A yw'r her o ddenu athrawon Cymraeg i Batagonia yn gwella?

Angharad a MeganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Angharad Davies (chwith) o Bont-y-clun a Megan Elias (dde) o Hen Golwyn yn treulio'r 10 mis nesaf ym Mhatagonia

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wedi cyfnod o bryder a her penodi athrawon Cymraeg ym Mhatagonia, mae dwy athrawes newydd o Gymru yn paratoi am yr her i weithio yn y Wladfa.

Yn 2023 dywedodd y Cyngor Prydeinig fod ceisiadau i swyddi athrawon yn y Wladfa wedi achosi "her recriwtio" i gynllun sydd wedi bod yn gweithredu ers dros 20 mlynedd.

Ond, eleni mae dwy athrawes o Gymru yn paratoi i hedfan allan i Batagonia i ddechrau ar swyddi dysgu yno.

Bydd Megan Elias o Hen Golwyn yng ngogledd Cymru, ac Angharad Davies o Bont-y-clun yn Rhondda Cynon Taf, yn treulio'r deg mis nesaf yn gweithio ym Mhatagonia

'Anodd cynnal yr iaith'

Dywedodd Angharad: "Dw i'n gwybod fod llai o bobl yn siarad Cymraeg yno nag yma yng Nghymru, ond ro'n i eisiau cyfrannu, a hefyd profi i fi fy hun y gallwn wneud gwahaniaeth.

"Ro'n i wedi cael profiad uniongyrchol o ba mor anodd yw cynnal yr iaith mewn ardal lle mae pobl yn siarad Saesneg yn bennaf. Roedd hynny'n ysgogiad mawr i fi wneud cais i gymryd rhan yn y cynllun," meddai.

Dechreuodd Cynllun yr Iaith Gymraeg yn 1997. Mae'n rhoi cefnogaeth i gymunedau sy'n siarad Cymraeg ym Mhatagonia.

Drwy'r rhaglen, mae'r athrawon yn gweithio mewn ysgolion gydag oedolion lleol i hybu'r Gymraeg - yn yr ystafell ddosbarth, a thu hwnt.

Mae hynny'n digwydd drwy gyfuniad o wersi ffurfiol a gweithgareddau diwylliannol, cerddoriaeth, a gweithgareddau yn y gymuned leol.

Ysgol Gymraeg y Gaiman
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gymraeg y Gaiman yn un o'r tair ysgol sy'n cynnig gwersi Cymraeg i blant yn Ariannin

Mae Megan eisoes â phrofiad dysgu dramor. Bu'n byw yn Awstralia am dair blynedd cyn penderfynu newid cyfandir unwaith eto.

"Dair blynedd yn ôl ar ôl Covid, fe es i Awstralia. Ar hap a damwain, fe wnes i ailgydio mewn dysgu yno - er nad oeddwn i'n dysgu Cymraeg.

"Ar ôl tair blynedd, roedd fy fisa'n dod i ben, a do'n i ddim yn gwybod beth ro'n i am wneud nesaf. Fe welais i'r cyfle i fynd i Batagonia. Ac ar ôl bod yn teithio ar fy mhen fy hun am dair blynedd, dyma fi'n meddwl - dyma'r cyfle perffaith.

"'Mae ymweld â Phatagonia, neu fynd yno i ddysgu, wedi bod yn freuddwyd gen i ers dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Felly, roedd yn teimlo mod i'n gwneud y cylch yn gyflawn," meddai.

'Mwy na dim ond dysgu'

Bydd Megan yn gweithio'n bennaf yn yr ysgol leol yn Nhrevelin, a hefyd yn teithio i Esquel i ddysgu oedolion yn y ganolfan iaith yno.

Bydd Angharad yn gweithio mewn sawl lleoliad gwahanol ar draws y rhanbarth gan gynnwys dysgu disgyblion cynradd yn ystod y dydd, ac oedolion gyda'r hwyr - yn Nhrelew, Gaiman a Dolavon.

Bydd hefyd yn ymweld â Puerto Madryn yn fisol.

Dywedodd Angharad: "Mae'n fwy na dim ond dysgu - mae'n fater o ysbrydoli pobl i fwynhau'r Gymraeg a'i defnyddio yn eu bywydau bob dydd a chysylltu â'r diwylliant a'r gymuned.

"Dw i'n teimlo'n gyffrous am fynd â cherddoriaeth, drama, a phrofiadau diwylliannol i mewn i'r stafell ddosbarth, a chefnogi'r gymuned Gymraeg ym Mhatagonia ym mha bynnag ffordd dw i'n gallu," meddai.

MeganFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Megan gyfnod yn gweithio yn Awstralia

Wrth sôn am y cyfle mae'r cynllun yn ei gynnig, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn rhywbeth gwirioneddol arbennig; yn cysylltu siaradwyr Cymraeg yng Nghymru â chymunedau ym Mhatagonia drwy iaith, addysg a diwylliant.

"Mae angerdd Angharad a Megan dros y Gymraeg a'u brwdfrydedd i'w rannu ag eraill yn eu gwneud yn llysgenhadon gwych dros y cynllun.

"Dymunwn bob llwyddiant iddynt ar y siwrnai gyffrous hon," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig