'Methu stopio gwenu': Gosod mainc i gydnabod dewrder dynes o Gaernarfon

Cafodd Sarah Tyler-Davies ataliad ar y galon 15 mlynedd yn ôl pan oedd hi'n 30 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Gaernarfon yn dweud ei bod "methu stopio â gwenu" ers clywed bod mainc barhaol yn cael ei gosod yn y dref i ddathlu ei henw.
Cafodd Sarah Tyler-Davies ataliad ar y galon 15 mlynedd yn ôl pan oedd hi'n 30 oed.
Mae'r meinciau coch gyda phlaciau aur arnyn nhw yn anrhydeddu pobl sydd wedi goroesi cyflyrau ar y galon.
Elusen y British Heart Foundation [BHF] sydd yng ngofal y meinciau ac mae 65 wedi'u gosod hyd yn hyn, i ddathlu 65 mlynedd ers iddyn nhw ddechrau ariannu ymchwil i achub bywyd.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Sarah y bydd y fainc "tu allan i walia' G'narfon" ym Mharc Coed Helen.

Mae'r fainc wedi'i lleoli ym Mharc Coed Helen bellach
Mae pob mainc yn cynrychioli stori unigol ac esboniodd Sarah, pan gafodd hi wybod ei bod wedi cael ei dewis - yr unig un yng ngogledd Cymru - ei fod yn brofiad "cwbl anhygoel".
Cafodd ei geni gyda nam cynhenid ar y galon ac roedd hi'n "pendwmpian ar y soffa" flynyddoedd yn ddiweddarach pan sylweddolodd fod rhywbeth o'i le.
Dim ond wyth a naw oed oedd plant Sarah ar y pryd ac roedden nhw yn eu gwlâu.
"Nath y ci ddeffro'r gŵr fatha bod rhywbeth yn bod, felly lwcus am y ci mewn ffor'.
"Nath Aled wedyn roi CPR i fi, ffonio ambiwlans a dwi yma i ddeud y stori ac ma'r fainc 'ma just am fod yn wbath hiwj," ychwanegodd Sarah.

Bu'n rhaid i ŵr Sarah, Aled roi triniaeth CPR iddi yn ystod yr ataliad
Dyw Sarah ddim yn cofio unrhyw beth am y digwyddiad ei hun ond dywedodd ei gŵr wrthi fod ei gwefusau yn las yn ystod yr argyfwng.
Mae hi'n credu bod "rhywun yn edrych i lawr arna i" ar y noson honno.
Dim ond dau funud i ffwrdd yng Nghaernarfon roedd yr ambiwlans ac mi gysgodd ei phlant trwy'r cyfan.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Gwynedd wedi hynny a'i rhoi mewn "induced coma", gan fod ei chalon yn curo 350-400 curiad y funud.
Mae Sarah bellach yn nain ac yn teimlo mor lwcus ar ôl y digwyddiad.
Er y blynyddoedd sydd wedi pasio dydy hi dal ddim yn hawdd siarad am y profiad hyd heddiw, meddai.
Ond ychwanegodd ei bod hi'n teimlo ei bod hi'n "hynod bwysig" siarad amdano gan bod hynny yn help i brosesu'r trawma a hefyd yn helpu eraill sy'n mynd trwy'r profiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd7 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd11 Ionawr
