'Sefyllfa'r UDA yn waeth pan o'n i byw yno yn yr 1960au'

Tensiynau yn Newark, New Jersey, yn haf 1967. Lladdwyd dros 80 o bobl mewn terfysgoedd ar draws yr UDA yn ystod y cyfnod
- Cyhoeddwyd
O'r Ynys Las i ICE, prin fod diwrnod yn mynd heibio heb i'r Arlywydd Trump a pholisïau'r Tŷ Gwyn fod yn y penawdau.
Ond mae'r UDA wedi bod drwy gyfnodau tebyg o'r blaen, ac un fu'n byw yno yn ystod blynyddoedd cythryblus y 1960au a'r 1970au ydi'r Athro Rhodri Jeffreys-Jones.
Fel academydd sy'n arbenigo ar hanes yr UDA, ac wedi sgwennu llyfrau am y gwasanaeth cudd y CIA a'r FBI, mae'n dweud bod y sefyllfa yno heddiw yn llawn tensiynau - ond bod y 60au yn waeth.

Tanc yn Detroit yn ystod haf 1967. Fe laddwyd 43 o bobl mewn pump diwrnod o derfysg yn y ddinas
Bryd hynny roedd protestiadau treisgar yn erbyn rhyfel Fietnam ac i geisio cael tegwch i'r gymuned Afro-Americanaidd. Ac roedd cyfnod McCarthyism, pan oedd pobl asgell chwith yn cael eu herlid, yn dal i daflu cysgod.
O'i gartref yng Nghaeredin, lle mae'n athro emeritws ym mhrifysgol y ddinas, dywedodd yr Athro Rhodri Jeffreys-Jones bod y nerfusrwydd mae'n ei weld heddiw am fynegi barn sy'n groes i'r llywodraeth yn gyfarwydd.
Mae o'n cofio cyfnod tebyg pan roedd o'n helpu trefnu darlith gan yr hanesydd Marcsaidd Herbert Aptheker ym Mhrifysgol Harvard yn 1966. Fe gafodd y prif drefnydd ei orfodi i newid y cynlluniau neu gael ei ddiarddel o'r brifysgol.
"Dyna un peth sy'n debyg rhwng heddiw a'r cyfnod yna - roedd pobl yn ofnus yn yr 1960au, oherwydd roedden nhw'n cofio McCarthyism y 50au," meddai.
"Heddiw rydyn ni'n cael yr Arlywydd Trump yn defnyddio'r ICE - yr Immigration and Customs Enforcement - ac mae pobl yn cael dipyn bach o ofn hefyd. Ond roedden nhw'n fwy ofnus yn yr 1960au rwy'n credu - ar hyn o bryd."
Yn ddiweddar mae protestiadau wedi bod mewn nifer o ddinasoedd yn erbyn tactegau ICE, yr asiantaeth sy'n arwain ymgais llywodraeth Trump i ddal pobl sydd wedi mudo'n anghyfreithlon i'r UDA a'u cyrchu allan o'r wlad.
Mae cyllid a thargedau asiantaeth wedi cynyddu o dan Trump, sy'n dweud bod angen lleihau'r niferoedd er mwyn diogelwch y cyhoedd a'r wlad. Fe saethwyd dau brotestiwr yn farw gan swyddogion ICE fis Ionawr.

Rhodri Jeffreys-Jones pan oedd yn 27 oed
Yn wreiddiol o Harlech, fel nifer o'i gyfoedion fe sbardunwyd diddordeb yr Athro Jeffreys-Jones yn yr UDA gan ffilmiau Hollywood.
"Nes i ddechrau edrych ar ffilms Cowbois ac Indians yn y sinema fach yn Harlech. Roedden ni i gyd ar ochr yr Indians yn erbyn yr US Cavalry," meddai.
Fe gynyddodd ei ddiddordeb yn y wlad pan gafodd ei warchod gan Americanes cyn iddo fynd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Roeddwn i yn gryf yn erbyn yr Unol Daleithiau pan roeddwn i'n fyfyriwr yn UCW Aberystwyth," meddai. "Ar y pryd hynny roedd y Cuban Missile Crisis ac ro'n i yn erbyn John F Kennedy ac yn siarad yn y gymdeithas dadlau yn Aberystwyth."

Dau o gyhoeddiadau'r Athro Rhodri Jeffreys-Jones - un am Allan Pinkerton a'r llall am ddiwedd rhyfel Fietnam
Aeth yn ei flaen i arbenigo mewn hanes America ym mhrifysgolion Michigan, Harvard a Chaergrawnt. Mae'n arbenigwr ar yr asiantaethau diogelwch yr UDA ac wedi cyhoeddi llyfrau ar y CIA a'r FBI.
Mae ei lyfr diweddara am hanes Allan Pinkerton, y ditectif enwog wnaeth arwain at greu ditectifs a chwmnïau diogelwch preifat.
Terfysgoedd 1967
Roedd yr academydd yn byw yn yr UDA yng nghanol yr 1960au ac ar ddechrau'r 1970au. Roedd yn Washington DC yn ystod haf poeth 1967 - cyfnod y long hot summers pan roedd terfysg mewn dros 150 o ddinasoedd ar draws yr UDA oherwydd tensiynau am sefyllfa'r gymuned ddu.
"Roedd gen i gariad oedd yn ddu ac yn byw yn ardal ddu yng ngogledd orllewin y ddinas ac oedd hwnna'n brofiad anffodus iawn," meddai.
"Dim ond mewn rhai llefydd oedd hi'n saff i fynd o gwmpas efo hi. Roedd yn beryglus iawn mynd i rai llefydd - rhy beryglus i fi fynd i'w hardal hi lle'r oedd pawb yn ddu a peryglus yn yr ardaloedd gwyn.

Adeiladau wedi eu rhoi ar dân yn Detroit yn ystod haf 1967
"Yn y dref roedd yn rhaid i fi fynd o gwmpas i wneud fy ngwaith. Roedd pawb oedd yn wyn yn mynd o gwmpas mewn ceir neu ar y metro. Ond roedd rhaid i fi fynd ar y bysiau ac ar y bws, fi oedd yr unig ddyn gwyn."
Dywedodd bod tensiynau gyda dynion ifanc ar y bws, ond bod y merched yn ei amddiffyn.
Mae tensiynau rhwng cymunedau yn digwydd eto, meddai, ond mae un peth yn wahanol - gobaith.
"Dwi'n credu bod mwy o bobl yn disgwyl pethau i wella yn y 60au na heddiw yn enwedig pobl ifanc rwy'n credu," meddai.
"Roedd mwy o ddisgwyliadau, a phobl yn edrych ymlaen ac yn disgwyl bod pethau'n mynd i wella."

Yr Athro Rhodri Jeffreys-Jones heddiw
Mae tensiynau rhwng gwledydd a rhyfeloedd yn y penawdau yn aml ar hyn o bryd.
Ar 3 Ionawr fe wnaeth lluoedd arfog yr UDA ymosod ar Venezuela, dal yr Arlywydd Nicolás Maduro, a mynd ag o i'r carchar yn yr UDA lle mae'n wynebu cyhuddiadau o fasnachu cyffuriau.
Mae'r Arlywydd Trump wedi dweud ei fod eisiau i'r UDA berchnogi'r Ynys Las, ac wedi bygwth codi tollau masnach ar wledydd NATO oedd ddim yn ei gefnogi ac wedi gwrthod diystyru ymyrraeth filwrol. Cyhoeddodd yn ddiweddar na fyddai'n codi tollau na defnyddio trais a'i fod yn agos at ddod i gytundeb am ddyfodol y wlad.
Mae'r cyfnod yn debyg i'r 1960au meddai'r Athro Jeffreys-Jones: "Roedd rhyfel yn mynd ymlaen yn yr 1960au yn Fietnam, Cambodia ac yn Indonesia, a heddiw wrth gwrs yn y Sudan ac yn Gaza a'r Wcráin.
"Ond un gwahaniaeth mawr ydy, roedd yna conscription yn y 60au, a heddiw does yna ddim.
"I ddechrau doedd yna ddim conscription yn yr 1960au ac oedd roedd 'na brotestio, ond unwaith daeth conscription i mewn yn 1967, roedd 'na lawer mwy."
Dyfodol yr UDA
Er nad ydyw wedi byw yn yr UDA ers degawdau mae ganddo gysylltiad agos efo'r wlad o hyd. Fel digwyddodd ar ôl yr 1960au, mae'n dweud bod America yn siŵr o newid eto wrth i'r bendil gwleidyddol symud.
Yn ddiweddar roedd mewn priodas yn Austin - dinas Ddemocrataidd yng nghanol talaith Weriniaethol Texas.
Roedd y rhan fwyaf o'r bobl yno yn daer yn erbyn Trump ond mae'r UDA yn wlad fawr gyda gwahaniaeth barn eang rhwng ardaloedd. Dywedodd yr Athro Jeffreys-Jones bod perygl i gamddehongli'r farn gwleidyddol os nad ydy pobl yn siarad gydag Americanwyr o gefndiroedd ac ardaloedd amrywiol. Roedd sgwrsio gyda gwesteion o Ohio yn y briodas wedi ei atgoffa o hyn.
"Roedden nhw i gyd yn Trumpists," meddai. "Dyna'r perygl - 'da chi'n mynd i gyfarfod nifer o bobl yn y prifysgolion sydd ddim yn cytuno efo'r llywodraeth, ond mae llawer o bobl yn America yn cytuno efo Trump."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Awst 2024

- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2025
