Yr Arglwydd Newborough yn rhoi stad Glynllifon ar werth

Yr Arglwydd NewboroughFfynhonnell y llun, Stad Rhug
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Arglwydd Newborough presennol yn gwerthu'r stâd am £10.9 miliwn

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wrth deithio rhwng trefi Caernarfon a Phwllheli mae un o stadau mwyaf Gogledd Cymru i'w gweld ar y ffordd.

Mae stad Glynllifon wedi chwarae rhan bwysig yn hanes cymdeithasol Sir Gaernarfon ac wedi bod yn gartref i un o deuluoedd bonedd mwyaf yr ardal ers 1700.

Bellach, mae'r Arglwydd Newborough presennol wedi "gwneud y penderfyniad anodd" o roi'r stad gyfan ar werth a hynny am swm sylweddol iawn o arian.

Mae hyn, medd yr hanesydd lleol John Dilwyn Williams, yn "ddiwedd cyfnod fod cysylltiad y teulu â'r ardal yn dod i ben ar ôl canrifoedd."

John Dilwyn WilliamsFfynhonnell y llun, John Dilwyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Maer hanesydd John Dilwyn Williams yn ymddiddori yn hanes Glynllifon

Roedd stad Glynllifon ar un cyfnod yn cynnwys cannoedd o aceri o dir a phopeth oedd y thu fewn i waliau gerddi'r plasty.

Ond, ers diwedd y 1940au mae Parc Glynllifon yn bodoli ar wahan i'r stad wreiddiol.

Cafodd y rhan fwyaf o'r eiddo y tu fewn i'r waliau oedd o amgylch tir y plasty mawreddog ei werthu at ddiben addysg amaethyddol, a daeth dan ofal Cyngor Sir Caernarfon.

Er fod y plasty bellach dan berchnogaeth breifat, dyw'r adeilad gafodd ei godi yn y 1830au heb fod dan berchnogaeth Arglwydd Newborough ers dros 70 mlynedd.

Yn y plasty y cynhaliwyd y parti nos wedi'i i'r Brenin Charles III gael ei arwisgo'n Dywysog Cymru ym 1968.

Mae'r parc bellach yn agored i'r cyhoedd ac mae'n cynnwys llwybrau cerdded a gerddi godidog.

Stad GlynllifonFfynhonnell y llun, Carter Jonas
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 900 acer o dîr yn rhan o werthiant y stad

Yr hyn sydd ar werth fel rhan o'r stad yw tir ffermio 901 acer a thri ffermdy ar hyd arfordir ardal Pontllyfni sydd y tu allan i'r waliau.

Mae'r Arglwydd Newborough, sef yr 8fed Barwn i ddal y teitl, hefyd yn berchen ac yn byw ar stad Rhug ger Corwen ac fe ddywedodd ei fod yn gwerthu stad Glynllifon gan "nad yw hi'n bosib iddo fod ymhob man".

Dywedodd yr Arglwydd Newborough: "Dwi wrth fy modd yno, mae golygfeydd prydferth a phobl hyfryd, ond dwi'n 77 oed ac dwi wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd yma, does gen i neb arall i reoli'r stad."

Yn ôl John Dilwyn Williams, mae gwerthu'r stad yn dod â chyfnod hanesyddol pwysig o ran cysylltiad y teulu i ben yn yr ardal.

"Mae cysylltiad y teulu Wynniaid wedi chwarae rhan allweddol yn yr ardal.

"Syr Thomas Wynn ddaeth yr Arglwydd Newborough cyntaf yn 1776 a dros y degawdau wedyn roedd y teulu yn ddylanwadol iawn yn wleidyddol.

"Roedd aelodau o'r teulu yn priodi teuluoedd bonedd mewn ardaloedd eraill, felly roedd dylanwad a thir y Wynniaid yn ymestyn y tu hwnt i Glynllifon.

"Yn sicr bydd gwerthu beth sy'n weddill o'r stad Glynllifon yn ddiwedd cyfnod fod cysylltiad y teulu efo'r ardal yma'n dod i ben," meddai.

Mae stad Glynllifon wedi'i roi ar werth am bris o £10.9m.

Hefyd o ddiddordeb:

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig