Llifogydd a thrafferthion teithio yn sgil rhybuddion am law trwm

Roedd Afon Cothi wedi gorlifo ei glannau ym Mhontargothi fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae tywydd garw wedi achosi trafferthion teithio a llifogydd mewn rhannau o Gymru ddydd Llun.
Mae sawl rhybudd tywydd wedi bod mewn grym ddydd Llun, gan gynnwys un rhybudd am "berygl i fywyd" ar hyd y de.
Roedd pedwar rhybudd mewn grym ar adegau gwahanol - pob un am law trwm - gydag arbenigwyr yn awgrymu fod llifogydd yn debygol mewn mannau.
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru [CNC] wedi rhybuddio bod llifogydd yn fwy tebygol yn y de, gyda llefydd fel Castell-nedd a mannau yn Sir Gaerfyrddin wedi eu heffeithio ddydd Llun.
Mae gan CNC rybuddion coch am lifogydd mewn grym, yn ogystal â degau o rybuddion oren 'byddwch yn barod'.
Ar ei waethaf roedd 12 rhybudd coch mewn grym i gyd.
Mae modd gweld y cyngor a'r rhybuddion diweddaraf ar wefan CNC., dolen allanol

Fe fydd y rhybudd oren am law mewn grym tan 21:00 nos Lun
Roedd y Swyddfa Dywydd, dolen allanol wedi cyhoeddi rhybudd am "berygl i fywyd" mewn rhannau o dde Cymru.
Daeth y rhybudd oren am law trwm i rym am 03:00 a bydd yn dod i ben am 21:00.
Mae rhwng 50-80mm o law yn debygol o fewn ardal y rhybudd, gyda hyd at 100mm yn bosib mewn rhai mannau.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae'r tywydd garw diweddar ac effaith hynny ar y tir yn debygol o gynyddu'r risg o lifogydd.
Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ar hyd y de hefyd drwy gydol ddydd Llun.
Roedd disgwyl i'r tywydd garw effeithio ar rannau o'r gogledd a'r canolbarth hefyd, ond mae rhybudd melyn am law wedi dod i ben ers 15:00, rhybudd arall am law dros rannau o'r gogledd ddwyrain tan hanner nos.

Mae holl adnoddau Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymateb i effeithiau'r tywydd, fel yma yng Nghastell-nedd
Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod eu "holl adnoddau" yn cael eu defnyddio mewn ymateb i'r glaw trwm.
Mae hynny'n cynnwys "timau priffyrdd, draenio a thimau cymuned gweithredol".
"Mae adnoddau'n cael eu cydlynu o'r Ganolfan Ymateb i Wasanaethau gyda llifogydd eiddo a llifogydd ffyrdd cyflym yn cael blaenoriaeth."
Ychwanegodd y llefarydd fod "criwiau'n brysur yn clirio seilweithiau draenio ac yn dosbarthu bagiau tywod i atal effeithiau llifogydd".

Llifogydd yn Llanglydwen, Sir Gaerfyrddin fore Llun
Mae'r llifogydd wedi arwain at rai problemau i deithwyr ddydd Llun.
Cafodd gyrrwr ei achub gan Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin ar ôl i gar gael ei ddal yn y llifogydd yng Ngwauncaegurwen. Roedd yr afon wedi gorlifo ei glannau.
Bu'n rhaid canslo gwasanaethau trên rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog tra bod cyngor i yrwyr osgoi'r A487 yn Nasareth, Gwynedd oherwydd y dŵr ar y ffordd.
Yn Sir Gaerfyrddin roedd yr A40 ynghau yn Llandeilo rhwng Ffordd Caerfyrddin a'r A483 oherwydd llifogydd ac yn Llanymddyfri mae 'na ddŵr ar wyneb yr A40 rhwng yr A483 a Blaen y garn i gyfeiriad Maenordeilo.
Mae'r gwasanaethau trên a oedd wedu'u canslo fore Llun bellach yn weithredol.

David Graham yn dweud bod angen gwaith cynnal a chadw cyson
Mae David Graham sy'n dad i bedwar o blant ifanc, wedi byw gyda'i deulu ym Mhontargothi ers dwy flynedd.
Mae ei dŷ wedi cael ei ddifrodi gan lifogydd sawl gwaith, ac er nad yw'r eiddo ei hun wedi cael llifogydd ddydd Llun, dywedodd bod tywydd eleni "ychydig yn eithafol".
Er nad oes dŵr wedi cyrraedd y tu mewn i'w gartref, mae dŵr yn amgylchynu ei dŷ ac mae ei blant wedi gorfod aros adref o'r ysgol am nad yw'n ddiogel iddyn nhw adael y tŷ.
"Doedden ni ddim yn poeni gormod am y glaw y tro hwn," meddai Mr Graham, a oedd wedi bod yn helpu ei gymdogion i symud dodrefn i lefel uwch ddoe.
Ond dywedodd fod nifer o ganghennau a choed sydd wedi teithio ar hyd Afon Cothi wedi eu rhwystro ger y bont ac o ganlyniad, yn amharu ar y busnesau a thai gerllaw.
'Niweidiol iawn'
Dywedodd Mr Graham ei fod yn "niweidiol iawn i'r gymuned leol".
Ychwanegodd nad ydyn nhw'n cael eu symud yn ddigon cyflym: "Roedden nhw yno cyn Storm Bram a oedd dros wythnos yn ôl nawr.
"Rydym mewn sefyllfa nawr lle mae'r dŵr yn codi yn uwch."
Ychwanegodd fod angen "gwaith cynnal a chadw cyson. Mae'n wael nad oes gwaith glanhau wedi digwydd ar y bont".
"Dwi ddim yn gallu gweld sut mae modd anwybyddu hynna. Dwi ddim yn gallu gweld sut mae modd anwybyddu'r eiddo sydd yma."
Mae cais wedi cael ei roi i Cyngor Sir Caerfyrddin am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2025
