Teyrnged i fachgen 14 oed 'anhygoel' fu farw gydag MND

Y gred yw mai Kyle Sieniawski oedd y person ieuengaf oedd yn byw â chyflwr MND yn y DU
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni bachgen 14 oed o Bontypridd fu farw o gyflwr motor niwron (MND) yr wythnos ddiwethaf wedi rhoi teyrnged i'w mab "anhygoel" ac "anghredadwy".
Y gred yw mai Kyle Sieniawski oedd y person ieuengaf oedd yn byw â'r cyflwr yn y DU.
Roedd wedi bod yn dangos symptomau ers tro ond fe gafodd ddiagnosis yn gynnar yn 2025.
Fe ddatblygodd ei gyflwr yn gyflym a bu farw ddydd Iau, 27 Tachwedd.
Yn ôl ei fam, Melanie Sieniawski: "Roedd e'n wych, roedd ganddo bersonoliaeth dda ac roedd e wastad yn cael jôc!"
Dywedodd ei dad, Mark Sieniawski: "Roedd e'n llawn drygioni a direidi, ac roedd ei bersonoliaeth yn disgleirio.
"Roedd yn blentyn gwych, roedd yn anghredadwy."
"Wnaeth o erioed gwyno am ei gyflwr," ychwanegodd, "roedd e'n brwydro."
"Pe bai e yma nawr heddiw, mae'n debyg y byddai e'n gwneud i chi chwerthin neu chwarae Connect 4," meddai ei fam, "ond byddai e'n siwr o ennill!"

Wrth i gyflwr Kyle waethygu, roedd yn amhosib iddo fynd gartref, a bu ei deulu wrth ochr ei wely yn Ysbyty Arch Noa, Caerdydd, am bron i flwyddyn
Fe ddaeth ei ddiagnosis ddechrau'r flwyddyn yn sioc anferth i'r teulu.
Yn ôl Mr Sieniawski, mae "wir angen codi ymwybyddiaeth a pharhau i wthio hynny oherwydd, mae'r hyn yr aeth fy mhlentyn drwyddo yn ofnadwy ac yn erchyll i'w wylio, i fod yn onest".
"Mae'n gallu effeithio unrhyw un, o unrhyw oedran, ar unrhyw adeg," meddai mam Kyle.
"Mae angen cymaint o ymwybyddiaeth codi arian i gael triniaeth neu iachâd llwyr cyn gynted â phosibl."

Yn ôl mam Kyle, Melanie Sieniawski, mae'r cyflwr yn gallu "effeithio unrhyw un, o unrhyw oedran, ar unrhyw adeg"
Wrth i gyflwr Kyle waethygu, roedd yn amhosib iddo fynd gartref, a bu ei deulu wrth ochr ei wely yn Ysbyty Arch Noa, Caerdydd, am bron i flwyddyn.
Yn ôl ei dad: "Fe gyffyrddodd â chymaint o bobl, a dweud y gwir, roedd yn anhygoel. Roedd yn sgwrsio ac yn chwerthin gyda phawb."
"Daeth cymaint o ddieithriaid i ymweld ag e, ledled y wlad, pobl oedd wedi cael eu cyffwrdd gan MND ac roedden nhw i gyd yn meddwl ei fod yn anhygoel."
Roedd Liam, brawd Kyle, wedi gohirio ei gwrs coleg er mwyn cael treulio amser yn yr ysbyty.
Dywedodd eu tad: "Roedd Liam gydag e, ochr yn ochr drwyddo draw, yn ystafell yr ysbyty; roedd e'n anhygoel."

Fe gwrddodd rhieni Kyle â'r chwaraewr rygbi'r gynghrair, Kevin Sinfield, oedd yn ymweld ag Abertawe fel rhan o'i her ddiweddaraf i godi arian at ymchwil MND
Roedd rhieni Kyle yn rhoi teyrnged i'w mab wrth i'r chwaraewr rygbi'r gynghrair, Kevin Sinfield, ymweld ag Abertawe fel rhan o'i her 7 marathon ultra mewn 7 diwrnod i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer ymchwil MND.
Mae'n rhedeg er cof am ei ffrind a'r cyn-chwaraewr, Rob Burrow, gafodd ddiagnosis o MND yn 2019 ac a fu farw ym mis Mehefin 2024.
Fis diwethaf, agorodd Canolfan Rob Burrow ar gyfer MND yn Leeds, sydd wedi derbyn arian o ymdrechion Sinfield.
Er nad oedd Kyle yna i gyfarfod Sinfield, wrth iddo siarad gyda'r teulu, dywedodd ei fod yn gobeithio eu bod "yn teimlo bod y gymuned yno" iddyn nhw ac y bydd y gwneud yn "siŵr y bydd Kyle yn cael ei gofio o hyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2025
