'Dim modd gwerthu fflat oedd yn fuddsoddiad ar gyfer ymddeol'

Mae fflat Jayne Mcgregor yn Aurora wedi achosi "cur pen" iddi ers ei phrynu bron ugain mlynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd
Roedd prynu fflat mewn datblygiad yn Abertawe i fod yn fuddsoddiad i Jayne McGregor ar gyfer yr adeg pan fyddai'n ymddeol - ond 18 mlynedd yn ddiweddarach does dim modd gwerthu'r fflat.
Mae hi'n un o 30 o lesddeiliaid sy'n dwyn achos yn erbyn cwmni yswiriant Zurich yn yr Uchel Lys - maen nhw'n cyhuddo y cwmni o roi gwarant er eu bod nhw erioed wedi archwilio'r fflatiau'n iawn.
Mae cyn-weithiwr yng nghwmni Zurich yn dweud na wnaeth y cwmni yswiriant archwilio'r fflatiau, oedd â risg tân, yn drwyadl.
Dywed cyfreithiwr bod perchnogion wedi'u caethiwo gan nad oes modd iddyn werthu eu heiddo.
Mae cwmni Zurich Insurance yn gwrthod yr awgrym bod dogfennau wedi'u cyhoeddi'n amhriodol ac yn dweud nad ydynt wedi camliwio canfyddiadau arolygiadau.
'Gwybod nad oedd yn iawn'
"Doedd dim digon o oriau mewn diwrnod [i wneud yr holl swyddi]," meddai'r cyn-weithiwr.
"O fy mhrofiad i, fe ddigwyddodd hyn dair neu bedair gwaith. Daeth cyfarwyddyd e-bost [a oedd yn dweud] 'Rydw i wedi cyhoeddi'r gwaith papur, allwch chi fynd i archwilio'r fflatiau yr wythnos nesaf?
"Wel byddai pobl yn byw yn y fflatiau yr wythnos nesaf, felly allwn i ddim mynd i'w harchwilio. Roedd y sefyllfa'n hurt.
"Roeddwn i'n gwybod nad oedd yr hyn yr oedden ni'n ei wneud yn iawn ond roedd angen i mi gadw esgidiau ar fy nhraed a chael bwyd ar y bwrdd."

Mae'r datblygwr, Persimmon, yn parhau i drwsio diffygion niferus yn natblygiad Aurora ym marina Abertawe
Mae lesddeiliaid ar draws y DU wedi cymryd camau cyfreithiol tebyg yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil pryderon am ddiogelwch blociau o fflatiau uchel - yn enwedig ar ol trychineb tân Grenfell yn 2017.
Yn Abertawe, dechreuodd trigolion symud mewn i ddatblygiad Aurora yn 2009.
Yn sgil problemau gyda dŵr yn dod i mewn i'r adeilad a diffygion diogelwch tân dywed Jayne McGregor ei bod hi'n "amhosib gwerthu'r fflat".
"Mae'r straen oherwydd y problemau ariannol sydd wedi codi yn sgil yr holl broblemau gyda'r fflat wedi achosi problemau iechyd," ychwanegodd.
Roedd problem gollwng dŵr yn natblygiad Aurora yn fuan ar ôl i'r gwaith adeiladu cael ei gwblhau.
Cafodd diffygion diogelwch tân eu canfod yn ddiweddarach.
"Yn 2017, gyda thrychineb Grenfell, fe wnaeth hynny gynyddu lefelau straen pawb," meddai Keith Evans, un o'r perchnogion sy'n arwain y camau cyfreithiol yn erbyn Zurich.
"Rydyn ni'n teimlo ein bod wedi ein twyllo yn 2008 pan gafodd yr fflatiau eu codi."

Nid Aurora yw'r unig ddatblygiad ar lan y môr yn Abertawe lle mae diffygion difrifol wedi'u canfod yn ystod y blynyddoedd ddiwethaf
Dywedodd Zurich nad yw'r cwmni erioed wedi bod yn gyfrifol am unrhyw golledion y mae lesddeiliaid Aurora wedi'u dioddef ac nad oes unrhyw hawliadau wedi'u talu o dan y warant deng mlynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Zurich: "Rydym yn gwerthfawrogi'r straen y mae'r sefyllfa hon wedi'i achosi i lesddeiliaid. Cyfrifoldeb y datblygwr, sef Persimmon Homes, yw cywiro'r diffygion yn natblygiad Aurora.
"Mae polisi Zurich ond yn weithredol os yw'r datblygwr yn mynd i'r wal.
"Rydym yn gobeithio y bydd Persimmon yn gallu datrys y sefyllfa hon i lesddeiliaid cyn gynted â phosibl."
Ychwanegodd Zurich eu bod yn ymwybodol o bryderon llwyth gwaith ymysg y gweithlu tua 2009-10, a'u bod wedi cymryd "pob cam rhesymol i gefnogi syrfewyr" ac i "gynnal safonau uchel".
Mae'r datblygwr sef Persimmon Homes yn parhau i wneud gwaith ar yr adeilad ar ôl iddyn nhw gytuno gyda pherchnogion i dalu am yr holl waith.
Cyngor Abertawe oedd yn gyfrifol am sicrhau bod yr adeilad yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.
Mae cais wedi cael ei roi i Gyngor Abertawe am ymateb ond dyw'r lesddeiliaid ddim yn dwyn achos yn erbyn yr awdurdod lleol.
Achosion tebyg
Yn 2022, fe gyrhaeddodd perchnogion fflatiau yn adeilad uchaf Cymru, Tŵr Meridian, setliad gyda Zurich tu fas i'r llys yn sgil honiadau tebyg.
Fe wnaethon nhw honni bod syrfëwr Zurich wedi methu â chyflawni archwiliadau cyn cyflwyno tystysgrifau yswiriant ar gyfer adeilad oedd â phroblemau niferus gan gynnwys diffygion diogelwch tân.
Mewn achos arall ym Manceinion a gafodd ei gyflwyno yn yr Uchel Lys yn 2019, fe ddywedodd y barnwr, Stephen Davies, fod adeilad New Lawrence House â "nifer o ddiffygion difrifol".
Mae trawsgrifiadau llys yn datgelu sut roedd rhai syrfewyr Zurich yn "bryderus" nad oedd "digon o weithwyr" o fewn yr adran i gyflawni'r gwaith o archwilio'r holl fflatiau cyn brosesu gwarantau.
Dywedodd y Barnwr Davies ei fod yn "fodlon" gyda'r farn bod arolygydd Zurich wedi cymeradwyo'r fflatiau oherwydd eu bod "mor awyddus i gwblhau ei waith ar y safle".
Derbyniodd lesddeiliaid filiynau o bunnoedd mewn iawndal o ganlyniad i'r achos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd13 Ionawr
