Arddangosfa Gwen John: Argraffiadau'r artistiaid

Hunanbortread Gwen JohnFfynhonnell y llun, Tate
Disgrifiad o’r llun,

Hunanbortread Gwen John

GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Dros y penwythnos mae arddangosfa arbennig o waith yr artist Gwen John wedi agor yn Amgueddfa Cymru. Dyma'r tro cyntaf i rai o'r gweithiau hyn, yn enwedig ei brasluniau niferus, gael eu gweld yn gyhoeddus.

Aeth rhaglen Llwyfan gyda Manon Steffan Ros i gyfarfod yr artistiaid Meinir Mathias a Peter Lord yn yr amgueddfa i drafod beth sy'n gwneud yr arddangosfa hon yn un mor nodedig.

Dyma rai o'u hargraffiadau nhw.

Peter Lord, Cath Davies, Manon Steffan Ros a Meinir Mathias
Disgrifiad o’r llun,

Manon Steffan Ros gyda chyfranwyr y rhaglen: Peter Lord, Kath Davies a Meinir Mathias

"Fel arddangosfa, mae'n ddatganiad pwysig, dwi'n credu. Mae yna ddatganiad fan hyn fel bod ni'n hawlio Gwen John fel ased cenedlaethol. Dyma goroni Gwen John fel 'yr artist Cymreig' mewn gwirionedd." Dyna oedd argraff y cerflunydd, Peter Lord.

Dywedodd yr arlunydd Meinir Mathias,

"Roedd Gwen [yn byw] yn y cyfnod yna lle roedd menywod yn dechrau mynegi eu celfyddyd ac yn arbrofi, yn troi i fod yn artistiaid annibynnol, felly mae'n ddiddorol iawn ein bod ni nawr yn edrych yn ôl ar waith Gwen ac yn penderfynu ei dathlu hi.

"Ni'n edrych yn ôl ar hanes a sut mae wedi cael ei 'sgrifennu ac yn ail-ddehongli hynny nawr gyda'r persbectif cyfoes."

Mae'r arddangosfa yn ailosod lle Gwen John mewn hanes nid fel ffigwr atodol i artistiaid gwryw ei chyfnod, ond fel artist unigryw, dwys ac ysbrydoledig.

Arddangosfa Gwen JohnFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru

Proses greadigol yn ffenest i'w meddwl hi

Yn y drafodaeth, awgrymir mai un o nodweddion mwyaf trawiadol yr arddangosfa yw'r pwyslais ar broses greadigol Gwen John. Yn hytrach na chanolbwyntio'n unig ar y paentiadau gorffenedig, mae'r arddangosfa'n tywys ymwelwyr drwy'r camau gweithredol – y brasluniau, y newidiadau, a'r manylion sy'n dangos sut yr oedd hi'n meddwl ac yn creu.

Wrth edrych ar rai o'r brasluniau, dywedodd Meinir Mathias:

"Maen nhw fel tudalennau mas o ddyddiadur, mewn ffordd. Maen nhw mor bersonol.

I ni fel gwylwyr mae fe'n hollol ddiddorol achos chi'n gweld ei meddyliau hi, ei phroses hi, mae'r paentiadau yn hynod bwerus."

Ymhelaethodd gan ddweud mae'n siŵr nad oedd erioed yn fwriad gan Gwen i'w brasluniau gael eu gweld yn gyhoeddus, ac fel artist mae meddwl am ei brasluniau ei hun yn cael eu harddangos ar wal yn frawychus eglurodd. Ond mae gweld y broses ar bapur wir yn dangos ymroddiad Gwen a'r lle mae hi'n haeddu ei gael gyda'i chyfoedion gwrywaidd.

"Artist bach Duw"

Yn yr arddangosfa mae fersiynau gwahanol o'r un darlun ganddi, ac yn ôl Peter Lord, mae hyn yn dangos ei chwilfrydedd hi am fodolaeth dynol. Dywedodd:

"Mae hi'n hollol obsessive. Mae'r ffocws dwys iawn, iawn iawn ar y broblem o sut i gyfleu dirgelwch ein bodolaeth ni fel cyrff corfforol yn y byd yma. Iddi hi, myfyrdodau ydyn nhw ar ryfeddod ein bodolaeth corfforol ni a'r berthynas hynny gyda realiti, ac yn fwy iddi hi, realiti Duw a beth yw'r cysylltiad rhwng y ddau."

Cyfeiriodd Gwen John ati ei hun fel "God's own artist" mewn llythyr, ac mae Peter yn egluro fod hynny'n dipyn o beth iddi ddatgan ei hun yn artist i Dduw, gan ddweud

"Roedd hi'n ystyried ei hun fel artist Duw gyda rhyw bwrpas arbennig wedi'i roi iddi gan y duwdod i ystyried y berthynas yma rhwng y byd corfforol a byd ysbrydol arall."

Mae Arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod yn Amgueddfa Cymru tan 28 Mehefin 2026.

Bydd Llwyfan ar BBC Radio Cymru am 13:00 dydd Sul, ond gallwch wrando ar y rhaglen ar BBC Sounds nawr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.