Y Cymry ifanc i'w gwylio ym myd chwaraeon yn 2026

Mared, Ela, Tom, Mimi a RubyFfynhonnell y llun, Getty Images/BBC
  • Cyhoeddwyd

Unwaith eto eleni, mae Cymru Fyw wedi fy herio i ddewis pum person ifanc yn y byd chwaraeon i'w gwylio yn 2026.

Mae hi bob tro'n dasg anodd, ond dyma'r pump dwi wedi eu dewis.

Mared Griffiths, 18, pêl-droed

Mared Griffiths yn dathlu sgorio dros Gymru yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, CBDC

"Pwy ar y ddaear sy'n mynd i lenwi esgidiau Jess Fishlock?"

Dyna'r cwestiwn oedd yn cael ei ofyn pan gyhoeddodd Fishlock ei bod yn ymddeol o chwarae dros Gymru ym mis Hydref.

Fydd 'na byth Jess Fishlock arall, ond 'swn i'n synnu dim mai Mared Griffiths fydd seren nesaf y tîm.

Er mai dim ond 18 oed ydi'r ferch o Drawsfynydd, mae hi'n barod wedi chwarae i dîm cyntaf Manchester United, ac fe sgoriodd ei gôl ryngwladol gyntaf yn erbyn Awstralia yng ngêm olaf Fishlock dros Gymru.

Yn ymosodwr â llygad am gôl, mae hi hefyd yn chwaraewr cyflym a chryf.

Dwi'n disgwyl ei gweld yn datblygu i fod yn rhan bwysig iawn dîm Cymru yn ystod rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2027.

Tom Bowen, 19, rygbi

Tom Bowen yn sgorio cais dros Rygbi Caerdydd yn erbyn ConnachtFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Chwaraewr sy'n barod wedi cael ei gymharu gyda Shane Williams - ac mae'n hawdd gweld pam.

Mae Tom Bowen wedi creu cymaint o argraff ar yr asgell chwith i Rygbi Caerdydd y tymor yma, a dim ond mater o amser yw hi cyn y bydd yn cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru.

Traed sydyn, cyflymder pur a'r gallu i greu rhywbeth allan o ddim.

Mae o'n un o brif sgorwyr ceisiau y Bencampwriaeth Rygbi Unedig y tymor yma, ac mae'r term x-factor yn cael ei ddefnyddio'n aml i'w ddisgrifio.

Yr unig beth sy'n gweithio yn ei erbyn yw ei daldra, sef pum troedfedd a saith modfedd.

Ond dyna hefyd oedd taldra Shane Williams - a fuodd hynny byth yn broblem iddo fo.

Ruby Evans, 18, gymnasteg

Ruby Evans yn ennill medal arian ym Mhencampwriaethau Gymnasteg y Byd 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images

Am flwyddyn oedd 2025 i Ruby Evans, ac y gobaith ydi y bydd 2026 yn un llawn cystal.

Fe enillodd y ferch o Gaerdydd fedal arian ym Mhencampwriaethau Gymnasteg y Byd yn Jakarta, Indonesia.

Mae hi wedi creu hanes - hi ydi'r cyntaf erioed o Gymru i ennill medal mewn cystadleuaeth unigol ym Mhencampwriaethau'r Byd.

Ar ôl bod yn rhan o dîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Paris yn 2024, mi fydd yn gobeithio ennill medal dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow.

Mimi Xu, 18, tenis

Mimi Xu yn chwarae'n Wimbledon yn 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae hi wedi bod yn amlwg ers rhai blynyddoedd bellach fod Mimi Xu o Abertawe yn dipyn o dalent, a hynny ers iddi ennill Pencampwriaeth dan-16 Prydain yn 14 oed yn 2022.

Fe ddaeth uchafbwynt ei gyrfa gyd yn hyn yn Wimbledon yn 2025, pan gafodd y cyfle i wynebu Emma Raducanu yn y rownd gyntaf o flaen 15,000 o bobl.

Er iddi golli yn erbyn Raducanu, mae hynny wedi rhoi blas iddi o sut beth yw cystadlu ar y llwyfan mwyaf, a 'da ni'n siŵr o'i gweld hi'n cymryd rhan mewn mwy o'r pencampwriaethau mawram flynyddoedd maith i ddod.

Hefyd yn 2025 fe enillodd Bencampwriaeth Agored Wrecsam - digwyddiad sy'n rhan o Gylchdaith Tennis y Byd.

Mae hi bellach o fewn y 300 safle uchaf ar restr detholion y byd, sy'n golygu y bydd hi'n cael mwy o gyfleoedd i chwarae mewn twrnamentau mawr.

Ela Letton-Jones, 19, nofio

Ela Letton-Jones yn ystod un o'i sesiynau ymarfer yng Nghanolfan Byw'n Iach Arfon yng Nghaernarfon

Un arall gafodd flwyddyn gofiadwy yn 2025.

Ar ôl cael ei dewis yng ngharfan Prydain ar gyfer Pencampwriaethau Para-Nofio y Byd yn Singapore, fe lwyddodd i ennill medal arian yn y ras 100m dull cefn.

Mae gan Ela nam ar ei golwg sy'n golygu ei bod yn cystadlu yn y categori S12.

"S11 ydi'r mwyaf eithafol ac S13 ydi'r lleiaf eithafol, a dwi yn y canol," meddai.

"Mae'n fy effeithio o ddydd i ddydd, ond i fod yn onest dwi wedi arfer efo fo erbyn hyn. Dwi'm yn gwybod dim yn wahanol."

Bydd hi'n gobeithio cystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2026, tra mai'r nod hir dymor yw cael ei hun i dîm Prydain ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn LA yn 2028.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.