Blwyddyn y merched oedd 2025 ym myd crefydd yng Nghymru

Cafodd Cheryl Vann ei hethol yn Archesgob ac Elinor Wyn Reynolds ei hethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr yn 2025
- Cyhoeddwyd
Roedd 2025 yn flwyddyn gythryblus i'r Eglwys yng Nghymru ond dyma flwyddyn lle cafodd nifer o ferched eu penodi i swyddi blaenllaw ym myd crefydd.
Erbyn mis Tachwedd roedd merch yn allweddol yn arweinyddiaeth pob un o'r enwadau Cristnogol heblaw am yr Eglwys Gatholig.
Gyda phenodi Elinor Wyn Reynolds yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr yn yr haf, mae pob un o'r enwadau anghydffurfiol bellach o dan arweinyddiaeth merched sef Judith Morris, Nan Wyn Powell-Davies, Jenny Hurd a Melda Grantham.
Dilyn y patrwm wnaeth Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru drwy benodi Cherry Vann yn Archesgob Cymru.
Hi oedd y ferch gyntaf i'w hethol yn Archesgob ym Mhrydain a'r person hoyw cyntaf i fod yn Archesgob trwy'r Gymundeb Anglicanaidd gyfan.
Ar raglen Bwrw Golwg ym mis Gorffennaf fe ddywedodd y cyn-Archesgob Andy John mai'r 'penderfyniad iawn oedd ymddeol ond ei fod yn boenus ofnadwy'
Cafodd Cherry Vann ei hethol wedi ymddeoliad disymwth Andy John fel Archesgob ac Esgob Bangor ar ôl helynt hir Cadeirlan Bangor.
Fis Mai cafodd dau adroddiad eu cyhoeddi am ddigwyddiadau a chamweinyddu yn y gadeirlan.
Rhaid pwysleisio na wnaeth cwmni Thirtyone eight na'r adroddiad Ymweliad ganfod unrhyw drosedd ym Mangor ond fe adroddwyd am ffiniau rhywiol aneglur, ymddygiad annerbyniol a gweinyddiaeth wan iawn ynghylch diogelu.
Nid oedd unrhyw awgrym o gamymddwyn gan yr Archesgob ac er mai'r Cabidwl sef ryw 15 o ganoniaid oedd yn gyfrifol am weinyddu a gofalu am yr hyn sydd yn digwydd yn y Gadeirlan, penderfynodd ymddiriedolwyr yr Eglwys yng Nghymru fod angen arweinyddiaeth newydd - penderfyniad oedd i bob pwrpas yn gorfodi ymddeoliad yr Archesgob.
Yna ymhen rhai misoedd fe etholwyd Cherry Vann yn Archesgob newydd, gwraig ag iddi enw da iawn am greu cymod a chyd-ddeall mewn sefyllfaoedd anodd.
Diwylliant yfed 'unrhyw esgus i fynd i dafarn' yng Nghadeirlan Bangor
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2025
Diswyddo pennaeth cerddoriaeth Cadeirlan Bangor wedi ffrae am gân
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2025
Os etholwyd Cherry Vann yn Archesgob penderfynu na allent benodi Esgob Bangor wnaeth y Coleg Ethol.
Penderfynodd Mainc yr Esgobion fod angen gosod esgob profiadol ym Mangor am flwyddyn neu ddwy cyn ethol esgob newydd. Cadarnhawyd hynny gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys, gan newid y cyfansoddiad dros dro er mwyn gwneud hynny'n bosib.
Ond bron i ddeufis yn ddiweddarach nid oes unrhyw gyhoeddiad wedi ei wneud.
O ystyried fod angen Cymro Cymraeg yn y swydd, ychydig iawn o esgobion profiadol sydd ar gael.

Cafodd Anthony Pierce ei garcharu ym mis Mawrth am achosion hanesyddol o gam-drin
Er mor drawmatig oedd hanes Cadeirlan Bangor, storm fach bitw oedd hi i gymharu gyda'r datgeliadau am ddiogelu yn Esgobaeth Abertawe Aberhonddu.
Ym mis Mawrth 2025 cafodd cyn-Esgob Abertawe ac Aberhonddu, Anthony Pierce,ei garcharu am gam-drin plentyn yn rhywiol.
Clywodd y llys bod y troseddau'n dyddio o gyfnod rhwng 1985 a 1990, pan oedd yn offeiriad plwyf yn West Cross, Abertawe.
Daeth ei droseddau i'r amlwg yn 2023, pan basiodd yr Eglwys yng Nghymru wybodaeth am honiadau at yr heddlu ond ers hynny daeth yn amlwg fod nifer fechan o bobl o fewn yr eglwys yn ymwybodol o gyhuddiadau eraill yn ei erbyn yn 1993.
Ni weithredwyd ar yr achos tan 2010 ac yn y cyfamser roedd wedi bod yn esgob rhwng 1999 a 2008.
Mae'r Eglwys ar fin cyhoeddi adroddiad annibynnol yng nghylch y mater a materion diogelu eraill yn yr Eglwys.
Bydd gweithredu ar yr argymhellion hynny yn un o dasgau mawr yr Archesgob.
Eglwysi newydd
Mae dros flwyddyn bellach wedi pasio ers ffurfio Cant i Gymru, sef grŵp o bobl sydd wedi gosod nod o blannu cant o eglwysi newydd yng Nghymru o fewn deg mlynedd.
Mae'r ddiwinyddiaeth ar y cyfan yn geidwadol ond nid yn haearnaidd felly ac wrth ddathlu blwyddyn ers eu sefydlu maen nhw yn datgan eu bod yn croesawu'r amrywiaeth safbwyntiau.
Nid eglwysi sydd yn adweithio i ddiffygion yr eglwysi enwadol yw'r rhain, ond symudiad sydd yn codi o ofid fod Cristnogaeth ar drai yng Nghymru a bod cymunedau yn wynebu caledi a thlodi.
Mae nifer o'r eglwysi hyn wedi eu cefnogi gan yr enwadau traddodiadol ac yn ystod y flwyddyn fe glywyd am ddatblygiadau Cymraeg yn Grangetown, Pontypridd, Blaenau Ffestiniog, Morfa Nefyn ac amryw fan arall.

Mae banc bwyd yn Eglwys St Catherine Gorseinon sydd wedi cael £2.8m eleni o Gronfa Twf yr Eglwys er mwyn ehangu'r gwaith o wasanaethu anghenion yr ardal
Mae llawer iawn o eglwysi traddodiadol wedi gweld anghenion y gymuned fel rhan ganolog o'u tasg yn ystod 2025.
Parhau i gefnogi a bod yn gartref i fanciau bwyd y mae llawer ac eraill yn creu Mannau Cynnes sydd nid yn unig yn cynnig man i gyfarfod ond yn cynnig pryd ysgafn hefyd.
Yng Nghaerdydd mae'r eglwysi Cymraeg yn flaenllaw iawn yn paratoi prydau bwyd i bobl ddigartref ac mae hyd at 80 o bobl yn cael eu bwydo yn festri'r Tabernacl ddwy waith yr wythnos.
Mae'r cyfan yn atgoffa rhywun fod llu mawr o wirfoddolwyr yn parhau i agor drysau'r capeli a'r eglwysi ar y Sul ac yn aml iawn yn ystod y wythnos - ffaith mae rhywun yn colli golwg arni wrth weld cymaint o gapeli yn cau.
Negeseuon Nadolig: 'Gobaith mewn byd o anobaith'
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2025
Archesgob Cymru: Rhai wedi gadael yr Eglwys oherwydd fy rhywioldeb
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2025
Nid sefydliadau mewnblyg mo'r eglwysi ar y cyfan - mae eu llygaid a'u consyrn am faterion rhyngwladol yn amlwg.
Yn ystod 2025 roedd pryderon parhaus am y sefyllfa yn Gaza ac Wcráin ac fe roddodd eglwysi sylw i wrthdaro yn Yemen, Sudan a Congo hefyd ac i iawnderau dynol mewn sawl gwlad.
Yn aml iawn yn 2025 fe wnaeth arweinwyr eglwysi godi pryderon fod elfennau o wleidyddiaeth yn gallu creu ofn, creu rhwygiadau a magu myfïaeth.
Digon hawdd yw dathlu'r Nadolig ond yn ôl Cherry Vann yn ei neges Nadolig gyntaf fel Archesgob mae'r Nadolig yn dechrau wedi'r ŵyl.
"Mae Iesu yn dod heddiw, a bob dydd, â llygedyn o obaith hyd yn oed pan fydd popeth yn ymddangos yn anobeithiol.
"A gallwn ymuno â rhannu'r goleuni hwnnw - Ggwên i ddieithryn, gair caredig yn y ciw neu wrth y til, 'diolch' i rywun sydd wedi ein helpu - mae'r holl bethau bach hyn yn gwneud gwahaniaeth.
"Maen nhw'n dod â goleuni i'n byd a gallent fod yr unig lygedyn o olau a gobaith y gallai rhywun ei brofi'r diwrnod hwnnw," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.