Perchennog becws yn Sir Gâr yn 'benderfynol' o ailagor ar ôl llifogydd

Fe wnaeth llifogydd daro ardal siop County Stores a chartrefi cyfagos yn Sanclêr ar 4 a 5 Tachwedd
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog becws yn Sir Gaerfyrddin a gafodd ei daro gan lifogydd fis diwethaf wedi addo ailagor yn 2026, er gwaetha'r difrod sylweddol i'r siop.
Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân achub Sheila Phillips, 80, o siop County Stores yn Sanclêr mewn cwch pan darodd glaw trwm yr ardal ar 4 a 5 Tachwedd.
Cafodd offer y becws ei ddinistrio gan y dŵr a lifodd mewn, a bydd yn rhaid ailosod lloriau a waliau mewnol y busnes yn sgil y difrod.
Cafodd nifer o gartrefi ar y stryd eu difrodi hefyd.

Bu'n rhaid achub Sheila Phillips o'i chartref yn Sanclêr yn ystod y llifogydd
Roedd Sheila wedi cyd-redeg y busnes am 48 o flynyddoedd gyda'i gŵr Wyndham, cyn ei farwolaeth yn gynharach eleni.
"Ro'n i yn gweithio dydd a nos i ddechrau achos doedd dim busnes i gael 'ma, a gweithio yn galed i buildo'r busnes lan, a mae rhywbeth fel hyn yn dod a dodi stop i chi."
Dywedodd Sheila ei bod hi wedi cael ei dihuno yng nghanol y nos gan y gwasanaeth tân, oedd yn mynnu ei bod hi'n gorfod gadael mewn cwch.
"Roedd y dŵr lan hyd ein canol ni ac roedd y dŵr yn fochedd," meddai.
"So ni wedi cael dim byd tebyg i 'na erioed.
"Yn 2005 cawsom ni ychydig bach mewn, ond dim byd tebyg i beth sydd wedi dod mewn tro 'ma."

Bydd yn rhaid gosod lloriau a waliau newydd yn y becws yn sgil difrod y llifogydd
Mae'r siop wedi gorfod cau ers y llifogydd, a dyw hi ddim wedi bod yn bosib pobi bara. Mae'r staff hefyd wedi gorfod aros adref.
"Mae'r lloriau i gyd yn gorfod mynd, y welydd, mae'r pethau oedd 'da ni 'ma i gyd, y cwbl i gyd wedi cael mynd mas," meddai Sheila.
"Ni'n gorfod dechrau o'r newydd, ond bydd e'n newydd."
'Ailagor er mwyn Wyndham'
Er gwaetha'r difrod, mae Sheila yn dweud ei bod hi'n benderfynol o ailagor yn 2026, er cof am ei gŵr.
"Fe fyddwn ni yn ailagor gobeithio diwedd mis nesaf yn y flwyddyn newydd.
"Ni'n benderfynol o ailagor er mwyn Wyndham, fel bod ei gof e yma gyda ni."
Mae Sheila yn teimlo "nad oedd angen i'r llifogydd ddigwydd" o gwbl, ac mae hi'n honni efallai bod tai newydd yn yr ardal wedi rhoi straen ar y system garthffosiaeth.
"Se nhw yn stopio'r tai yma i gael eu buildo o gwmpas y lle, fel bod y sewerage yn gallu cymryd y dŵr.
"Dyw'r sewerage ddim yn gallu cymryd beth sydd yn dod iddo fe. Mae eisiau gwneud rhywbeth."

Mae Sheila Phillips yn honni bod tai newydd yn yr ardal o bosib yn gosod straen ar y system garthffosiaeth
Dywedodd Dŵr Cymru bod cyfuniad o law trwm a llanw uchel wedi bod ar 4 a 5 Tachwedd, a bod hynny wedi "gorlethu" draeniau'r ffordd fawr.
Ychwanegon nhw fod Afon Cynin hefyd wedi gorlifo ei glannau gan orlethu'r rhwydwaith.
Yn ôl Dŵr Cymru, mi fyddan nhw yn cydweithio gyda phartneriaid i weld sut y bydd modd "cynorthwyo cwsmeriaid yn ystod cyfnodau o law trwm".
Mae criw o drigolion a busnesau lleol wedi ysgrifennu at yr aelod seneddol lleol i fynegi eu pryderon.

Mae Ann Davies yn bwriadu trafod y sefyllfa yn y flwyddyn newydd gyda nifer o gyrff cyhoeddus
Yn ôl Ann Davies AS, mae angen gwneud mwy i warchod trigolion lleol yn ystod cyfnodau o law trwm.
"Mae hyn yn esiampl arall ble mae nifer fawr o dai wedi cael eu codi ym Mhwlltrap, sydd yn grêt - mae eisiau nhw - ond mae effaith yn dod lawr at y pentref, a dyw hynny ddim yn cael ei edrych arno o gwbl," meddai.
"Mae'n rhaid i ni gydweithio gyda'n gilydd ac mae'n rhaid ffeindio datrysiad.
"Dyw e ddim yn deg i unrhyw le i gael carthffosiaeth yn dod lan trwy'r draeniau achos does dim lle iddo fynd.
"Ni wedi ysgrifennu at Dŵr Cymru, a 'da ni wedi gofyn am gyfarfod, a byddwn ni yn cael cyfarfod yn y flwyddyn newydd rhwng y cyngor, Dŵr Cymru, NRW, i weld beth allwn ni wneud yn symud 'mlaen.
"Mae eisiau i ni wybod sut gallwn ni warchod cartrefi yn Sanclêr ac ar hyd [etholaeth] Caerfyrddin."
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi cael cais am ymateb.

Mae Sheila Phillips yn "benderfynol" o ailagor y busnes yn 2026
Dywedodd Sheila Phillips ei bod hi'n gobeithio am flwyddyn well yn 2026.
"Ni'n benderfynol o ailagor.
"Y cwbl yn newydd a bant â ni bydd hi, dechrau eto - bydd drysau County Stores ar agor."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.