ond bu farw yn lawer rhy fuan - does dim amheuaeth am hynny."

Mae teulu Mr Smith yn dweud eu bod eisoes wedi llwyddo i godi £8,000 ar gyfer Tîm Achub Mynydd Llanberis.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig