Miloedd heb bŵer a rhybuddion am lifogydd wrth i Storm Bram daro Cymru

Ffordd Abergwili ar gyrion Caerfyrddin dan ddŵr brynhawn Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o gartrefi wedi bod heb bŵer a nifer o rybuddion llifogydd mewn grym wrth i law trwm a gwyntoedd cryfion Storm Bram daro Cymru.
Am 13:15 ddydd Mercher roedd dau rhybudd coch am lifogydd, dolen allanol mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â 17 o rybuddion oren 'byddwch yn barod'.
Mae'r rhybuddion coch yn berthnasol i afonydd Tywi a Rhydeg.
Ar ei uchaf ddydd Mawrth, roedd 20 o rybuddion coch, a dros 60 o rybuddion oren mewn grym.
Mae gwyntoedd wedi cyrraedd 85mya yng Nghapel Curig, Sir Conwy, 83mya yn Aberdaron, Pen Llŷn, a 69mya yn Aberporth, Ceredigion.

Roedd y ffyrdd ger cylchfan Cwmbwrla yn Abertawe ar gau ddydd Mawrth oherwydd llifogydd yn yr ardal
Mae'r tywydd hefyd wedi effeithio cyflenwadau trydan, gyda'r Grid Cenedlaethol, dolen allanol yn adrodd bod dros 2,250 o gartrefi heb drydan ar draws de a gorllewin Cymru amser cinio ddydd Mawrth.
Erbyn 20:45 nos Fawrth roedd ychydig dros 1,400 - gyda 1,006 o'r rheiny yn ardal Caerfyrddin - ond fe ddychwelodd trydan i'r mwyafrif erbyn bore Mercher.
Dyw cwmni SP Energy Networks, sy'n gyfrifol am ogledd Cymru, ddim yn cyhoeddi ffigyrau o ran nifer y cartrefi sydd wedi colli cyflenwad.
Ond mae eu gwefan nhw yn nodi bod pobl wedi colli pŵer yn ardaloedd Pwllheli, Llanfairpwll, Y Felinheli, Bangor, Llanfairfechan, Abergele a Bae Colwyn.
Trên wedi taro coeden
Mae gwasanaethau rheilffordd rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog wedi cael eu canslo ar ôl i drên daro coeden oedd wedi disgyn ar y cledrau.
Cadarnhaodd Trafnidiaeth Cymru fod 17 o deithwyr ar y gwasanaeth 16:42 o Landudno ar y pryd, pan darodd y goeden ger Glan Conwy.
Ni chafodd neb ei anafu.

Mae'r A487 yn Niwgwl, Sir Benfro yn parhau ynghau fore Mercher oherwydd llifogydd
Fe wnaeth y tywydd garw achosi problemau ar y ffyrdd hefyd gyda chylchfan Cwmbwrla ar gau am gyfnod hir oherwydd y dŵr ar y ffordd.
Fore Mercher roedd adroddiadau bod yr A499 ger Pwllheli, yr A483 ger Beulah, yr A487 ger Niwgwl, yr A4042 ger Llanelen a'r A4086 ger Llanberis ynghau oherwydd llifogydd.
Fe gyhoeddodd Coleg Menai y byddai campysau Llangefni, Bangor a Pharc Menai ar gau i ddysgwyr dydd Mawrth oherwydd y gwyntoedd cryfion a'r effaith debygol ar bontydd y Borth a Britannia.
Roedd Canolfan Hamdden Caergybi ar gau hefyd brynhawn Mawrth, gyda lluniau yn dangos bod rhan fawr o'r to wedi cael ei chwythu oddi ar yr adeilad.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod teils wedi bod yn disgyn oeddi ar doeau adeiladau yn ardal Stryd Fawr Bangor oherwydd y gwynt, gan annog pobl i fod yn wyliadwrus.
Mae nifer o wasanaethau trên ar draws y wlad wedi eu canslo, gyda sawl lein yn y gogledd-orllewin a'r canolbarth ar gau oherwydd llifogydd - cliciwch yma, dolen allanol am y wybodaeth ddiweddaraf gan Drafnidiaeth Cymru.

Mae rhan fawr o do Canolfan Hamdden Caergybi wedi cael ei chwythu oddi ar yr adeilad

Roedd colofnau goleuo ar bont Tywysog Cymru ar yr M4 mewn perygl o ddymchwel ddydd Mawrth - oedd yn golygu mai dim ond un lôn oedd ar agor i'r ddau gyfeiriad, gan achosi tagfeydd hir ar ddwy ochr y draffordd.
Yn ddiweddarach fe gadarnhaodd corff National Highways y bydd y bont ar gau yn llwyr rhwng 20:00 nos Fawrth a 06:00 fore Mercher i dynnu'r 35 o golofnau dan sylw.
"Mae'r holl waith yn dibynnu ar y tywydd, a dim ond ar ôl i'r gwyntoedd cryfion ostegu y gall ddigwydd," meddai llefarydd.
Cafodd y traffig ei ddargyfeirio i hen Bont Hafren - yr M48 oedd hefyd wedi bod ar gau am gyfnodau ddydd Mawrth oherwydd gwyntoedd cryfion, yn ogystal â Phont Cleddau yn Sir Benfro.
Roedd pont Tywysog Cymru wedi ailagor fore Mercher ond roedd cyfyngiadau yn parhau oherwydd y gwyntoedd cryfion.

Roedd y ffordd gefn yma ger Aberhonddu fel afon fore Mawrth
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am "berygl i fywyd" mewn rhannau o dde Cymru yn sgil y storm.
Roedd rhybudd oren am law mewn grym tan 10:00 fore Mawrth ar gyfer rhannau o'r cymoedd, gyda 100mm o law yn bosib mewn mannau.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf fod criwiau ac offer wedi cael eu gyrru i leoliadau sydd â'r risg uchaf o lifogydd, a bod contractwyr yn gweithio i ymateb i achosion brys.
Ychwanegodd y cyngor ei fod wedi darparu pympiau dŵr ar y cyd gyda Dŵr Cymru ym Mhontypridd.

Roedd lefel Afon Cleddau yn Hwlffordd yn uchel fore Mawrth
Mae rhybuddion melyn am wynt a glaw hefyd wedi bod mewn grym ar gyfer bron pob rhan o Gymru, gyda'r bygythiad o lifogydd a cholli cysylltiad trydan hefyd yn bosib i nifer o ardaloedd.
Daeth y rhybudd glaw i ben am 14:00 ddydd Mawrth, a'r rhybudd am wyntoedd cryfion i ben am 19:00.
Roedd rhybudd melyn arall am wynt mewn grym ar gyfer rhannau o Sir Ddinbych a Sir y Fflint, a hynny tan 23:59 nos Fawrth.

Roedd gwyntoedd cryf ym Morthcawl hefyd
Bu'n rhaid i Borthladd Caergybi ar Ynys Môn gau un derfynfa yn dilyn "digwyddiad angori" a gafodd ei achosi gan y tywydd garw ddydd Gwener.
Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yn annog y cyhoedd i gymryd gofal, ac yn cynghori pobl i beidio teithio oni bai bod y siwrne yn hanfodol mewn ardaloedd ble mae rhybuddion oren.
Mae'r gymdeithas hefyd yn annog pobl i aros y tu mewn yn ystod tywydd garw, i wirio am rybuddion a diweddariadau gan yr awdurdodau, ac i sicrhau bod gan ddyfeisiau fel ffonau symudol bŵer rhag ofn y bydd toriadau i gyflenwadau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2025
