Rhybuddion am ragor o law trwm a llifogydd dros rannau o Gymru

Mae disgwyl i rhwng 30-40mm o law ddisgyn yn eang o fewn ardal y rhybudd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai glaw trwm achosi llifogydd mewn rhannau o Gymru gyda disgwyl glaw trwm nos Sul a dydd Llun.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi rhybuddio pobl yn ne Cymru yn benodol i baratoi ar gyfer llifogydd sylweddol posibl dros nos.
Ar hyn o bryd mae un rhybudd o lifogydd mewn grym ger yr Afon Ewenni.
Mae pedwar rhybudd gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer nifer o ardaloedd yn y gogledd, y canolbarth a'r de.
Mae rhybudd oren mewn grym, dolen allanol rhwng 03:00 bore dydd Llun a 21:00 nos Lun, ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe.
Mae rhybudd melyn am law mewn grym, dolen allanol hefyd drwy gydol dydd Llun ar gyfer Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Ceredigion, Merthyr Tudful, Powys a Bro Morgannwg.
Ond, mae rhybudd melyn arall am law mewn grym, dolen allanol rhwng 18:00 nos Sul a 15:00 ddydd Llun a Cheredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd a Phowys ydy'r siroedd sydd wedi eu cynnwys yn y rhybudd hwnnw.
Mae rhybudd melyn ar wahân am law mewn grym, dolen allanol ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam o 18:00 ddydd Sul tan hanner nos ddydd Llun.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o rybuddion tywydd yn ddiweddar, ac fe ddaw rhai dyddiau yn unig ar ôl i Storm Bram achosi problemau ar draws y wlad.
Yn ôl arbenigwyr, fe allai'r glaw ddydd Sul a dydd Llun arwain at drafferthion ar y ffyrdd, yn ogystal â'r llifogydd mewn mannau.
Mae rhywfaint o amharu ar gyflenwadau trydan a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn bosib.
Mae disgwyl i rhwng 30-40mm o law ddisgyn yn eang o fewn ardal y rhybudd, gyda hyd at 100mm yn bosib ar dir uchel.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.