Negeseuon Nadolig: 'Gobaith mewn byd o anobaith'

CannwyllFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinwyr eglwysig pob enwad yng Nghymru wedi cyflwyno negeseuon ar gyfer Nadolig 2025

  • Cyhoeddwyd

Gobaith yr ŵyl, a hynny mewn cyfnod o anobaith, yw prif fyrdwn negeseuon arweinwyr yr eglwysi yng Nghymru eleni.

"Yn ystod y Nadolig rydyn ni'n dathlu Iesu yn dod fel babi i ddod â goleuni a bywyd hyd yn oed i'n sefyllfaoedd tywyllaf a mwyaf anobeithiol," medd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann.

"Mae Iesu yn dod heddiw, a bob dydd, â llygedyn o obaith hyd yn oed pan fydd popeth yn ymddangos yn anobeithiol.

"A gallwn ymuno â rhannu'r goleuni hwnnw.

"Gwên i ddieithryn, gair caredig yn y ciw neu wrth y til, 'diolch' i rywun sydd wedi ein helpu - mae'r holl bethau bach hyn yn gwneud gwahaniaeth.

"Maen nhw'n dod â goleuni i'n byd a gallent fod yr unig lygedyn o olau a gobaith y gallai rhywun ei brofi'r diwrnod hwnnw."

Esgob Mynwy, Cherry VannFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r holl bethau bach hyn yn gwneud gwahaniaeth," meddai'r Parchedicaf Cherry Vann

Neges debyg sydd gan y Parchedig Rob Nicholls, llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru.

"Rhan ganolog o wyrth geni'r Iesu ym Methlehem yw'r goleuni hwnnw sy'n tywynnu yng nghanol pob tywyllwch - cofiwn mai ef yw ein heddwch, ein gobaith a'n nerth.

"Mewn byd sy'n teimlo'n ansicr ac yn fregus, mae neges y Nadolig yn ein galw i ailddarganfod y newyddion da sy'n trawsnewid bywydau..."

Ychwanegodd: "Bydd 2026 yn gyfle i adeiladu pontydd newydd, i gryfhau ein cydweithio, ac i wrando ar lais Duw yn ein tywys i'r dyfodol.

"Yn fwy nag erioed, mae'r byd angen tystiolaeth eglwys sy'n adlewyrchu cariad Crist mewn geiriau a gweithredoedd."

Nan Powell-DaviesFfynhonnell y llun, Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Nadolig yn ymwneud â phartneriaeth, nid patriarchaeth, yw neges y Parchedig Nan Powell-Davies

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru hefyd yn rhoi pwyslais ar gydweithio.

Mae'r Nadolig yn ymwneud â phartneriaeth, nid patriarchaeth, yw neges yr ysgrifennydd cyffredinol, y Parchedig Nan Powell-Davies.

"Daeth Duw i fod gyda ni, nid uwch ein pennau," meddai.

"Yn ystod y Nadolig rydym yn dathlu'r pethau da a wnawn gyda'n gilydd: y partneriaethau sy'n dod â bywyd a gobaith i'n cymunedau.

"Wrth edrych yn ôl ar 2025, mae nifer o gyfleoedd a phrosiectau sy'n disgleirio'n llachar ac yn cynnig cyfeiriad clir i'r dyfodol.

"Maen nhw'n siarad yn huawdl am rym cydweithredu a phartneriaethau cyfartal, yn hytrach na rhoi a derbyn gorchmynion...

"Dwi'n credu'n ddiffuant fod y Nadolig yn dangos i ni fod perthynas iach yn seiliedig ar bartneriaeth, nid patriarchaeth."

Gweld Iesu fel Tywysog Tangnefedd a'i her i ninnau y mae llywyddion yr eglwys Fethodistaidd, Andrew Chalrlesworth a Jennie Hurd - a hynny wrth feddwl am y gwrthdaro presennol yn y byd.

Mae Llywydd Undeb yr Annibynwyr - Owain Llŷr Evans - yn myfyrio ar y gân Little Drummer Boy.

"Ni yw'r bachgen bach 'ma, ac mae sŵn aflafar ein clatsio, taro ac ergydio o'n cwmpas ymhob man," meddai.

"Ond, gall Duw â'i gariad greu o'n sŵn, rythm.

"Y Nadolig hwn ac ymlaen i 2026, rhown o'n gorau i Iesu ein harglwydd, ac yna cawn brofi o'r rhyfeddod hwn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig