Aled Jones Williams: Ailddarganfod ffydd wedi cyfnod anodd

Aled Jones Williams
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Aled Jones Williams goron Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002

  • Cyhoeddwyd

Dyw bywyd ddim wastad wedi bod yn hawdd i'r dramodydd a'r prifardd Aled Jones Williams o Gricieth - mae'n alcoholig, yn byw â chanser, a thra'n offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru fe gollodd ei ffydd.

Ond yn ddiweddar mae wedi ailddarganfod ei ffydd wedi iddo fod ar "ymylon anffyddiaeth ac yn arddel math o ffydd atheistaidd".

Yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg bu Aled Jones Williams yn egluro ei fod wedi ailddarganfod ei ffydd wrth ddychwelyd i Eglwys Gwyndaf Sant, Llanwnda - eglwys ei blentyndod - gyda'i ŵyr bach.

Roedd wedi bod yn osgoi mynd i'r eglwys am flynyddoedd gan ei fod yn rhannol yn cofio am y cyfnod pan oedd iechyd ei dad, a oedd yn offeiriad yn yr eglwys, yn fregus.

"Roeddwn i ofn y byddai rhywbeth yn digwydd iddo ac roedd Mam ar bigau - petai rhywbeth yn digwydd iddo fydden ni heb gartra'.

"Roeddan ni'n byw dan gwmwl a dwi'n meddwl bo' fi wedi cael f'ordeinio er mwyn bod yn agos i Dad. Roedd 'na deimlad o gas a chariad at yr eglwys."

Yn sgil yr ofn doedd Aled Jones Williams ddim wedi bwriadu mynd i'r eglwys yn Llanwnda, ond wrth fynd â'i ŵyr am dro yn betrus mi aeth mewn "a daeth rhywbeth at ei gilydd" gan fynd ag ef yn ôl i "wreiddiau cwbl angenrheidiol".

Wrth gofio am ei gyfnod cynt yn ffarwelio â'r eglwys dywedodd: "Dwi'n meddwl mod i wedi mynd yn llwyr ar goll yn yr eglwys oherwydd lot o bethau, ond yn fwy na dim am i mi golli gafael ar y gwahaniaeth sylfaenol rhwng crefydd a ffydd.

"Fel y gŵyr sawl un fe ddigwyddodd yr alcohol ac yn y diwedd mi es - gadael yr eglwys.

"Ro'n i'n teimlo mod i wedi mynd dan gwmwl. Felly hwyl fawr a dwi byth yn dod nôl [oedd fy agwedd i]."

Wedi'r cyfnod hwnnw trodd at Fwdhaeth.

"Mi fûm i am hydoedd efo'r Bwdydistiaid ac roedd yn lle o 'gonfalesio' i ddod dros yr holl brofiad ond o'n i'n gwybod yn yng nghalon er i mi gael lot o bethau gan Fwdystiaeth mai crefydd oer ydi hi yn y diwedd - doedd y syniad yma o berthynas dwym bersonol Cristnogaeth, ddim yno."

Dim troi at y ffydd oherwydd canser

Mae'n pwysleisio nad ei ddiagnosis o ganser sydd wedi ei yrru'n ôl at ffydd.

"Mi fydd pobl yn dweud 'colli'i blwc ddaru o, a wedyn dychryn gymaint nes mynd nôl i chwilio am y bagal crefyddol yma'.

"Dim o gwbl. Mi agorodd y canser rhywbeth, rhyw ddealltwriaeth arall, sef mai creadur ydw i, ac felly os creadur yna meidrol.

"Peryg anffyddiaeth, wrth gwrs ydy defnyddio hwnna yn erbyn Duw," ychwanegodd.

Wrth ddychwelyd y diwrnod hwnnw i'r eglwys yn Llanwnda mae'n sôn am ailddarganfod cynhesrwydd ei blentyndod a hynny wedi llwybr troellog ac amrywiol - o ffydd i alcoholiaeth, i Fwdhaeth, i anffyddiaeth, trwy ward triniaeth canser ac yn ôl i fyd ffydd.

Mae'r cyfan wedi ei gofnodi yn ei gyfrol newydd Reit Rownd a'r cyfweliad i'w glywed ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig