Eira a rhew mewn rhannau o Gymru wrth i'r tymheredd ostwng

Roedd hi'n ddechrau oer i'r dydd yng Ngilwern fore Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae yna eira a rhew mewn rhannau o Gymru ddydd Mercher ac mae disgwyl diwrnod tebyg ddydd Iau wrth i'r tymheredd ostwng.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud bod cyflwr y ffyrdd yn wael iawn ar draws y B4329 o New Inn i Ffynnon-groes yn sgil yr eira.
Y rhybudd yw i bobl deithio ar lwybr gwahanol os yn bosibl, neu i gynllunio bod amser ychwanegol a gyrru'n ddiogel.
Mae Traffig Cymru hefyd wedi rhybuddio bod eira wedi yn disgyn yn annisgwyl ledled Ynys Môn, gan ddweud y gallai hyn achosi llif traffig araf, ffyrdd llithrig a rhwystrau rhwydwaith.
Yn ôl adroddiadau eraill, mae yna eira hefyd ar yr A5 rhwng Capel Curig a Bethesda ac yn ardal Llyn Brenig yn Sir Ddinbych.
Roedd y Swyddfa Dywydd eisoes wedi rhybuddio bod eira'n bosib yn y gorllewin wrth i aer oer o'r Arctig gyrraedd rhannau o'r DU.
Cafodd y rhybudd melyn gwreiddiol am eira ei ehangu i rybudd rhag rhew ac mae'n effeithio ar fannau yng Ngheredigion, Sir Gâr, Sir Benfro ac Abertawe.
Daeth i rym am 12:00 ddydd Mercher ac mae'n para tan 23:59 nos Iau.

Mae'r rhybudd melyn ar gyfer y de orllewin
Bu o leiaf un o ffyrdd y gogledd ar gau am gyfnod oherwydd eira - y B4391 yn ne Gwynedd, rhwng yr A496 [Rhyd Y Sarn] ac yr A470 Pen Y Bryn [Ffestiniog].
Mae'r ffordd honno wedi ailagor bellach.
Mae disgwyl i gawodydd gaeafol ledu tua'r de, gan gyrraedd mannau mewndirol yn sgil y gwyntoedd o'r gogledd.
Ym mannau'r cawodydd mwyaf cyson mae disgwyl 2-5cm o eira ac hyd at 10cm mewn ambell fan yn enwedig ar fryniau dros 200m o uchder yn Sir Benfro a gorllewin Sir Gâr.
Mae yna berygl o rew pe bai eira'n dadmer yn rhannol ac yna'n ail-rewi dros nos.
Fe allai'r amodau achosi problemau gan gynnwys ffyrdd, llwybrau a phalmentydd llithrig, trafferthion i yrwyr a theithwyr a thoriadau trydan a all effeithio ar ddefnyddio ffonau.

Yn Llangollen hefyd roedd rhai ffyrdd dan flanced o eira
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod disgwyl cawodydd glaw dros nos, gyda'r posibilrwydd o eira ar y bryniau, a bod risg o rew ar ffyrdd nad sydd wedi eu graeanu wrth i'r tymheredd ostwng tua'r rhewbwynt.
Fe ddaw'r tywydd oer ddiwrnodau wedi i Storm Claudia achosi llifogydd yn rhannau o Gymru.
Bu'r difrod gwaethaf yn ardal Trefynwy, a welodd fis o law mewn cyfnod byr.

Pentref Glyndyfrdwy yn Sir Ddinbych dan drwch o eira wrth iddi wawrio fore Mercher

Roedd Aran Benllyn yn ardal Llanuwchllyn yn wyn
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2025
