Galw am ymchwiliad wedi cwynion am waith cwmni ynni a aeth i'r wal

Mae Llelo Gruffudd o Ben Llŷn yn dweud bod safon gwaith CES wedi achosi problemau sylweddol iddo
- Cyhoeddwyd
Mae galw am ymchwiliad brys i hawliau pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan waith ar eu cartrefi gan gwmni ynni a aeth i'r wal yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl Liz Saville-Roberts, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â hi yn cwyno am safon gwaith Consumer Energy Solutions (CES) - sydd bellach yn nwylo'r gweinyddwyr gyda 295 o bobl yn colli gwaith.
Yn ôl un dyn o Wynedd, cafodd ei gartref "ei falu" gan weithwyr y cwmni a bod hynny wedi denu llygod i'r tŷ.
Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn buddsoddi £15bn i wella ansawdd tai drwy'r wlad.
Pwllheli: Gwaith adeiladu 'annioddefol' wedi 'difrodi tai'
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2025
Trwsio problemau inswleiddio tai Arfon wedi degawd o frwydr
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2025
Dyn yn wynebu byw mewn fan dros y gaeaf gan fod ei dŷ mor damp
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025
Yn Haf 2023 fe fanteisiodd Llelo Gruffudd, sy'n byw yn Abererch ger Pwllheli, ar gynllun ECO Llywodraeth Prydain oedd yn cynnig gwelliannau i rai cartrefi oedd yn eu gwneud yn wyrddach.
Ymysg yr hyn oedd yn cael ei gynnig oedd paneli solar a phympiau gwres.
Ond yn ôl Llelo, mi adawodd y gweithwyr lanast enfawr yn ei gartref gyda'r to yn gollwng.
"Rhyw fis neu ddau wedyn, wrth reswm mae gaeaf yn dod ac mi ddechreuodd fwrw a sylweddoli wedyn bod to'r ystafell fyw yn gollwng", meddai wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C.
"Nes i drio mynd 'nôl atyn nhw (CES) i ddweud 'da chi wedi mynd drwy'r to' ac oeddan nhw'n dweud 'naddo da ni ddim'.
"Oeddan ni 'nôl a 'mlaen dros e-bost ac oedd rhywun yn cael pethau reit sarcastig yn ôl yn deud 'rho fwcedi o dan y dŵr' a 'cadwa dy lygaid arno'."

Cafodd tyllau eu gwneud yn waliau allanol yr adeilad fel rhan o'r gwaith, ond ni chawson nhw eu llenwi
Ymysg y problemau eraill oedd pibellau copr yn dechrau rhydu, deunyddiau anaddas yn cael eu defnyddio, tyllau yn y nenfwd a'r waliau a blerwch wrth blastro.
Ond y broblem fwyaf oedd pan gafodd tyllau eu gwneud yn ochr y tŷ i greu lle i awyrellau [vents] ond mi fethodd y gweithwyr â llenwi'r gwacter.
Mi lwyddodd llygod i ddod mewn ac maen nhw bellach yn nythu rhwng y to a'r nenfwd a'r waliau.
"Dan ni'n mynd am ddwy flynedd a hanner ac maen nhw'n byw yn seiliau'r tŷ," ychwanegodd Llelo.

Roedd Llelo'n anhapus gyda sawl agwedd o'r gwaith, gan gynnwys y blerwch wrth blastro'r waliau
Wrth gyhoeddi bod y cwmni bellach wedi mynd i'r wal- mae CES yn gadael bron i 300 o weithwyr yn ddi-waith ar draws eu safleoedd yn Abertawe, Treorci a Bangor.
Ac yn ôl aelod seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville-Roberts mae angen eglurder: "Mae'n rhaid i Lywodraeth Prydain gamu mewn fan hyn.
"Nhw sydd wedi cyfeirio at ddefnydd yr arian yma o'r cwmni wrth gwrs.
"Mae 'na ymchwiliad wedi bod efo'r National Audit Office am rai o agweddau gwaith ECO4 yn benodol Cavity Wall Insulation ond dwi'n meddwl bod angen ymchwiliad i agweddau eraill megis air source heat pumps."

Nododd Llelo fod rhai o'r pibellau copr gafodd eu gosod wedi dechrau rhydu
Wrth barhau i gwyno am safon y gwaith mi lwyddodd Llelo Gruffudd i dderbyn setliad ariannol gan gwmni CES cyn iddyn nhw fynd i'r wal ond mae'n dweud fod y gwaith dal wedi gadael ei ôl.
"[Bod] 'na rhywun wedi dod yma i neud y tŷ yn fwy gwyrdd a chynnig byd i ni ac yna wedi malu'r tŷ... Mae'n boen meddwl i mi a'm mrawd bo' nhw heb gydnabod eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o'i le," ychwanegodd Llelo.
CES 'wedi wynebu nifer o heriau ariannol'
Wrth ymateb dywedodd y cwmni sy'n gweinyddu ar ran CES, Kr8 Advisory, y dylai unrhyw un sy'n amau safon gwaith ar eu cartrefi edrych ar fanylion y warant a ddaeth yn ei sgil.
"Mae'r cwmni wedi wynebu nifer o heriau ariannol sydd wedi'w dwysau gan benderfyniad Llywodraeth Prydain i ddod â'r cynllun ECO4 i ben ar ddechrau 2026," meddai llefarydd.
"Byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol i gefnogi cyn-weithwyr wrth iddyn nhw chwilio am waith newydd ac wrth weinyddu eu setliadau diswyddiadau."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain nad oedd cynllun ECO4 yn cynnig gwerth am arian.
"Rydym yn buddsoddi £1.5bn yn ein cynllun cartrefi cynnes sy'n arwain at gyfanswm o bron i £15bn- y buddsoddiad cyhoeddus mwyaf i uwchraddio tai a mynd i'r afael â thlodi tanwydd".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.