Y Bermo: Ymateb lleol i'r cynllun i godi wal goncrit rhag llifogydd

- Cyhoeddwyd
Mae tref glan môr Y Bermo wedi bod yn denu ymwelwyr ers blynyddoedd, ond gyda newid hinsawdd mae lefel y môr yn codi gan fygwth dyfodol y dref.
Ond mae yna gynlluniau ar y gweill i gryfhau mesurau amddiffyn llifogydd Y Bermo, a allai yn ôl Cyngor Gwynedd, ddiogelu dros 700 o dai sydd ar hyn o bryd mewn perygl o lifogydd arfordirol.
Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd yng nghei gogledd Abermaw yn ystyried codi wal goncrit - all fesur hyd at 5 troedfedd 6 modfedd - o flaen ystad o dai ar hyd y prom.
Ond yn ôl un perchennog busnes lleol "mae 'na lot o bobl yn y dre' sydd ddim yn hapus".
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod am ystyried yr "adborth a dderbyniwyd fel rhan o'r broses" ymgynghori cyn cyflwyno cais cynllunio.

Mae Stephen yn credu y bydd pobl yn y pen draw yn falch o'r wal goncrit ond mae Wendy am gael rhagor o wybodaeth
"Am bod hi mor uchel, ma' hi am edrych yn hyll, ma' hynny'n wir," meddai Stephen Staff sy'n rhedeg busnes ar y promenâd ers dros 40 o flynyddoedd.
Ond gyda lefel y môr yn codi, mae'n cydnabod "mewn 50 mlynedd, dwi'n siŵr fysa'r bobl sy'n byw yn y tai yma yn hapus fod wal fel hyn yma".
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod sawl digwyddiad ymgynghori wedi bod gyda'r gymuned leol ers 2019 ond dim digon meddai'r cynghorydd lleol, Wendy Cleaver.
"Da' 'ni'n croesawu amddiffynfeydd llifogydd, ond da' ni just eisiau gwybod pam, pam fod y wal fel yna? Pam fod o wedi ei neud allan o goncrit?"
"Mae popeth wedi eu neud o garreg yn Bermo," meddai.
"Mae mor brydferth yma, felly wrth gwrs y bydd o'n cael effaith fawr ar y dre'."
Yn ôl Cyngor Gwynedd, roedd y datblygiad arfaethedig yma'n destun Ymgynghoriad Cyn-Cais Cynllunio ddiwedd 2025.
Ychwanegon nhw bod y broses statudol yma yn "darparu cyfle i ymgysylltu â'r gymuned leol a'r awdurdodau cynllunio".
“Rydym ar hyn o bryd yn adolygu'r adborth a dderbyniwyd fel rhan o'r broses YCC ac yn bwriadu cynnal rhagor o ymgysylltu cyn cyflwyno unrhyw gais cynllunio".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror

- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025
