Cyfarfod cyntaf Cymdeithas Llefaru Cymru yn 'garreg filltir bwysig'

Bydd parti llefaru y Drudwns o Aberystwyth yn cynnal sesiwn ar ddiwedd cyfarfod cynta'r gymdeithas
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwyr llefaru sy'n rhan o Gymdeithas Llefaru Cymru yn cynnal cyfarfod am y tro cyntaf erioed y penwythnos hwn.
Mae'r cyfarfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn yn "garreg filltir bwysig yn hanes llefaru ac yn gyfle i drafod y grefft a sut i'w meithrin a'i gwarchod ar gyfer y dyfodol", medd arbenigwyr yn y maes.
Wrth i Gymdeithas Llefaru Cymru ddatblygu, hoffai'r cadeirydd Cefin Roberts ei gweld yn "lledaenu, a chynnig gwasanaeth i hyfforddwyr gan roi mwy o hyder iddynt fynd ati i feithrin y genhedlaeth nesaf o lefarwyr".

Cefin Roberts ydy Cadeirydd Cymdeithas Llefaru Cymru
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Llefaru Cymru, Cefin Roberts ar raglen Dros Ginio fod yna "gymdeithas tebyg wedi bodoli yn yr 1980au ond na'th hi ddim para'n hir iawn oherwydd fod nhw ddim wedi ffurfio cymdeithas fel elusen, a chael cyfansoddiad ac yn y blaen".
"Mae gennym ni, wrth gwrs, Gymdeithas Alawon Gwerin, Dawnsio Gwerin a Chymdeithas Cerdd Dant sy'n gwarchod y ddwy grefft yna a teimlo oeddan ni, sawl un sy'n cystadlu mewn llefaru ers blynyddoedd, ein bod ni angen symud yn ein blaenau rhywfaint," ychwanegodd.
"Hwn 'di'r man cychwyn mewn ffordd [i lefaru] sy'n eithaf cynhyrfus mewn sawl ffordd."
'Dim y giamocs, dim yr hen ystumio 'ma ydy llefaru'
"Dim rhywbeth cystadleuol, eisteddfodol yn unig fyddai hwn achos ma'r grefft o lefaru yn llawer ehangach mewn un ffordd na chanu gwerin efallai - efo llefaru 'dan ni gyd yn llefaru...
"Mae yna athrawon, cyfreithwyr, darlithwyr, cyflwynwyr yn llefaru, ac yn ei ddefnyddio fel rhan hanfodol o fywyd bob dydd.
"Mae yna stereoteip o lefaru, yn enwedig o feddwl am y traddodiad eisteddfodol, ble roedd pob math o' stumiau yn cael eu gwneud, ond rydan ni'n raddol wedi tyfu allan o'r hen ffordd hen ffasiwn hwnnw.
"Dim y giamocs ydy o, dim yr hen ystumio 'ma ydy o, dan ni'n trio cael gwared ac yn chwilio am y naturiolaidd mewn byd llefaru fel ma pobl mewn theatr hefyd," ychwanegodd Cefin Roberts.
"Mae'r stori yna, ond i chi ffeindio hi y tu fewn i chi. 'Dach chi ddim angen wrth gyfathrebu efo'ch cynulleidfa i 'neud unrhywbeth yn ychwanegol dim ond gadael i'ch tu mewn chi a'r geiriau siarad, ac mi ddaw y grefft yn y diwedd."
Dros Ginio : "Ma'r profiad o lefaru yn ifanc wedi helpu fi gymaint!"
Cefin Roberts a Nansi Rhys Adams yn trafod y grefft o lefaru
Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae pobl ifanc yn dueddol o siarad a chyfathrebu llai, felly mae'n hanfodol bod y gallu i gyrraedd pobl drwy eiriau yn cael ei annog a'i warchod, medd Mr Roberts.
"Yn ei hanfod, ffordd o gyfathrebu a siarad gydag eraill yw llefaru, a byddai cymdeithas yn ddipyn tlotach petaen ni'n colli'r ddawn honno.
"Ydi mae llefaru yn gallu bod yn marmite, ond pan mae'r grefft yn cael ei gwneud yn iawn, yn ddidwyll ac yn safonol, yna mae'n werth ei chadw," ychwanegodd.

Mae Nansi Adams wedi bod yn llefaru ar lwyfan eisteddfodau ers oedd hi'n bedair oed
Mae Nansi Rhys Adams, sy'n dilyn cwrs mewn actio yn Ysgol Ddrama Mountview yn Llundain, wedi bod yn llefaru mewn eisteddfodau bach ers yn bedair oed.
"Mae'r profiad o lefaru yn ifanc iawn wedi helpu yn yr ysgol ddrama," meddai.
"Fi 'neud monologau yn ysgol ddrama ond llefaru oedd lle ddechreuodd hyn i gyd, cyfathrebu gyda'r gynulleidfa heb fiwsig... mae'n gallu bod yn bwerus, ble chi ar eich pen eich hun yn siarad yn uniongyrchol gyda'r gynulleidfa."
Ychwanegodd fod y profiadau o lefaru ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol wedi siapio pwy yw hi heddiw.
Mae'r profiad o roi pwyslais ar eiriau a llefaru yn glir wedi bod o help mawr iddi wrth iddi astudio actio, a mae e'n bendant wedi helpu wrth fynd ati i ddehongli gwaith Shakespeare yn y coleg, ychwanegodd.
Ymhlith y rhai sy'n rhan o'r diwrnod ddydd Sadwrn mae Teleri Mair, Mair Tomos Ifans, Nic Parry, y Prifardd Mererid Hopwood a Tudur Dylan.
Bydd parti llefaru Y Drudwns o Aberystwyth yn cloi'r cyfarfod gyda sesiwn ysgafn ar lefaru.
Gobeithio sefydlu cymdeithas lefaru i 'warchod' y grefft
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2024
Galw am gymdeithas lefaru i roi hwb i'r grefft
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.