'Angen newid agweddau tuag at bobl sy'n ddibynnol ar gyffuriau'

Arwel Wyn Griffith
Disgrifiad o’r llun,

"Salwch ydi o. Dydi lot o bobl ddim yn deall beth ydi addiction," medd Arwel Wyn Griffith

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at hunanladdiad a defnydd cyffuriau.

Mae angen newid agweddau tuag at bobl sy'n dioddef dibyniaeth cyffuriau, yn ôl dyn o Wynedd sydd newydd nodi 100 diwrnod yn sobor.

Mae Arwel Wyn Griffith, 36 o Waunfawr, yn dweud ei fod wedi bod yn gaeth i gocên ers 18 mlynedd, ac mae o rŵan yn derbyn cymorth yng nghanolfan adferiad Penrhyn House ym Mangor.

Wrth siarad am ei brofiad o fod yn gaeth i'r cyffur, mae'n mynnu mai salwch ydi dibyniaeth, a bod nifer dal ddim yn deall y cyflwr.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru bu farw 417 o bobl yng Nghymru yn 2024 drwy wenwyno cyffuriau, gydag opioidau yn gyfrifol am y mwyafrif o'r rheiny.

Siaradodd Arwel gyda rhaglen Newyddion S4C ym mis Mai 2025 am ei benderfyniad i ofyn am gymorth am y tro cyntaf, gan ddisgrifio dibyniaeth fel rhywbeth wnaeth ddifetha ei fywyd.

"Doedd bywyd ddim yn grêt o gwbl. O'n i'n cloi fy hun yn y bedroom. Doedd o ddim yn bleser a doeddwn i ddim yn joio'n hun o gwbl," meddai.

"Ar ôl cymryd y lein gynta' o'n i just ofn cysgod fy hun, crynu i gyd, nerfus a methu siarad na wynebu neb, ac mi oedd o just yn lle tywyll i fod."

'Colli pawb'

Pan yn siarad y llynedd roedd Arwel newydd nodi 90 diwrnod heb ddefnydd cyffuriau, ond yn fuan ar ôl hynny dros yr haf mi drodd yn ôl at gocên.

"Nes i bigo fo fyny yn meddwl 'na'i just cael un', ond o fewn wythnos neu bythefnos oeddwn i nôl wrthi bob dydd.

"Yn y diwedd ges i kick out o tŷ Mam a Dad. O'n i'n homeless a nes i iwsio lot o drugs a trio cymryd bywyd fy hun.

"Ond wedyn nes i sylweddoli bo' fi 'di colli pawb - partner fi, teulu fi.

"O'n i'n sylwi bo' fi'n gorfod gwneud hyn i fi'n hun - i bawb arall, ia - ond yn bwysicach, i fi'n hun."

Arwydd Penrhyn House
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle yn rhoi cymorth i bobl adfer eu hunain

Mae profiad Arwel yn dangos bod y lôn at adferiad yn gymhleth ac yn droellog.

Ond mae'n dweud bod delwedd nifer o bobl tuag at unigolion sy'n gaeth yn aml yn anghywir, a bod angen mwy o ddealltwriaeth os am atal mwy o bobl rhag dioddef.

"Salwch ydi o. Dydi lot o bobl ddim yn deall beth ydi addiction," meddai.

"Maen nhw'n meddwl bod y bobl 'ma just yn cymryd drugs i chwalu bywydau neu fod nhw'n dewis. Dydi o ddim yn ddewis yn anffodus.

"Stori fi ydi, dwi mewn recovery am yr ail dro, ac mae stori pawb yn wahanol.

"Mae rhai yma am y tro cyntaf, rhai yma am yr ail, trydydd neu bedwerydd tro, ac mae'n anodd."

'Cymryd drosodd'

Dau berson sy'n gwybod yn iawn sut un ydy'r profiad hwnnw, ydy Mark ac Elen o Fangor.

Fis nesaf bydd y ddau yn nodi tair blynedd ers rhoi'r gorau i fod yn ddibynnol ar amffetamin.

Mae'r ddau yn parhau i fod yn rhan o gymuned Penrhyn House ac yn deall profiad Arwel yn iawn.

"'Naeth o just cymryd drosodd... roedd o'n afiach," meddai Mark.

Mark ac Elen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark ac Elen yn nodi tair blynedd ers rhoi'r gorau i fod yn ddibynnol ar amffetamin

Yn ôl Elen mi ddechreuodd hi gymryd cyffuriau i atal blinder llethol wedi iddi gael babi.

"Oedd genna' i ddau o blant bach yma a dim energy.

"Nes i ffeindio drugs ac o'n i fatha 'wow' - mae hwn 'di gweithio i mi ac yn rhoi'r energy boost o'n i angen i edrych ar ôl nhw, ac ers hynny dwi just 'di bod yn addicted iddo.

"'Naeth o fynd â ni i lle oedd y plant wedi cael eu cymryd ffwrdd o' ni. O'n i'n sâl am ddyddia' - hallucinations a bob dim."

Ond mae'r ddau yn nodi carreg filltir hollbwysig fis nesaf o dair blynedd heb ddefnydd cyffuriau, ac yn rhoi teyrnged i waith Penrhyn House.

"'Swn i'm yma heb y lle yma," meddai Mark.

"Da' ni'n cael second chance hefo plant ni a 'da ni'n 'neud be' 'da ni fod i 'neud."

Ychwanegodd Elen: "Mae'n waith caled. Ond ma'n grêt!"

'Cyfnod tywyll iawn'

Mae'r ddau yn ategu safbwynt Arwel hefyd, drwy ddweud bod angen newid agweddau tuag at bobl sy'n ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol.

"Dwi'm yn meddwl bod pobl yn deall unless ti di bod yno dy hun," meddai Elen.

Er i'r ddau brofi cyfnod tywyll iawn, maen nhw'n mynnu bod y dyfodol yn edrych yn obeithiol.

"Mae'n achievement mawr a doeddwn i byth yn meddwl 'swn i'n gweld tair blynedd, ond os ti really isio fo, fedrwch chi 'neud o."

Wrth i Arwel nodi 100 diwrnod, mae o hefyd yn teimlo'n fwy gobeithiol am gadw i ffwrdd o gyffuriau, gan ddweud ei fod yn deall y peryglon yn fwy y tro hwn.

"Mae gynno' fi lot o support rownd fi - mae teulu fi 'di cymryd fi'n nôl ac mae pawb yn falch bo' fi'n gwella."

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.