Eluned Morgan: 'Ymyrraeth UDA yn Venezuela yn croesi llinell'

Fe wnaeth yr Unol Daleithiau ymosod o'r awyr ar brifddinas Venezuela, Caracas ar 3 Ionawr
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Venezuela yn "croesi llinell" o ran cyfraith ryngwladol, gan rybuddio bod hynny'n tanseilio trefn y byd ac yn creu peryglon difrifol i Ewrop.
Ddydd Sadwrn 3 Ionawr fe wnaeth lluoedd yr Unol Daleithiau ymosod o'r awyr ar Venezuela, gan ddal yr Arlywydd Nicolas Maduro a'i wraig Cilia Flores.
Mewn llys yn Efrog Newydd mae'r ddau wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau'n ymwneud â chyffuriau ac arfau.
Wrth ymateb i'r digwyddiadau ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd Eluned Morgan nad oedd hi'n credu bod cyfraith ryngwladol wedi ei dilyn.
"Dwi'n meddwl bod 'na berygl os ydych chi'n croesi llinell a chi'n mynd i mewn i wlad arall, fel mae Trump wedi gwneud, ac yn ceisio datblygu a cheisio rhedeg y wlad yna o'r tu fas."
'Gallai'r canlyniadau fod yn ddifrifol'
Wrth gyfeirio at bryderon ehangach yn Ewrop, dywedodd Eluned Morgan y gallai diffyg ymateb clir nawr arwain at ganlyniadau llawer mwy difrifol yn y dyfodol.
"Mae hynny'n tanseilio strwythur y byd, ac os nad ydyn ni'n dod allan yn glir o ran condemnio hyn, mae'n mynd i fod yn fwy anodd i ni gondemnio os bydd Trump yn gwneud unrhywbeth yn Greenland - a dyna sydd, wrth gwrs, yn peri lot o bryder i ni yn Ewrop ar hyn o bryd.
"Pe bai hynny'n digwydd, fydde diwedd, dwi'n meddwl, ar NATO.
"Fydde'r canlyniadau yn ddifrifol."

Dywedodd Eluned Morgan, er nad oedd y sefyllfa yn Venezuela yn dderbyniol fel ag yr oedd, mai lle'r wlad oedd datrys hynny ac nid yr Unol Daleithiau
Ychwanegodd hefyd nad oedd y sefyllfa yn Venezuela fel ag yr oedd cyn y penwythnos yn dderbyniol.
"Fel mae'n digwydd, o'n i allan yn Venezuela pan gafodd Chávez ei benodi yn 1998 -dyma oedd ddechre'r bennod yma.
"Wrth gwrs, doedd Maduro ddim yn arweinydd da; dwi'n meddwl oedd 'na lot o corruption yna.
"Ond mae hi lan i Venezuela i sortio'r sefyllfa allan yn hytrach na'r Unol Daleithiau yn dod i mewn.
"Be' sy'n amlwg yw bod diddordeb gyda nhw i gael eu dwylo nhw ar yr olew, a dyna dwi'n meddwl sy'n tanseilio eu hachos nhw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.