Eisteddfod Genedlaethol 2027 i'w chynnal yn ardal Glantwymyn

Eisteddfod
  • Cyhoeddwyd

Bydd Eisteddfod Genedlaethol 2027 yn cael ei chynnal ar dir fferm yn ardal Glantwymyn ger Machynlleth.

Fe gafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yno ddiwethaf yn 1981 - ar fferm Mathafarn.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â Phowys ers Prifwyl Meifod yn 2015.

Bydd de Gwynedd hefyd yn rhan o ddalgylch Eisteddfod Genedlaethol 2027 wrth i'r ardal ymestyn i'r gogledd cyn belled ag Afon Mawddach gan gynnwys Dolgellau, Y Bala, Tywyn, Aberdyfi a'r Bermo.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi mewn cyfarfod cyhoeddus yn neuadd Glantwymyn nos Fawrth - daeth dros 100 o bobl i glywed am y cynlluniau

Fe ddywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod yn gweld y Brifwyl fel "cyfle i gydweithio".

Bydd enw swyddogol yr Eisteddfod yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dyma'r tro cyntaf i ran o Wynedd fod yn rhan o ddalgylch Eisteddfod Genedlaethol sy'n cael ei chynnal mewn sir arall.

Croesawodd Cyngor Gwynedd y cyhoeddiad, gan ddweud bod "cryn edrych ymlaen yn barod am y manteision diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd".

Mae disgwyl i Ŵyl Gyhoeddi yr Eisteddfod gael ei chynnal ar 9 Mai 2026.

Disgrifiad,

Mae cydweithio ar draws ffiniau yn "rhywbeth cadarnhaol iawn" meddai Betsan Moses

Wedi'r cyhoeddiad yn neuadd Glantwymyn nos Fawrth dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Bydd yn hyfryd iawn dod nôl i'r ardal yma - ni ddim wedi bod yma ers degawdau.

"Mae'r codi hwyl sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf yn Y Garreg Las yn brawf bod cydweithio ar draws ffiniau yn rhywbeth cadarnhaol iawn.

"Mi fydd Powys yn ei gyfanrwydd yn rhan o'r Brifwyl - mae'n bwysig nodi hynny. Bydd yna gyfleoedd ar draws y sir i bobl gymryd rhan a bydd de Meirionnydd hefyd yn rhan o'r dalgylch.

"Mae'n gyfle i bobl fod yn rhan o'r gwaith paratoi gyda ni. Yr hyn sy'n bwysig yw bod pob ardal yn teimlo perchnogaeth o'r Steddfod a bod 'na gyfle i bobl gyfranogi a bod digwyddiadau yn digwydd yn yr ardal."

18 mis sydd yna i godi arian ac wrth ymateb i hynny dywedodd Betsan Moses: "Mae pob Eisteddfod yn wahanol - yr hyn sy'n bwysig yw bod amserlen yn cael ei drafod, bod 'na fodd i wireddu... gyda'r maes wedi ei benderfynu fi'n gwbl hyderus y gallwn ni gael rhaglen waith yn weithredol a bydd 'da ni Eisteddfod a hanner yn Awst 2027."

Roedd oddeutu cant yn bresennol yn y cyfarfod yng Nghlantwymyn nos Fawrth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd oddeutu 100 o bobl yn bresennol yn y cyfarfod yng Nglantwymyn nos Fawrth

Ychwanegodd trefnwyr y Brifwyl mewn datganiad mai "Cyngor Powys sydd wedi ein gwahodd ni yma i'r sir a Phowys fydd yn arwain ar y trefniadau – ond mae cyfle i ardal de Meirionnydd chwarae rhan allweddol yn y trefniadau ac i fod yn rhan o'r prosiect cymunedol hefyd".

Dyw'r Brifwyl ddim wedi ymweld â de Gwynedd ers Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau yn 2009, yn Y Bala.

Dywedodd Nia Jeffreys, arweinydd Cyngor Gwynedd, bod y cyngor yn "dymuno'n dda i'n cymdogion dros Bont ar Ddyfi gyda'r trefniadau ar gyfer yr Eisteddfod".

"Mae Awst 2027 yn teimlo yn bell, ond gwyddwn o brofiad gyda Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 y bydd yr amser yn gwibio ac edrychwn ymlaen at y bwrlwm o weithgareddau a pharatoadau dros y misoedd nesaf."

Cassie Hughes, Meilyr Evans a Gwennan Evans
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith: Cassie Hughes, Meilyr Evans a Gwenan Evans

Mae yna groeso i Eisteddfod 2027 yn ardal Glantwymyn.

Dywedodd Meilyr Evans: "Mae lot o blant ifanc yr ardal a lot o bobl yn joio'r Steddfod a'n trafeilio'n bell i fynd. Fydd o'n neis cael o ar y stepen drws."

"Mae'n neis i blant y bro cael cyfle idda fo fod yn lleol a cystadlu yn yr Eisteddfod," meddai Cassie Hughes.

Dywedodd Gwenan Evans: "Mae 'na gyfle i nhw ddod i Machynlleth, mae 'na ddigon o lefydd gwledig idda nhw i fynd a gweld... mae 'na ddigon o bethau i weld yn yr ardal."

Y caeau
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eisteddfod Genedlaethol 2027 ar gaeau yn ardal Glantwymyn

Bydd yr Eisteddfod yn 2027 yn cael ei chynnal o 31 Gorffennaf i 7 Awst.

Fe fydd yna gyfarfod yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth ddydd Sadwrn 17 Ionawr i ddechrau llunio'r rhestr testunau, a chyfarfod ar-lein nos Fawrth 10 Chwefror o ran gwaith creu'r gronfa leol.

Fe fydd modd derbyn enwebiadau ar gyfer rolau yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith hyd at 17:00 ddydd Mawrth 20 Ionawr.

"Bydd cynlluniau'r pwyllgorau gwaith lleol yn cael eu cyhoeddi maes o law a dwi'n siŵr y bydd pobl de Meirionnydd yn awyddus i gyfrannu eu hamser, brwdfrydedd a'u profiad wrth helpu i'w gwneud yn Eisteddfod i'w chofio," meddai Nia Jeffreys.

"Rydw i'n gwybod y bydd cefnogaeth arbennig ymysg cymunedau de Meirionnydd i gael yr ŵyl unigryw hon ar garreg y drws, ac y bydd pobl leol yn edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr ac ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt i'r fro."

Ychwanegodd Ms Jeffreys y bydd "dylanwad a buddion yr ŵyl i'w teimlo ar draws yr ardal am flynyddoedd i ddod".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig