Cwpan y Byd: Cymru'n ail yn y grŵp ar ôl trechu Gogledd Macedonia

Sgoriodd Harry Wilson hat tric yn ei gêm gyntaf fel capten Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi gorffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026, ar ôl rhoi cweir i Ogledd Macedonia yng Nghaerdydd nos Fawrth.
7-1 oedd y sgôr terfynol, yn dilyn tair gôl gan Harry Wilson a gôl yr un i David Brooks, Brennan Johnson, Daniel James a Nathan Broadhead.
Golyga'r fuddugoliaeth bod Cymru ym Mhot 2 ac felly'n wynebu llwybr haws yn y gemau ail gyfle - gêm gartref yn erbyn un o dimau pot 3.
Fe fydd Cymru'n cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ddydd Iau, 20 Tachwedd.

David Brooks wnaeth sgorio'r ail gôl i Gymru
Fe ddechreuodd Cymru'n ddisglair, gyda Brennan Johnson yn creu problemau i amddiffyn Gogledd Macedonia a David Brooks yn taro ergyd ychydig dros y trawst.
Fe setlodd yr ymwelwyr i'r gêm am gyfnod, ond enillodd Brooks gic o'r smotyn i Gymru ychydig ar ôl chwarter awr.
Plannodd Harry Wilson y gic yn gampus i gornel isaf y rhwyd, yn ei gêm gyntaf fel capten y tîm cenedlaethol.
Ymhen dim roedd hi'n 2-0, wedi i Johnson groesi'n dda i Brooks, a rwydodd gydag ergyd oddi ar amddiffynnwr.

Bu David Brooks a Brennan Johnson yn achosi problemau cyson i Ogledd Macedonia nos Fawrth
Rhyw funud yn ddiweddarach roedd hi'n 2-1, wedi i'r bêl gyrraedd Bojan Miovski rhwng amddiffyn Cymru, a'i hanelodd i gefn y rhwyd.
Roedd hi'n hanner cyflym a llawn cynnwrf ac fe darodd Neco Williams y postyn ar ôl tua 34 munud.
Johnson oedd nesaf i sgorio, wrth iddo lithro ar hyd ymyl y cwrt cosbi a thanio am y gôl oddi ar goes amddiffynnwr.
3-1 i Gymru oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner.

Roedd Daniel James yn un o'r sgorwyr
Fe ddechreuodd Cymru'r ail hanner, fel yr un cyntaf, ar y droed flaen, gan roi pwysau ar yr ymwelwyr yn syth.
Wedi tua 56 munud, ehangodd Daniel James y sgôr i 4-1 trwy sgorio'n daclus, yn dilyn gwaith da gan Wilson eto.
Doedd Gogledd Macedonia methu cystadlu gydag egni a chyflymder Cymru.
Yna, ar ôl 75 munud, coronodd Wilson ei noson trwy saethu roced o gic rydd i gornel uchaf y rhwyd. 5-1.
Doedd Cymru heb sgorio pum gôl ers ennill yn erbyn Belarws yn 2021 ac roedd cefnogwyr yn bloeddio'r anthem yn Stadiwm Dinas Caerdydd erbyn hynny.

Saethodd Harry Wilson roced o gic rydd ar ôl tua 75 munud
Bum munud yn ddiweddarach, cafodd Wilson ei faglu yn y cwrt cosbi a chafodd Cymru gic arall o'r smotyn.
Doedd neb ond Wilson yn debygol o gymryd y gic a dyma'n union ddigwyddodd wrth iddo rwydo ei drydedd o'r noson.
Cafodd Isaak Davies ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ychydig cyn i'r cochion ennill cic gornel.
Rhoddodd Davies ei ben ar y gic gornel honno a'i gwyro at Nathan Broadhead - wnaeth sgorio a gadael sgôr o 7-1 ar y chwiban olaf.
Cyn nos Fawrth, Gareth Bale oedd yr unig chwaraewr i sgorio tair gôl i Gymru mewn un gêm, ers dros 20 mlynedd, a doedd Cymru heb sgorio saith mewn un gêm ers 1978.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2025
