Ysgolion ar gau wrth i eira a rhew effeithio ar rannau o Gymru

EiraFfynhonnell y llun, Weather Watchers
  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o ysgolion wedi gorfod cau am yr ail ddiwrnod yn olynol ar ôl i eira a rhew effeithio ar rannau o Gymru.

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am rew i rannau helaeth o ogledd orllewin a de orllewin Cymru fore Gwener.

Fe ddaeth y rhybudd hwn i ben am 11:00.

Mae arbenigwyr yn annog pobl i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.

Er i nifer o dai ddydd Iau fod heb drydan o ganlyniad i'r tywydd, mae'r Grid Cenedlaethol yn dangos bod y cyflenwad bellach yn ôl.

Ysgolion ar gau

Gyda rhybudd melyn wedi bod mewn grym, a disgwyl cawodydd gaeafol a rhew yn ystod y bore, mae nifer o ysgolion yn parhau ar gau ddydd Gwener.

Mae 46 ysgol ar gau, a dwy ar gau yn rhannol yn Sir Benfro, a chwe ysgol ar gau yn Sir Gaerfyrddin.

Mae modd i chi weld y restr o'r holl ysgolion sydd ar gau yn y siroedd yna isod.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig