Mam yn poeni am effaith cau ysgol yn Sir Gâr ar ei mab bregus

Dywedodd Leila Webber ei fod yn "ofnadwy o anodd" gweld ei mab Tommy "yn mynd trwy hyn"
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon sylweddol wedi cael eu codi am iechyd a lles bachgen ifanc bregus pe bai ei ysgol gynradd yn cau.
Mae gan Tommy Webber, 7 oed o Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin, gyflwr genetig hynod o brin o'r enw Syndrom Bloom, sy'n debygol o brinhau ei fywyd yn sylweddol.
Cynllun Cyngor Sir Gâr ydy cau Ysgol Meidrim ddiwedd y flwyddyn, yn bennaf oherwydd "nifer isel" y disgyblion.
Dywedodd y cyngor na fydden nhw'n gwneud sylw pellach gan eu bod yn ymgynghori gyda'r cyhoedd.

Mae cynghorwyr yng Nghaerfyrddin wedi pleidleisio o blaid ymgynghori ar y posibilrwydd o gau Ysgol Gynradd Meidrim erbyn diwedd 2026
Cafodd Tommy ddiagnosis o Syndrom Bloom yn bump oed.
Mae'n gyflwr hynod o anarferol sy'n gallu arwain at lu o broblemau iechyd, gan gynnwys risg uchel o ganser, system imiwnedd gwannach a thyfu'n arafach na'r disgwyl.
Y gred ydy mai ychydig gannoedd o bobl trwy'r byd sydd wedi cael y diagnosis.
"Mae'n ofnadwy o anodd ei weld yn mynd drwy hyn," meddai ei fam, Leila.
"Mae o wastad yn rhoi wyneb dewr ymlaen a dydw i ddim yn gwybod sut. Mae o'n ysbrydoledig."
'Nid ysgol, ond teulu'
Ym mis Tachwedd fe bleidleisiodd cynghorwyr yng Nghaerfyrddin o blaid ymgynghori ar y posibilrwydd o gau Ysgol Gynradd Meidrim erbyn diwedd 2026.
Mae'r cyngor yn dadlau bod nifer isel o ddisgyblion yno a bod cost uchel i hynny.
Ar hyn o bryd mae 32 o ddisgyblion yno, gyda chapasiti ar gyfer 54.
Dywedodd Leila y byddai cau'r ysgol yn cael "effaith enfawr" ar Tommy.
"Mae o wedi adeiladu perthynas gyda'r athrawon a'r disgyblion," meddai.
"Nid ysgol ydy o ond teulu. Maen nhw wedi bod yn wych efo fo."

Mae Ann Jones o'r farn bod plant yn cael mwy o sylw personol mewn ysgolion bach
Mae Tommy wedi bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Guy's and St Thomas' yn Llundain.
Mewn llythyr fydd yn cael ei anfon at y cyngor, mae nyrs arbenigol sydd wedi bod yn gofalu amdano yn dweud bod "dilyniant a threfn yn elfennau pwysig iawn o'i fywyd".
Ychwanegodd: "Mi fyddai unrhyw newid mawr, fel newid ysgol, teithiau hirach pob dydd neu newid staff yn gallu ei boeni'n fawr, ac fe all gael effaith negyddol ar ei addysg a'i iechyd."
Dywedodd Ann Jones, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Meidrim bod lle i "bob math o blant" mewn ysgolion bach.
Mae plant yn cael mwy o sylw personol mewn ysgolion o'r fath, meddai, a "rhif ydyn nhw mewn ysgolion mawr".
'Fi ffili meddwl am effaith' cau tair ysgol Gymraeg yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025
Trafod cau ysgol gynradd sydd â dau ddisgybl yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
Gallai pedair ysgol gynradd yn Sir Gâr orfod cau yn 2026
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2025
Yn ôl Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith, mae cymunedau gwledig Cymraeg yn wynebu "chwalfa".
Ychwanegodd: "Yn yr ysgol hon mae plant o wahanol gefndiroedd, rhai sydd wedi symud mewn o ardaloedd di-Gymraeg, rhai gydag anghenion arbennig, i gyd yn cael eu gwerthfawrogi ac yn teimlo'n rhan o gymuned glos a'r Gymraeg ydy cyfrwng y gymuned yna."
Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod cyfnod ymgynghori ffurfiol yn digwydd ar hyn o bryd i gasglu barn am y cynigion.
"Mae hyn yn rhoi'r cyfle i rieni, athrawon, llywodraethwyr ysgol, a'r gymuned ehangach gael dweud eu dweud am y cynigion, ac rydym yn annog pawb i rannu eu barn fel rhan o'r broses," meddai llefarydd.
"Nid ydym yn gallu gwneud sylwadau pellach tra bo'r cyfnod ymgynghori ar waith.
"Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd adroddiad yn cael ei lunio i'r cabinet ei ystyried."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.