Ifan Lloyd: Y milfeddyg sy'n un o redwyr marathon gorau'r byd

Ifan LloydFfynhonnell y llun, Ifan Lloyd
  • Cyhoeddwyd

Mae Ifan Lloyd yn ffigwr adnabyddus yn y byd amaeth yng Nghymru, yn enwedig yng ngorllewin Cymru, ble mae wedi bod yn filfeddyg ers yr 1980au.

Mae wedi ymddeol o'i bractis milfeddyg ers tair blynedd, ond mae'n parhau i fod yn amlwg iawn yn y maes gan ei fod yn gyfarwyddwr ar ddau gwmni amaethyddol, yn ymgyrchu i wella bio-diogelwch yng Nghymru, ac mae'n cynghori Llywodraeth Cymru ar nifer o faterion.

Ond yn ogystal â chael enw da yn y maes amaeth, mae gan Ifan dipyn o enw mewn disgyblaeth arall, sef rhedeg. Yn ei gategori oed, Ifan yw un o redwyr marathon gorau'r byd.

Rhedeg yn Aberystwyth a Chaergrawnt

Disgrifia Ifan yr adeg y dechreuodd redeg yn ei arddegau:

"Dechreuodd y rhedeg ar hap a damwain i ddweud gwir, achos roedd y cyfle yna i mi yn Aberystwyth. Rhaid nodi yr hyfforddi ges i gan Dic Evans yn Aberystwyth - byddwn i heb ddechrau rhedeg oni bai am fe."

Enillodd Ifan bencampwiaethau sirol tra yn yr ysgol, ac fe gafodd y 'full blue' bum gwaith yn olynol yng Nghaergrawnt pan yn fyfyriwr yno. Roedd Ifan hefyd yn gapten ar dîm Caergrawnt yn y cystadlaethau varsity yn erbyn Rhydychen.

Cafodd ei fagu ar fferm odro ym mhlwyf Llangwyryfon, Ceredigion, ac mae'r teulu'n adnabyddus am fridio ceffylau cob Cymreig, gyda'i frawd yn dal i ffermio yn yr ardal.

Mae Ifan wedi ymgartrefu yn y Gŵyr, ble mae ganddo fferm fechan ac mae'n bridio defaid pedigri Ryeland.

CaergrawntFfynhonnell y llun, Ifan Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Ifan yng nghanol y rhes flaen, yn gapten ar dim Caergrawnt yn erbyn Rhydychen

Er bod Ifan wedi rhagori fel rhedwr yn fachgen ac yn ddyn ifanc, amlygodd ei ddawn blynyddoedd yn ddiweddarach.

"Daeth fy llwyddiannau mwya' i gyda rhedeg yn hwyrach yn fy mywyd. Ma' bach o lwc i bethau hefyd gan mod i dal yn eitha' iach yn 66 oed, ac yn gorfforol dal yn gallu gwneud e, ac wrth gwrs mae gen i'r diddordeb a'r awydd i gystadlu.

"'Nes i ennill y meistri ar ol troi'n 40 a chael cynrychioli Cymru, ond o'n i'n brysur gyda gwaith yn y cyfnod 'na ac roedd teulu ifanc 'da ni. Felly, yn 42 'nes i roi'r gore i gystadlu, ond dod nol mewn iddo yn 50 oed. Dechreuais i gymryd pethau o ddifri yn 58, 59 a 60 oed, achos o'n i'n arafu lawr da'r practis ac o'dd y plant yn tyfu lan.

"Yn ystod Covid 'nes i gyrsiau hyfforddi, a oedd o fendith mawr i fi, ac mae llwyddiannau wedi dod ers hynny, gan ennill mwy na dwsin o bencampwriaethau Prydeinig a mwy fyth o bencampwriaethau Cymru, rhwng y trac, rhewl, dros gwlad a trail running."

Ifan LloydFfynhonnell y llun, Ifan Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Ifan yn cynrychioli Cymru

Pencampwr byd

Yn 2024 daeth uchafbwynt gyrfa redeg Ifan gan ennill Pencampwriaeth Marathon y Byd i redwyr o'i oed ef.

"'Nes i ennill Pencampwriaeth y Byd yn y categori 65 a throsto, a chipio record Prydeinig newydd wrth wneud.

"Beth sy'n rhyfedd yw o'dd yr amser 'nes i orffen y ras honno (2awr 49munud 24eiliad) rhyw 17 eiliad yn gyflymach na'r amser orffenes i yn 1981 ym marathon cyntaf Llundain, pan o'n i'n 21 oed.

"Rwy'n credu mai hwn oedd y trydydd gap hiraf i berson redeg dau farathon o dan dair awr - yn 21 ac 65 oed."

Ifan LloydFfynhonnell y llun, Ifan Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Ifan y bridiwr defaid ar y chwith, ac Ifan y pencampwr byd ar y dde (2024)

Dywed Ifan ei bod hi'n anodd ymrwymo'n llwyr i fynd i bencampwriaethau'r byd bellach, yn rhannol oherwydd y lleoliadau.

"Mae'r pencampwriaethau eleni yn Ne Corea ym mis Awst, pan fydd hi'n boeth iawn ac yn glòs. Ond dwi'n gobeithio alla i fynd i'r ras redeg mynydd y byd yn y Weriniaeth Tsiec ym mis Mehefin."

Mae gan Ifan nifer fawr iawn o recordiau rhedeg, fel record Prydain am redeg 20 milltir, gan dorri'r record o chwe munud ym mis Ebrill y llynedd.

Rhedeg yng nghefn gwlad

Mae Ifan yn dweud bod yr ardal y mae'n byw ynddi'n ffactor i esbonio pam ei fod yn mwynhau rhedeg, ac efallai hefyd ei lwyddiant.

"Dwi'n lwcus iawn o le dwi'n byw, bod 'na lefydd ffantastig i fynd mas i redeg, yr amgylchedd a'r traethau ac ati. A lawr yn Abertawe mae'r trac wrth gwrs a'r cyfleusterau arbennig yno, a'r gwmnïaeth wrth gwrs.

"O'n i'n rhedeg am flynyddoedd gyda'r ci, ond yn anffodus roedd rhaid rhoi e lawr tua naw mis yn ôl. Enillon ni bencampwriaeth y byd am redeg ras gyda'r ci hefyd!"

Ifan LloydFfynhonnell y llun, Ifan Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Yn rhedeg gyda'i gi ffyddlon, a fu orfod ei ddifa yn 2025

Felly, beth yw amcanion Ifan dros y flwyddyn nesaf?

"Dwi wrth fy modd yn cystadlu dros Gymru, ac ym mis Mawrth mae pencampwriaethau traws gwlad Prydain a phencampwriaethau traws gwlad Ewrop, ynghyd a rasys 5k ar y ffordd, yn Toruń yng Ngwlad Pwyl ar ddiwedd y mis hwnnw.

"Ac ym Mehefin mae'r pencampwriaethau rasys mynydd y byd yn Prague, a phencampwriaethau hanner marathon Prydain yn Abertawe."

Ifan LloydFfynhonnell y llun, Ifan Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Yn cynrychioli clwb rhedeg y Swansea Harriers

Mae Ifan eisiau annog eraill sydd yn eu 60au i ddechrau rhedeg, neu gwneud beth bynnag sy'n addas iddyn nhw.

"Mae'n rhaid chi edrych ar ôl eich hunan yn fwy wrth fynd yn hŷn wrth gwrs, ond mae'r cyfleoedd yno i bobl wella eu hiechyd, a byswn i'n annog i unrhywun rhoi cynnig arni - chi byth rhy hen!"

Ifan LloydFfynhonnell y llun, Ifan Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Ifan gyda thîm o redwyr hŷn tîm Cymru

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig