Sir Powys i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2027

EisteddfodFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Powys fydd cartref y Brifwyl yn 2027.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â'r sir ers Prifwyl Meifod yn 2015.

Bydd Eisteddfod 2026 - Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las - yn cael ei chynnal yn Llantwd yng ngogledd Sir Benfro.

Bydd cyfarfod cyhoeddus yng cael ei gynnal yng Nghanolfan Glantwymyn ar 13 Ionawr i ddechrau ar y gwaith paratoi at 2027.

Ond yn ôl cyn-aelod o'r pwyllgor gwaith lleol, maen annheg disgwyl i'r un bobl godi arian mor fuan ar ôl croesawu Eisteddfod yr Urdd i ardal Meifod y llynedd.

'2015 yn gyfnod o gydweithio hapus'

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Dydyn ni heb fod i Bowys ers dros ddeng mlynedd, ac fe fydd yn braf cael dychwelyd i'r ardal.

"Byddwn yn cyhoeddi manylion am y dalgylch yn y cyfarfod cyhoeddus, ac rwy'n mawr obeithio y bydd 'na awch gan drigolion lleol i ymuno a chydweithio dros y deunaw mis nesaf."

Ychwanegodd Llywydd Llys yr Eisteddfod, Nic Parry: "Dyma'r tro cyntaf i mi fod ynghlwm â phrosiect yr Eisteddfod o'r cychwyn yn rhinwedd fy swydd fel Llywydd y Llys, ac rwy'n edrych ymlaen yn arw iawn at gydweithio'n agos gyda thrigolion bro'r Eisteddfod.

"Gwn fod Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2015 wedi bod yn gyfnod o gydweithio hapus.

"Ac rwy'n gobeithio y bydd y cyhoeddiad am gychwyn prosiect 2027 yn cael croeso, gyda thrigolion a chymunedau ar draws y dalgylch yn awyddus i ymuno â'r tîm i gydweithio ar y prosiect cymunedol a'r ŵyl ei hun.

"Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi ein helpu ni hyd yn hyn, ac yn edrych ymlaen at gael dod ynghyd yn rheolaidd dros y cyfnod nesaf i fwynhau'r profiad o drefnu a pharatoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2027."

Beryl Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beryl Vaughan yn poeni am oblygiadau ar aelwydydd o groesawu'r Genedlaethol mor fuan ar ôl prifwyl yr Urdd

Roedd Beryl Vaughan yn aelod o gyngor yr Eisteddfod am ddegawd a mwy, cyn rhoi'r gorau iddi eleni.

Mae hi'n poeni am oblygiadau ar aelwydydd o groesawu'r Genedlaethol mor fuan ar ôl prifwyl yr Urdd.

"Wrth gwrs roedd rhaid i'r Genedlaethol ddod yn ôl - o'n i'n gwybod hynny, a fyddan ni'n falch iawn o'i chroesawu hi nôl," meddai.

"Ond mae'r pwysau ariannol, alla i ddim gweld sut fydd Maldwyn yn gallu gwneud.

"Mae'r gofynion rŵan wedi mynd yn uchel ofnadwy.

"Mae 'na gymaint o ofyn yn lleol, mae 'na gymaint o elusennau sydd angen arian, ac wrth gwrs, mae Maldwyn yn llai o Gymry - canran fach o Gymry sy'na."

Yn ymateb i bryderon Beryl Vaughan, dywedodd Betsan Moses eu bod yn "ymwybodol ac yn gwerthfawrogi bod 'na bwysau wedi bod ar rhai ardaloedd o Bowys dros y blynyddoedd diwethaf yn gwireddu gwyliau eraill, megis yr Urdd a'r Sioe".

"Y'n ni wedi clywed ac y'n ni wedi gwrando, a phan fyddwn ni'n cyhoeddi manylion y dalgylch fe welwch chdi bod e'n bwrpasol, a ddim yn rhy feichus ar unrhyw ardal."

Glyn Preston
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n ffyddiog bod y cymunedau lleol yma yn barod am yr her unwaith eto," meddai'r cynghorydd Glyn Preston

Ychwanegodd y cynghorydd Glyn Preston, aelod o gabinet Cyngor Powys, eu bod "wrth ein boddau i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i Bowys".

"Mae'r dathliad hwn o ddiwylliant a chreadigrwydd nid yn unig yn amlygu cyfoeth ein treftadaeth genedlaethol, ond hefyd yn dod â chymunedau ynghyd, gan ysbrydoli ymwelwyr o bob ardal.

"Rydym yn edrych ymlaen at rannu wythnos fythgofiadwy o gerddoriaeth a diwylliant gyda phawb sy'n ymuno â ni."

Fe gafodd y mater ei drafod mewn cyfarfod o gabinet y cyngor ddydd Mawrth, gyda chefnogaeth yno i groesawu'r Eisteddfod, ond doedd yr awdurdod ddim am fynd mor bell ag ymrwymo i lenwi bwlch y gronfa leol, pe bai angen.

"O ran codi'r arian, dwi'n ffyddiog bod y cymunedau lleol yma yn barod am yr her unwaith eto," meddai'r Cynghorydd Preston.

Mae enwebiadau wedi agor ar gyfer cadeirydd, is-gadeirydd diwylliannol, is-gadeirydd strategol, cadeirydd y gronfa leol ac ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith, gyda'r dyddiad cau ar 20 Ionawr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.