'Blwyddyn llawn cyffro' i'r byd pêl-droed yn 2025

Mae 2025 wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i Rhian Wilkinson, Phil Parkinson a Craig Bellamy am wahanol resymau
- Cyhoeddwyd
Mae 2025 wedi bod yn flwyddyn gyffrous arall ar y meysydd pêl-droed yng Nghymru.
Mae hi wedi bod yn 12 mis hanesyddol i dîm merched Cymru yn chwarae yn Euro 2025, tra fod tîm y dynion wedi gorffen ar nodyn uchel gyda buddugoliaeth a pherfformiad gwych yn erbyn Gogledd Macedonia.
A phwy all anghofio am Wrecsam wrth iddyn nhw sicrhau trydydd dyrchafiad yn olynol?
Mae'n drueni a dweud y gwir fod yn rhaid i eleni ddod i ben!
Creu hanes
"Gwireddu breuddwyd" - dyna oedd geiriau capten tîm merched Cymru, Angharad James, ar drothwy Euro 2025.
Mi oedden nhw wedi cyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf erioed, ond mi gafon nhw y grŵp anoddaf posibl - Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd.
Er iddyn nhw golli'r tair gêm mi oedd 'na eiliadau cofiadwy dros ben yn ystod y bencampwriaeth - clywed Hen Wlad Fy Nhadau yn cael ei chanu cyn y gêm gyntaf yn erbyn Yr Iseldiroedd, gôl Jess Fishlock yn erbyn Ffrainc, Hannah Cain yn rhwydo'n erbyn Lloegr a'r awyrgylch gafodd ei greu yn ystod y gemau gan y Wal Goch.

Chwaraewyr Cymru cyn eu gêm gyntaf yn Euro 2025 yn erbyn Yr Iseldiroedd
Y gobaith rwan ydi y bydd gêm y merched yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru, ac mae'r arwyddion cynnar yn rhai positif.
Mae 'na dros 20,000 o ferched a menywod wedi cofrestru i chwarae pêl-droed, sef y nifer uchaf ar gofnod.
Y nod nesaf i'r tîm cenedlaethol fydd ceisio cyrraedd Cwpan y Byd yn 2027, ond mi fydd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny heb y chwaraewr gorau yn eu hanes.

Jess Fishlock yn chwarae ei gêm olaf dros Gymru yn erbyn Awstralia
Yn 38 oed mae Jess Fishlock bellach wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Does na heb wedi ennill mwy o gapiau na sgorio mwy o goliau dros Gymru - 166 cap a 48 gôl.
Mae hi'n mynd i fod yn her a hanner i'r rheolwr Rhian Wilkinson ymdopi hebddi, ond o leiaf maec'na ddyfnder yng ngharfan Cymru bellach ac mae 'na chwaraewyr ifanc addawol fel Mared Griffiths.
Fe orffennodd Cymru y flwyddyn gyda buddgoliaeth dda o 3-2 yn erbyn Y Swistir mewn gêm gyfeillgar, cyn i'r sylw droi at rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn 2026 gyda gemau'n erbyn Y Weriniaeth Tsiec, Albania a Montenegro.
'Cefn wrth gefn wrth gefn'
Mae stori Wrecsam fel sgript Hollywood.
Mi oedd 'na drydydd dyrchafiad yn olynol yn 2025 - y tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd yn haenau uchaf cynghreiriau Lloegr.
Fe orffennon nhw'n yr ail safle yn yr Adran Gyntaf oedd yn ddigon iddyn nhw sicrhau eu lle yn y Bencampwriaeth y tymor yma.

Rob a Ryan yn dathlu ennill dyrchafiad i'r Bencampwriaeth
Ar ôl i Ryan a Rob brynu'r clwb yn 2021 fe ddywedon nhw'n syth mai'r freuddwyd yn y pen draw oedd cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.
Wel mae 'na siawns golew bellach y bydd y freuddwyd honno yn dod yn realiti ryw ddiwrnod, gan mai dim ond un dyrchafiad arall sydd ei angen.
Mae'r Bencampwriaeth yn cael ei chydnabod fel un o'r cynghreiriau mwyaf cystadleuol yn y byd, felly mae 'na waith i'w wneud os ydyn nhw am gyrraedd y brif adran.
Ond fel sydd wedi digwydd ers y cychwyn un yng nghyfnod Ryan a Rob tydi'r clwb ddim yn sefyll yn llonydd.

Mi fydd y Kop newydd yn dal 5,500 o gefnogwyr
Mae'r Kop yn barod wedi cael ei ddymchwel ac mae 'na eisteddle newydd sbon yn cael ei adeiladu.
Yn ogystal â golygu y bydd 'na fwy o gefnogwyr yn gallu gwylio gemau Wrecsam, gallai'r eisteddle newydd hefyd olygu y bydd 'na fwy o gemau rhyngwladol yn gallu cael eu cynnal ar y STōK Cae Ras.
Yn fwy diweddar mae hi wedi dod i'r amlwg fod cwmni Apollo Sports Capital (ASC), sydd hefyd yn berchen ar Atletico Madrid yn Sbaen, wedi buddsoddi yn y clwb.
Mae 'na arian mawr tu ôl i'r cwmni yma ac mi fuasai rhywun yn dychmygu y gwelwn ni'r arian yna'n cael ei ddefnyddio i gryfhau carfan Wrecsam yn y dyfodol agos.
Chwarae heb ymosodwr
Be' am fod yn gwbl onest - doedd Cymru ddim wedi argyhoeddi yn eu saith gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Colli ddwywaith yn erbyn Gwlad Belg, a crafu buddugoliaethau'n erbyn Liechtenstein a Kazakhstan.
Ond fe newidiodd popeth yn y gêm olaf yn erbyn Gogledd Macedonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Fe sgoriodd Harry Wilson hat-tric yn erbyn Gogledd Macedonia
Be welson ni oedd un o'r perfformiadau gorau yn hanes Cymru wrth iddyn nhw ennill o 7-1.
Weithiau mae rheolwr yn dod o hyd i system sy'n gweithio ar ddamwain. Dwi'm yn dweud fod hynny wedi digwydd i Craig Bellamy, ond yn absenoldeb Kieffer Moore oherwydd anaf a diffyg goliau Mark Harris fe benderfynodd chwarae heb ymosodwr cydnabyddedig.
Roedd Harry Wilson, David Brooks, Brennan Johnson a Dan James i gyd yn cyfnewid safleoedd, a fe achosodd hyn bob math o broblemau i amddiffyn Gogledd Macedonia.
Efallai mai chwarae'r system yma ydi'r ffordd ymlaen i Gymru. Gan fod y pedwar chwaraewr dwi wedi eu crybwyll yn barod yn crwydro i bob man, doedd amdiffynwyr Gogledd Macedonia ddim yn gwybod pwy i'w marcio.

Mae Craig Bellamy'n gobeithio arwain ei dîm i Gwpan y Byd
Mae'r perfformiad yn erbyn Gogledd Macedonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn argoeli'n dda cyn y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth.
Yn gyntaf rownd gynderfynol gartref yn erbyn Bosnia Herzegovina sy'n wynebu Cymru ac yna gêm gartref arall os y byddan nhw'n cyrraedd y ffeinal yn erbyn un ai'r Eidal neu Gogledd Iwerddon.
Chwarae fel y gwnaethon nhw'n erbyn Gogledd Macedonia a mi fydd ganddyn nhw gyfle gwirioneddol o gyrraedd y rowndiau terfynol yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2025
