Cannoedd heb drydan ar ôl i eira a rhew gau ysgolion

Boncath, Sir BenfroFfynhonnell y llun, David G / BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Boncath, Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd

Roedd dros 1,000 o gartrefi heb drydan am gyfnod ddydd Iau a nifer o ysgolion wedi cau ar ôl i eira a rhew daro rhannau o Gymru.

Roedd y Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew fydd yn parhau mewn grym tan 23:59 nos Iau.

Mae'r rhybudd yn benodol i ardaloedd yn y de orllewin, ble roedd nifer o adroddiadau o drafferthion ar y ffyrdd ag amodau gyrru gwael.

Cafwyd cawodydd gaeafol drwy gydol y dydd wnaeth effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac amodau gyrru.

Mae'r tywydd hefyd wedi effeithio cyflenwadau trydan, gyda'r Grid Cenedlaethol yn adrodd bod dros 300 o dai dal heb drydan ar draws Sir Benfro, Sir Gâr a Blaenau Gwent erbyn 19:00.

Eira ar ffordd yng NghrymychFfynhonnell y llun, Shon Rees
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth lori yn sownd yn ardal Crymych oherwydd yr eira trwchus ar y ffordd

Yn ogystal â'r eira trwm yn tarfu ar drenau, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau bod coeden wedi cwympo ger Llanboidy yn rhwystro'r llinell, ac maen nhw'n annog cwsmeriaid i wirio'u gwefan cyn teithio.

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew i rannau helaeth o ogledd orllewin a de orllewin Cymru fore Gwener.

Bydd y rhybudd hwn mewn grym rhwng hanner nos ac 11:00 - gydag arbenigwyr yn annog pobl i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.

 trwch o eira ym Mynachlogddu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd trwch o eira ym Mynachlogddu, Sir Benfro fore Iau

Dywedodd Sharlaine Quick-Lawrence o Grymych ei bod yn teimlo bod y pentref "yn mynd i ddarnau" pan mae eira'n taro, a'u bod ddim yn cael eira "digon aml falle i fod wedi gallu paratoi ar gyfer e", gan ddisgrifio'r sefyllfa ar y ffyrdd fel "bach o bedlam".

Ond i eraill yn y pentref, mae'n gyfle i fwynhau'r eira. Dywedodd Helen Mcloughlin mai "2020 oedd y tro diwetha i ni gael eira mawr yma".

"Mae'n neis bod popeth ar gau a ni'n cael aros gartre. Cerddon ni lan [Foel Drigarn] a ni wedi gweld pobl yn sgio lawr."

Roedd Mali, 15 oed, hefyd yn gwerthfawrogi'r olygfa, gan ddisgrifio'r sefyllfa fel "Chaos! Ond chaos da…Mae'n neis i weld pawb yn joio yn yr eira a'r gymuned yn dod at ei gilydd."

Hendy-Gwyn ar Daf, Sir GaerfyrddinFfynhonnell y llun, Mari / BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Hendy-Gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd y cynghorydd Shon Rees, sydd hefyd yn rhedeg cwmni bysys yng Nghymrych, mai "hwn yw'r mwya' o eira dwi wedi gweld ym mhentref Crymych yn yr 20 mlynedd ddiwethaf".

"Mae pobl yn mynd i edrych mas bore 'ma a meddwl ydy hi'n saff mynd? Bydden i'n argymell i unrhyw un i aros adref heddiw."

Ychwanegodd fod yr "amodau gyrru yn ofnadwy o wael.

"Bydden i'n dweud wrth unrhyw un os nad ydych chi'n gorfod gyrru heddiw, bydden i'n aros adref nes bod pethau'n gwella achos mae'r amodau yn ofnadwy."

Fe ddisgrifiodd y sefyllfa fel un "go fregus" gyda "phob un yn argoeli y bydden ni'n cael rhyw 10cm o eira ac mae 'na 20 modfedd o eira fan hyn yng Nghrymych ei hunan."

Rhybudd melynFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Daeth rhybudd y Swyddfa Dywydd i rym am 12:00 brynhawn Mercher

Ysgolion ar gau

Mae nifer o ysgolion wedi gorfod cau ddydd Iau oherwydd yr amodau gwael.

Sir Benfro

  • Ysgol Bro Preseli

  • Ysgol Llanychllwydog

  • Ysgol Llandudoch

  • Ysgol Hafan y Môr

  • Ysgol Gynradd Gymunedol Eglwyswrw

  • Ysgol Gymunedol Maenclochog

  • Ysgol Gymunedol Brynconin - Llandysilio

  • Ysgol Clydau - Tegryn

  • Ysgol Caer Elen

  • Ysgol Bro Gwaun

  • Ysgol Bro Ingli

  • Ysgol Greenhill

  • Ysgol Gymunedol Wolfscastle

  • Ysgol Gymunedol Templeton

  • Ysgol Gymunedol Tavernspite

  • Ysgol Gatholig St Teilos

  • Ysgol Eglwys yng Nghymru St Aidans

  • Ysgol Eglwys yng Nghymru St Oswalds

  • Ysgol Eglwys yng Nghymru St Florence

  • Ysgol Gynradd Saundersfood

  • Ysgol Gymunedol Puncheston

  • Ysgol Portfield, Hwlffordd

  • Ysgol Gymunedol Aberth

  • Ysgol Henry Tudor

  • Ysgol Uwchradd Hwlffordd

  • Ysgol Cosheston

  • Ysgol Eglwys yng Nghymru, Cilgerran

Mae modd i chi weld y diweddaraf ynghylch yr ysgolion sydd wedi cau ar wefan Cyngor Sir Benfro yma., dolen allanol

Eira
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ym mhentref Reynalton, Sir Benfro fore Iau

Sir Gaerfyrddin

  • Ysgol Dyffryn Taf

  • Ysgol Emlyn

  • Ysgol Talacharn

  • Ysgol Llanmiloe

  • Ysgol Pwll

  • Ysgol Beca

  • Ysgol Bro Brynach

  • Ysgol Griffith Jones

  • Ysgol Llys Hywel

  • Ysgol y Ddwylan

  • Ysgol Hafodwenog

  • Ysgol Meidrim

  • Ysgol Penboyr

Mae modd i chi weld y diweddaraf ynghylch yr ysgolion sydd wedi cau ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin yma, dolen allanol.

EiraFfynhonnell y llun, Lubi/Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Yr eira yn drwm yn Llandysul fore Iau

Ceredigion

  • Ysgol Uwchradd Aberteifi

  • Ysgol Gynradd Aberteifi

  • Ysgol Gynradd Aberporth

  • Ysgol Gynradd Llechryd

  • Ysgol Gynradd Cenarth

  • Ysgol Gynradd T Llew Jones

  • Ysgol Gynradd Penparc

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig