Archesgob Cymru: Rhai wedi gadael yr Eglwys oherwydd fy rhywioldeb

Cherry Vann yw'r ddynes gyntaf i fod yn Archesgob Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Archesgob Cymru wedi dweud bod rhai plwyfolion wedi dewis gadael yr Eglwys yng Nghymru wrth iddyn nhw brotestio yn erbyn ei rhywioldeb a'i rhywedd.
Cafodd y Parchedicaf Cherry Vann, sydd hefyd yn Esgob Mynwy, ei phenodi yn archesgob benywaidd cyntaf y DU ac yn archesgob hoyw agored cyntaf y byd ym mis Gorffennaf.
Wrth siarad cyn cyflwyno ei neges Nadolig am y tro cyntaf fel Archesgob, dywedodd ei bod wedi cael ei brifo gan rai o'r ymosodiadau arni yn sgil ei rhywioldeb, ond ei bod hefyd yn credu na ddylid gwahardd pobl rhag mynegi barn wahanol.
Daw hyn ar ôl i'r Global Fellowship of Confessing Anglicans (Gafcon)ddisgrifio ei phenodiad fel "hoelen boenus arall yn arch uniongrededd Anglicaniaeth".

Cafodd Cherry Vann ei gorseddu mewn gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Casnewydd ym mis Tachwedd
"Mae yna leoedd o hyd ym mhobman lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd derbyn menywod yn arweinwyr, ac mae'n rhaid i mi barchu hynny," meddai'r Archesgob.
"Mae'r Eglwys yng Nghymru yn gweithio'n galed i groesawu pobl LHDT+, ond rwyf hefyd yn parchu bod hynny'n anodd iawn i rai o fewn yr Eglwys yng Nghymru.
"Yn anffodus, mae rhai wedi teimlo'r angen i adael, ac rwy'n cymryd hynny o ddifrif."
Cafodd yr Archesgob Vann ei hethol wedi pleidlais ymhlith aelodau Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghas-gwent yn ystod yr haf wedi ymddeoliad ei rhagflaenydd Andrew John.
'Dal i frifo'
Dywedodd yr Archesgob fod y mwyafrif helaeth o'r ymateb i'w phenodiad wedi bod yn gefnogol, ond bod eraill wedi bod yn "eithaf gelyniaethus".
"Gall hynny fod yn boenus iawn," meddai.
"Mae'n anodd clywed rhai o'r pethau y mae pobl yn eu dweud, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod lle iddyn nhw fynegi'r safbwyntiau hynny.
"Dydw i ddim eisiau i bobl deimlo eu bod nhw'n cael eu tawelu neu'u cau allan dim ond oherwydd fy mod i'n dal barn wahanol.
"Ond mae'n dal i frifo, gan ei fod yn teimlo fel ymosodiad ar bwy ydw i ac ar bwy y mae Duw wedi fy nghreu i fod.
"Mae'n rhaid i ni, fel Eglwys, ddod o hyd i ffordd o barchu safbwyntiau ein gilydd a dod o hyd i dir cyffredin yn ein ffydd yng Nghrist, er gwaethaf ein gwahaniaethau."

Cherry Vann yw'r 15fed person i hawlio teitl Archesgob Cymru
Dywedodd yr Archesgob Vann, er gwaethaf y diddordeb eang yn ei phenodiad oherwydd ei rhyw a'i rhywedd, nad dyna'r pethau pwysicaf iddi hi'n bersonol.
"Mae'r diddordeb yn fawr ymhlith eraill," meddai.
"Cefais lawer o negeseuon gan bobl yn dathlu fy mhenodiad ac yn dweud faint o obaith a nerth maen nhw'n ei gael o weld menyw yn y rôl – ac yn fenyw mewn partneriaeth sifil hefyd.
"Rwyf wedi cael y gwrthwyneb hefyd. Dyna yw bywyd."
Yn ei neges Nadolig, dywedodd ei bod wedi dewis darn o Efengyl Ioan sy'n sôn am ddod o hyd i oleuni yn y tywyllwch – dewis poblogaidd mewn gwasanaethau carolau.
"Mae'n ymwneud â sut mae dyfodiad Iesu yn oleuni yn y tywyllwch - ac mae digon o dywyllwch yn y byd ar hyn o bryd," meddai.
"Ein neges fel Cristnogion yw bod Iesu'n dod i ganol yr anhawster a'r anobaith, ac yn dod â goleuni, gobaith, cariad a llawenydd".
'Problem ddiwylliannol fawr'
Ar ôl blwyddyn gythryblus i'r Eglwys yng Nghymru, dywedodd yr Archesgob ei bod yn ymwybodol iawn o'i chyfrifoldeb i fynd i'r afael â'r problemau a arweiniodd at ymadawiad ei rhagflaenydd.
Wrth ymateb i gwestiwn oedd yn gofyn a ddylid barnu ei chyfnod fel Archesgob ar ei gallu i newid diwylliant yr Eglwys, dywedodd ei bod yn her sylweddol.
"Rwy'n credu bod problem ddiwylliannol fawr yn yr Eglwys," meddai.
"Bydd unrhyw un sydd wedi ceisio newid diwylliant sefydliad yn dweud ei fod yn cymryd amser hir.
"Mae hwn yn beth mawr, ac mae'n debyg y bydd gwaith i'w wneud o hyd pan fydda' i'n ymddeol.
"(Mae angen i ni) ofalu'n well am y rhai sydd wedi cael eu niweidio gan yr Eglwys, ac yn anffodus mae llawer ohonyn nhw.
"Ond rwy'n obeithiol ein bod eisoes yn gwneud newidiadau.
"Mae yna lawer o bobl sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth a sicrhau bod yr Eglwys yn le lle mae pethau'n cael eu trin yn briodol pan fyddan nhw'n mynd o chwith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd23 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2025
