'Unig' bod yn sâl pan does 'neb yn gallu uniaethu' - cyflwynydd Radio Cymru

Mae Lauren Moore yn dweud bod tyfu i fyny gyda chyflwr prin wedi teimlo'n unig ar adegau
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwynydd BBC Radio Cymru wedi sôn am yr unigrwydd a'r oedi mewn diagnosis sy'n gallu wynebu pobl â chyflyrau prin.
Mae Lauren Moore yn byw hefo Juvenile Dermatomyositis (JDM), cyflwr hynod anghyffredin sy'n effeithio ar tua thri o blant ym mhob miliwn bob blwyddyn.
Mae hi'n dweud bod diffyg cefnogaeth a diffyg ymchwil wedi gwneud ei thaith yn anodd, a'i bod yn parhau i fyw â blinder a heriau dyddiol.
Gyda fframwaith clefydau prin Llywodraeth Cymru yn dod i ben yn 2026, mae arbenigwyr yn rhybuddio bod angen cynllun newydd sy'n rhoi teuluoedd wrth wraidd y system, ac yn sicrhau diagnosis a gofal mwy cyson ar draws Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "swyddogion ar draws y DU yn ystyried sut i gydweithio ar bolisi ar gyfer y dyfodol".
'O'n i methu codi o'r gwely'
Cafodd Lauren Moore ei diagnosis ym mis Mai 2012 ar ôl dechrau profi symptomau yn Nhachwedd 2011.
"Ges i'r diagnosis pan o'n i yn 15 a ma' fe'n gyflwr sy'n meddwl bod y corff yn gwneud gormod o antibodies," meddai.
"Ma'r antibodies sydd yn eich corff chi yn amlwg pan chi'n sâl yn trio atal infections neu viruses rhag datblygu i fod yn really wael yn eich corff.
"Ma' rhywbeth fel rhwng 60 a 120 yn eich corff chi - a pan o'n i ar fy ngwaethaf o'dd 40,000 o antibodies yn fy nghorff i.
"O'dd yr antibodies yn bwyta fy nghyhyrau i, so dros y misoedd yna o'n i just yn gwanhau i'r pwynt lle o'n i methu cerdded lan y grisie, o'n i methu codi o'r gwely, o'n i methu codi fy mreichie i uwchben fy mhen, methu sythu breichie fi heibio 90 gradd... O'n i'n really sâl.
"Ond oherwydd ma' pob doctor yn dysgu amdano fe ond yn amlwg yn anaml iawn yn gweld y cyflwr, 'nath e gymryd gymaint o amser i bobl allu gweld taw dyna be' o'dd e."

Lauren gyda'i rhieni tua thri mis ar ôl cael diagnosis
Mae Lauren bellach eisiau i fwy o bobl wybod am y cyflwr.
"Ma' mor bwysig i fi godi ymwybyddiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol neu yn unman achos ma'n gallu bod yn unig iawn, yn enwedig pan ti erioed wedi cwrdd â rhywun sydd gyda'r un cyflwr â ti.
"Ar y pryd doedd 'na neb oedd yn gallu uniaethu efo fi na'r teulu. Bydde cefnogaeth neu fwy o ymchwil i'r afiechyd wedi bod yn lifechanging."
"Dwi dal i fyw efo'r exhaustion, ma' rhaid i fi fod yn ofalus faint fi'n 'neud a be' dwi'n cytuno i wneud.
"Nes i golli lefel mawr o'r cyhyrau felly ma'r corff yn gweithio ddwywaith mor anodd i wneud y pethe mwya' syml."
'Anhygoel' bod calon fy mab a fu farw yn parhau i fachgen arall - mam
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2025
Ystafell drochi newydd mewn adran frys am 'newid cymaint o fywydau'
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2025
Teyrnged i fachgen 14 oed 'anhygoel' fu farw gydag MND
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2025
Mae gan Lywodraeth Cymru fframwaith ar gyfer clefydau prin, sy'n dod i ben yn 2026.
Mae Marie James o'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol yn galw am ymrwymiad cryfach pan fydd yn dod i ben.
"Rydyn ni wedi gweld cynnydd, ond ni allwn golli momentwm pan ddaw'r cynllun presennol i ben y flwyddyn nesaf.
"Mae angen i'r fframwaith newydd adeiladu ar yr hyn sydd wedi gweithio - fel clinigau SWAN, dolen allanol [Syndrome Without A Name] a rhwydweithiau cyflyrau prin - ond gyda buddsoddiad go iawn a theuluoedd wrth galon pob cam.
"Nid ewyllys da yn unig sy'n ddigon."

Mae Marie James yn dweud bod cyflyrau prin yn cael eu hanwybyddu'n aml
Ychwanegodd mai'r "flaenoriaeth fwyaf yw sicrhau nad oes rhaid i deuluoedd ymladd am y gofal maen nhw'n ei haeddu".
"Mae pobl fel Lauren sy'n byw gyda chyflyrau prin yn haeddu cefnogaeth dosturiol sydd wedi'i chydlynu, ble bynnag maen nhw'n byw."
'Ymchwil yw'r allwedd'
Mae Marie hefyd yn pwysleisio'r angen dybryd am fuddsoddiad mewn ymchwil - "mae'n sail i bopeth".
"Ymchwil yw'r allwedd i bopeth — diagnosis cyflymach, triniaethau gwell, a gobaith ar gyfer y dyfodol. Ond mae cyflyrau prin yn cael eu hanwybyddu'n aml.
"Mae angen i'r DU uno data, gwyddonwyr a theuluoedd fel bod darganfyddiadau newydd, fel deallusrwydd artiffisial a therapïau genynnol, yn cyrraedd y bobl sydd eu hangen fwyaf arnynt."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio efo'r gwasanaeth iechyd ar flaenoriaethau'r Cynllun Gweithredu Clefydau Prin, sy'n cynnwys codi ymwybyddiaeth a gwella mynediad at wybodaeth ac adnoddau".
Gyda'r fframwaith ehangach yn dod i ben yn 2026, ychwanegodd llefarydd fod "swyddogion ar draws y DU yn ystyried sut i gydweithio ar bolisi ar gyfer y dyfodol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.