Arddangosfa yn dathlu'r arlunydd 'ysbrydoledig' Gwen John

Gwen John mewn hunan-bortread o 1902
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa unigryw gyda dros 200 o luniau un o arlunwyr mwyaf dylanwadol Cymru, Gwen John, ar fin agor yn yr Amgueddfa Genedlaethol.
Gwen John oedd un o'r menywod cyntaf i dderbyn addysg ffurfiol yn y celfyddydau ym Mhrydain, ar ôl cael ei geni yn Hwlffordd, Sir Benfro, 150 o flynyddoedd yn ôl.
Fel artist benywaidd ar ddechrau'r 20fed ganrif, "fe dorrodd Gwen John gŵys newydd", yn ôl Dr Kath Davies, cyfarwyddwr casgliadau Amgueddfa Cymru.
Mae ei gwaith yn parhau i ysbrydoli unigolion nodedig yn y byd ffasiwn, celf a cherddoriaeth.

Mae'r darlun yma o Ddinbych-y-pysgod yn un o weithiau cynharaf Gwen John
Cafodd Gwen John ei magu yn Ninbych-y-pysgod ar ôl marwolaeth ei mam pan roedd hi'n wyth oed.
Fe symudodd i Lundain i astudio yn ysgol gelf Slade cyn teithio i Baris, ble daeth hi'n rhan o gymuned artistig y ddinas.
"Dros y blynyddoedd cafodd gwaith Gwen John ei werthuso'n bennaf drwy fywgraffiadau," meddai Lucy Wood, curadur Gwen John: Hardd a Hynod.
"Drwy gasglu ynghyd ei phaentiadau olew enwocaf a gweithiau ar bapur o'i stiwdio sydd prin wedi'u harddangos, mae'r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar ei dull o weithio a'i huchelgais artistig."

Lucy Wood yw curadur Gwen John: Hardd a Hynod
Un o'r byd ffasiwn sydd wedi cydweithio gyda'r amgueddfa i greu'r arddangosfa yw pennaeth Dior, Jonathan Anderson, sydd â chasgliad personol o waith Gwen John.
"Dwi'n credu bod 'na rai artistiaid sy'n blodeuo ar gyfnodau penodol mewn hanes sy'n newid y ffordd fyddwn ni'n gweld y fenyw fel testun," meddai.
"Mae menyw yn paentio menyw yn hollol wahanol i ddyn yn paentio menyw oherwydd bod dealltwriaeth o'r ffurf fenywaidd, dealltwriaeth o emosiwn sy'n anodd iawn ei efelychu.
"Dyna pam dwi'n credu ei bod hi'n un o artistiaid mwyaf hanes Prydain, am ei bod hi'n newid y deinamig hwnnw."

Mae'r darlun yma o Mere Poussepin yn enghraifft o ddiddordeb cynyddol Gwen John mewn crefydd wrth iddi fynd yn hŷn
Bydd BBC Cymru yn dangos rhaglen ddogfen newydd fel rhan o ddathliadau 150 mlynedd ers genedigaeth Gwen John.
Y cyflwynydd Sian Eleri sy'n mynd ar daith o orllewin Cymru i Lundain ac i Baris er mwyn dysgu am ei hanes a'i lle ymysg rhai o artistiaid mwyaf dylanwadol ei hoes.
"Dwi'n falch bod hi'n cael y sylw mae hi'n haeddu achos mae ei chelf hi mor magnetig. Mae yna lot o'i chelf sy'n tynnu ti i fewn," meddai.
"Dwi ddim yn teimlo fel person sydd wir yn deall celf ond wrth weld ei gwaith yn y byd go iawn, roedd hi'n sbesial.
"A dwi'n rili balch bod yr arddangosfa a'r rhaglen ddogfen yma yn gyfle i ni ddathlu dynes mor anhygoel sy'n dal i ysbrydoli."
Dros Ginio: 'Cyfle i edrych eto ar Gwen John yr artist'
Yr hanesydd celf Mari Griffith yn nodi 150 o flynyddoedd ers geni yr artist Gwen John
Un arall sydd wedi ei ysbrydoli gan hanes a gwaith Gwen John yw aelod o fand y Manic Street Preachers, Nicky Wire.
Wrth ymweld â'r arddangosfa yng Nghaerdydd, dywedodd iddo ddarganfod ei chelf am y tro cyntaf wrth ymweld ag un o'i hoff lefydd yng Nghymru, sef Dinbych-y-pysgod.
"Natur anghaffaeladwy Gwen sydd wastad yn fy niddori," meddai.
"Ysgrifennon ni gân hefyd ynglŷn â pherthynas ddiddorol rhyngddi hi a'i brawd, Augustus, oedd hefyd yn artist arbennig ond yn bersonoliaeth gwahanol iawn.
"Mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi am y 25 o flynyddoedd diwethaf a bod yn onest."
Bydd arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod yn agor i'r cyhoedd ar 7 Chwefror hyd at ddiwedd Mehefin yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd, cyn symud ymlaen i Gaeredin ac yna i Connecticut a Washington yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn nesaf.
Bydd pennod arbennig o raglen Llwyfan gyda Manon Steffan Ros o'r arddangosfa, ar Radio Cymru am 14:00 ddydd Sul.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023
